Y wybodaeth ddiweddaraf am ein system Treth Trafodiadau Tir (TTT) a chanllawiau i weithwyr treth proffesiynol.
Bydd y gostyngiad dros dro yn dod i ben ar 30 Mehefin 2021
Fel y cyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru, bydd band cyfradd sero’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yn dychwelyd i £180,000 ar 1 Gorffennaf 2021.
Nid oes rheolau trosiannol. Bydd angen i drafodiad fod wedi'i gwblhau cyn dydd Iau 1 Gorffennaf 2021 er mwyn defnyddio'r cynnydd dros dro i'r band cyfradd sero.
Mae ein cyfrifiannell TTT, ein gwasanaethau a’n canllawiau’n adlewyrchu'r newid hwn.
Offeryn gwirio cyfraddau uwch
Defnyddiwch ein gwiriwr Treth Trafodiadau Tir cyfraddau uwch i'ch helpu i benderfynu a yw cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad.
Ar gyfer trafodiadau cysylltiol, gweler ein canllawiau technegol yn lle hynny.
Os y byddwch yn gweld nad yw'r cwestiynau'n berthnasol i'ch sefyllfa, ewch i’n canllawiau cyfraddau uwch neu cysylltwch â ni os yw eich ymholiad yn un cymhleth.
Anfon post atom
Oherwydd coronafeirws (COVID-19) mae ein mynediad i'r post wedi’i gyfyngu. Mae hyn yn cynnwys derbyn sieciau. Gweler y manylion llawn ynglŷn â sut mae coronafeirws wedi effeithio ar ein gwasanaethau.
Cadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel
Mae ein canllawiau gwe-rwydo a sgamiau yn nodi sut i osgoi a sut i adrodd am sgamiau treth. Mae hefyd yn esbonio sut i gadw gwybodaeth bersonol yn ddiogel wrth gyfathrebu â ni.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth a yw gohebiaeth oddi wrthym yn ddilys, peidiwch ag ateb a chysylltwch â diogelwch@acc.llyw.cymru.
Diweddariadau treth technegol
Rydym am eich helpu i gael y dreth yn iawn y tro cyntaf. Rydym wedi diweddaru ein canllawiau yn y meysydd lle rydym wedi derbyn ymholiadau neu gamgymeriadau ar ffurflenni treth.
Os fyddwch yn dal i fod yn ansicr ar ôl darllen ein canllawiau cysylltwch â'n desg gymorth neu gofynnwch am opiniwn treth. Rydym am eich helpu ymlaen llaw yn hytrach na chywiro gwybodaeth yn nes ymlaen.
Adeiladau adfeiliedig
Rydym wedi diweddaru adran yn ein canllawiau darpariaethau dehongli er mwyn helpu datrys rhai o'r ymholiadau rydym wedi'u derbyn ynghylch a yw adeilad yn cael ei ystyried yn un adfeiliedig ar gyfer TTT.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn gan ddefnyddio'r dolenni adborth ar frig ein tudalennau canllaw. Rydym yn monitro eich adborth yn rheolaidd er mwyn gwella ein cynnwys.
Eiddo defnydd cymysg
Rydym yn parhau i dderbyn ffurflenni treth lle mae'n bosibl bod eiddo wedi’i gam-ddisgrifio fel eiddo defnydd cymysg.
Os ydych yn ansicr a yw trafodiad yn un preswyl neu amhreswyl, ewch i’n canllawiau er mwyn helpu i wahaniaethu rhwng tir sy'n ardd neu'n diroedd tŷ, a thir amhreswyl.
Rhyddhad anheddau lluosog (MDR)
Mae'n bwysig iawn i ni fod rhyddhad anheddau lluosog yn cael ei hawlio'n gywir pan fydd y ffurflen dreth yn cael ei ffeilio.
Fel cymorth, rydym wedi cyhoeddi canllaw cyflym ar ryddhad anheddau lluosog (MDR) newydd ar ein gwefan neu gallwch defnyddio ein canllawiau technegol ar gaffaeliadau sy'n ymwneud ag anheddau lluosog i’ch helpu – rydym wedi diweddaru'r adran termau allweddol a diffiniadau.
Diweddariad y system dreth ar-lein
Nawr gallwch actifadu a dadactifadu defnyddwyr eich hunain
Rydym wedi diweddaru ein system dreth er mwyn galluogi eich gweinyddwyr ar-lein i actifadu a dadactifadu defnyddwyr heb gysylltu â ni er mwyn cyflymu'r broses.
Mae dal angen i ddefnyddwyr newydd gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein eu hunain ac mae ein canllawiau ar reoli defnyddwyr yn egluro’r broses lawn. Os oes rhai o'ch cydweithwyr bellach wedi gadael eich sefydliad, yna dylech eu dadactifadu os gwelwch yn dda.
Dyma fideo byr yn dangos y newidiadau o ran cofrestru defnyddwyr.
Cymryd rhan
Ymchwil defnyddwyr
Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau'n haws i'w defnyddio. Cofrestrwch er mwyn ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr a helpwch ni i wella drwy e-bostio dweudeichdweud@acc.llyw.cymru.
Dweud eich dweud
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y diweddariad hwn, neu unrhyw agwedd o’n gwasanaeth, anfonwch e-bost at: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru.