Neidio i'r prif gynnwy
Don Thomas

Don Thomas yw Prif Swyddog Gweithredol Cynhyrchwyr Cig Oen ac Eidion Cymru Cyf.

Maent yn cyflawni cynlluniau gwarant fferm achrededig yng Nghymru. Ef hefyd yw Cadeirydd Gweithredol Corff Llywodraethu Ardystio Bwyd Cymru o Safon Cyf, sef corff Ardystio Achrededig UKAS sy'n darparu tystysgrifau safonau ISO.

Addysgwyd Don yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Mynychodd Brifysgol Abertawe ac Ysgol Fusnes Henley lle enillodd MBA.

Mae Don yn gymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA). Ar hyn o bryd, ef yw cadeirydd ACCA Cymru. Mae’n un o gynrychiolwyr y DU ar y Cynulliad Rhyngwladol. Mae'r Cynulliad yn cynrychioli cyfrifwyr o dros 50 o wledydd yn fyd-eang.

Mae'n gwasanaethu neu wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer nifer o gwmnïau preifat a sefydliadau cyhoeddus. Mae'r rhain yn cynnwys Bwrdd Iechyd y GIG a Celtic Pride Ltd.

Mae diddordebau proffesiynol Don yn cynnwys Cynllunio Corfforaethol a Llywodraethu a Rheoli Risg. Mae'n aelod arbenigol o'r Sefydliad Rheoli Risg.

Mae ei ddiddordebau personol yn cynnwys coginio, gwin a chwaraeon. Mae Don yn gefnogwr brwd i rygbi Cymru a phêl-droed Cymru.