Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Chwefror 2017.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 847 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich sylwadau ar gynigion i ddiwygio a chydgrynhoi'r fframwaith rheoleiddio llywodraethu ysgolion yng Nghymru.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar gynigion i ddiwygio'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer llywodraethu ysgolion, er mwyn canolbwyntio mwy ar gyrff llywodraethu medrus. Mae hyn yn cynnwys rhoi'r hyblygrwydd i gyrff llywodraethu wneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch eu cyfansoddiad a'u haelodaeth er mwyn diwallu anghenion penodol eu hysgol.
Bydd ein cynigion:
- yn diwygio fframwaith rheoleiddio ar gyfer llywodraethu ysgolion a staffio;
- yn symleiddio'r fframwaith deddfwriaethol drwy sicrhau bod dull cyson o lywodraethu ym mhob ysgol a gynhelir yng Nghymru.
