Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Hydref 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 273 KB
Ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn awyddus i glywed eich barn am ddiwygiadau pellach yr ydym yn bwriadu eu gwneud i is-ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â rheoli datblygu.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae tri gorchymyn dan sylw.
Ymgyngoreion statudol
Diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 er mwyn diweddaru’r trothwyon ymgynghori ar gyfer ymgyngoreion statudol. Rydym hefyd yn cynnig y trothwyon ar gyfer ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth a fydd bellach yn ymgyngoreion statudol.
Datganiadau dylunio a mynediad
Diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 mewn perthynas â Datganiadau Dylunio a Mynediad a’u gwneud yn orfodol o dan amgylchiadau penodol yn unig. Rydym hefyd yn bwriadu llacio’r gofynion penodol o ran yr hyn y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiadau hyn.
Tai amlfeddiannaeth
Diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 er mwyn creu dosbarth defnydd newydd ar gyfer tai amlfeddiannaeth bach ynghyd â diwygiadau cysylltiedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Cymru) 1995. Y nod yw cyflwyno ceisiadau cynllunio er mwyn rhoi’r cyfle i awdurdodau lleol ystyried effeithiau tai amlfeddiannaeth bach ar yr ardal leol.