Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen frechu COVID-19 hyd at 6 Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd ein Strategaeth Frechu Genedlaethol ar 11 Ionawr ac mae'n seiliedig ar y gwaith cynllunio manwl a wnaeth GIG Cymru. Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar 3 maes allweddol:

  • Ein blaenoriaethau  – rydym yn parhau i weithio'n agos â Llywodraeth y DU o ran cyflenwad. Yn seiliedig ar yr hyn sy'n hysbys eisoes am y cyflenwad a'r grwpiau blaenoriaeth a bennwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), rydym wedi nodi cerrig milltir allweddol.
  • Ein seilwaith brechu - gwneud yn siŵr y gall pobl gael y brechlyn a gynigir iddynt - ble i fynd i gael brechlyn, pobl a fydd yn rhoi'r brechlyn a'r system apwyntiadau a chofnodi ac adrodd digidol a sefydlwyd.
  • Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu – rydym wedi ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu i bawb yng Nghymru.

Beth sy’n newydd yr wythnos hon?

Rydym wedi cyrraedd Carreg Filltir 3, mae dros 75% o oedolion o dan 50 oed yng Nghymru wedi cael eu dos cyntaf. Rydym wedi cyrraedd y garreg filltir olaf a nodwyd gennym yn ein Strategaeth Frechu COVID-19 yn gynnar. Byddwn yn symud o ail gam ein rhaglen i’r cam nesaf. Mae hyn yn gam hanfodol ymlaen yn ein brwydr yn erbyn COVID-19 a thuag at ailddechrau gwneud rhagor o’r pethau yr ydym yn eu mwynhau.

Ni fydd ein GIG yn stopio yma, byddwn yn parhau i weithio i wneud mwy a chynyddu’r gyfradd o bobl sydd wedi’u brechu y tu hwnt i 75%. Byddwn hefyd yn darparu ail ddos i bawb sydd angen un, ond mae angen cymorth pawb arnom i wneud hynny. Mae’r byrddau iechyd yn gweithio’n galed i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl a bod pawb yng Nghymru’n cael ei ddos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.

Rydym yn awyddus i’w gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechu, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser. Roedd canolfannau brechu mewn sawl rhan o Gymru ar agor ar gyfer apwyntiadau galw heibio y penwythnos diwethaf. Byddant yn parhau i ailagor ar gyfer apwyntiadau o’r fath.

Os nad ydych wedi cael eich gwahoddiad neu os oes angen ichi aildrefnu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar gael yma: Cael brechlyn COVID-19 os ydych yn credu eich bod wedi colli allan

Mae ein rhaglen ar gyfer yr ail ddos yn rhedeg ochr yn ochr â'n rhaglen ar gyfer y dos cyntaf. Mae'r ail ddos yn hanfodol i amddiffyn pobl yn y tymor hirach, felly mae yr un mor bwysig bod pobl yn derbyn y cynnig o ail ddos. Mae tystiolaeth dda yn dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod dau ddos o’r brechlyn yn helpu i leihau risg pobl o orfod mynd i’r ysbyty yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Ein nod yw cynnig y ddau ddos o’r brechlyn i bob oedolyn cymwys erbyn mis Medi.

Mae gennym bellach rywfaint o sicrwydd am yr ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref. Cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu gyngor dros dro ar 30 Mehefin wrth inni symud i gam nesaf rhaglen frechu COVID-19. Mae hyn yn rhoi inni arweiniad yr ydym yn ei groesawu ar gyfer y cam nesaf o gyflwyno’r rhaglen. Mae cyngor dros dro’r Cyd-bwyllgor yn argymell y dylai’r ymgyrch i roi brechlynnau atgyfnerthu yn yr hydref ddechrau ym mis Medi 2021. Lleihau unrhyw achosion pellach o COVID-19 yw nod yr ymgyrch, a sicrhau bod y rheini sydd fwyaf agored i niwed gan haint difrifol yn cael eu hamddiffyn cymaint ag sy’n bosibl, cyn i fisoedd y gaeaf gyrraedd. Mae'r categorïau o bobl a fydd yn gymwys i gael dos atgyfnerthu yn cael eu dosbarthu yn Gyfnodau 1 a 2, sydd i raddau helaeth yn adlewyrchu grwpiau â blaenoriaeth 1-9 Cam 1 y rhaglen: 

  • Mae Cyfnod 1 yn cynnwys preswylwyr cartrefi gofal, pobl dros 70 oed, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen, oedolion eithriadol o agored i niwed yn glinigol a phobl imiwnoataliedig. 
  • Mae Cyfnod 2 yn cynnwys oedolion 16 – 49 oed sydd mewn grŵp risg ffliw neu grŵp risg COVID-19. Bydd y categorïau ar gyfer dos atgyfnerthu, o ran pobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol a phobl mewn grŵp risg, yn cael eu diffinio yn y Llyfr Gwyrdd maes o law. Byddwn yn parhau i ddilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar grwpiau cymwys ar gyfer brechlyn COVID-19. Byddwn yn sicrhau nad yw’r rhai sy’n gymwys am frechlyn COVID-19 neu frechlyn ffliw yn methu’r cyfle i gael eu brechu. 

Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddarparu gwasanaeth a fydd yn cynhyrchu datganiad statws brechu COVID-19. Bydd hyn yn caniatáu i drigolion Cymru ddangos tystiolaeth (naill ai'n electronig drwy ffôn clyfar, neu ar bapur) o’u hanes brechu COVID-19.

Mae Pàs COVID y GIG yn eich galluogi i ddangos i eraill eich bod wedi cael brechlyn COVID-19 pan fyddwch yn teithio dramor. Os cawsoch eich brechu yng Nghymru ac rydych yn 16 oed neu’n hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG. Mae NHS Digital yn gweithio gyda GIG Cymru i wneud trefniadau rhannu data rhwng Cymru a Lloegr. Gall pawb a gafodd ei frechu yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yng Nghymru gael pàs COVID digidol drwy wefan y GIG, a hynny ers 23 Mehefin 2021. Bydd pawb sydd wedi’i gofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ond a gafodd ei frechu yng Nghymru yn gallu cael tystiolaeth o’u statws brechu COVID drwy wefan y GIG o ddydd Llun 12 Gorffennaf ymlaen.

Bydd pob brechlyn AstraZeneca a roddwyd yn y DU yn ymddangos ar Bàs COVID y GIG fel Vaxzevria, a’r un cynnyrch ydynt. Mae’r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd wedi awdurdodi’r brechlyn hwn ac rydym yn hyderus na fydd effaith ar deithio. Mae pob dos sydd wedi’i ddefnyddio yn y DU wedi bod drwy wiriadau trwyadl o ran diogelwch ac ansawdd, gan gynnwys profi llwythi unigol ac archwilio safleoedd, gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.

Pwy sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Rydym yn parhau i ddilyn rhestr flaenoriaeth Cyd-bwyllgor annibynnol y DU ar Imiwneiddio a Brechu. Caiff yr un rhestr ei dilyn gan bob un o bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU o’i phlaid.

Crynodeb cyfredol:

  • mae cyfanswm o fwy na 4 miliwn o ddosau o’r brechlyn wedi’u gweinyddu yng Nghymru
  • mae cyfraddau uchel yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-4 wedi manteisio ar y dos cyntaf a’r ail ddos, gan ddiogelu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed
  • mae dros 2.26 miliwn o bobl wedi cael y dos cyntaf a thros 1.74 miliwn o bobl wedi cael cwrs llawn y brechlyn
  • y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd
  • yn gyffredinol, mae 89% o’n poblogaeth oedolion wedi cael dos cyntaf a 69% o holl oedolion Cymru wedi cwblhau’r cwrs dau ddos

Wrth inni barhau i weithredu ar yr egwyddor na ddylid gadael neb ar ôl, bydd y GIG yn cynnig y brechlyn eto i’r rhai yng ngrwpiau blaenoriaeth 1-9 sydd, am wahanol resymau, heb gael eu brechu eto.

Mae hynny’n golygu ein bod yn awr:

  • yn darparu dos cyntaf i oedolion 18 oed a hŷn sydd heb eu brechu, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl
  • yn darparu ail ddosau

Ble y bydd brechlynnau'n cael eu rhoi?

Mae ein seilwaith wedi’i adeiladu o ddim ac mae'n fodel cyflenwi cyfunol. Ei nod yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cyflymu’r broses frechu, sicrhau diogelwch, diwallu’r anghenion o ran nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad ac ym mhob cymuned i gael y brechlyn. 

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf roedd brechiadau'n cael eu rhoi mewn 259 o leoliadau ledled Cymru, gan gynnwys:

  • 53 o ganolfannau brechu torfol
  • 139 o leoliadau practis cyffredinol
  • 36 o fferyllfeydd
  • 15 o leoliadau ysbyty
  • roedd 9 o dimau symudol yn gweithredu

Rhagor o wybodaeth

Mae sicrhau bod pawb yn cael ei gynnwys yn un o egwyddorion allweddol ein rhaglen frechu. Er bod y nifer sy'n manteisio ar frechlyn COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn, mae grwpiau o'r boblogaeth o hyd sydd, er iddynt gael mwy nag un cynnig, yn dal heb eu brechu. Bydd y GIG bob amser yn barod ichi. Os na wnaethoch chi fanteisio ar eich cynnig cyntaf o frechlyn COVID-19 am ba reswm bynnag ond eich bod wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.

Mae’n bwysig ein bod yn cynnal y lefelau uchel presennol o frechu er mwyn diogelu Cymru, ac mae hyn yr un mor wir ar gyfer dosau cyntaf ac ail ddosau. Mae pob dos a weinyddir a phob person a ddiogelir wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae'r brechlynnau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae cael ail ddos o’r brechlyn yn bwysig i sicrhau amddiffyniad hirdymor yn erbyn COVID-19 a hefyd yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen Cwestiynau Cyffredin am y brechlyn, diogelwch a ffrwythlondeb. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau monitro data dyddiol ac wythnosol

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.