Neidio i'r prif gynnwy

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch rhaglen brechu COVID-19 hyd at 22 Mawrth 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Beth sy’n newydd ers y diweddariad diwethaf?

Y cynnig o frechlyn ar gyfer plant 5-11 oed

Yn dilyn argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) i ehangu’r rhaglen brechu COVID-19 ymhellach, bydd pob plentyn 5-11 oed yn cael cynnig dos cyntaf o’r brechlyn COVID-19.

Rydym yn annog rhieni a phlant i chwilio am yr wybodaeth ffeithiol ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar ei wefan i gefnogi hyn ac mae’r Prif Swyddog Meddygol wedi rhannu llythyr i rieni a gwarchodwyr drwy’r ysgolion: https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/covid-19-vaccination-information/resources-for-health-and-social-care-professionals/covid-19-guide-5-17-text-only-version-1-welsh/

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd plant yn cael apwyntiad oddi wrth eu Bwrdd Iechyd Lleol a bydd manylion ar gael ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd ar wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol eich Bwrdd Iechyd Lleol. Mae dolenni i wefannau brechu pob bwrdd iechyd lleol ar gael yma, gallwch chwilio am wybodaeth leol: https://llyw.cymru/cael-eich-brechlyn-covid-19 

Nid oes angen cysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiadau i gael y brechlyn oherwydd drwy ganolfannau brechu yn bennaf y rhoddir y brechlyn, a bydd angen i riant/gwarchodwr fod yn bresennol gyda phob plentyn. Nid yw cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn blaenoriaethu o ran oedran. O ganlyniad, mae’n haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.    

Brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn

Ar 21 Chwefror 2022, cyhoeddodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ddatganiad, sy’n argymell y dylai’r unigolion mwyaf agored i niwed gael dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn.

Mae pobl 75 oed a throsodd, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a phobl 12 oed a throsodd sydd â system imiwnedd wan yn cael eu gwahodd i gael eu hail frechiad atgyfnerthu. Cynghorir y dylid cael brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn tua chwe mis ar ôl y dos diwethaf o’r brechlyn er mwyn cynnal lefelau uchel o imiwnedd ymhlith y rheini sy’n cael eu hystyried yn fwyaf agored i niwed yn sgil y coronafeirws. Pan fydd yn amser ichi gael eich brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn cysylltu â chi. Peidiwch â chysylltu â nhw oni bai bod angen ichi newid eich apwyntiad.

Gadael neb ar ôl

Gall unrhyw un sydd eisiau derbyn y cynnig o bigiad atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos wneud hynny o hyd. Os na lwyddoch i fynd i’ch apwyntiad gwreiddiol, gallwch fynd nawr. Mae sesiynau galw heibio ar gael ledled Cymru ar gyfer pigiadau atgyfnerthu, dos cyntaf neu ail ddos. Mae manylion y byrddau iechyd ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae’r brechlyn yn cynnig amddiffyniad da, ac mae werth ei gael hyd yn oed os ydych wedi cael COVID. Y rheswm am hyn yw oherwydd gall y lefel o amddiffyniad sydd gan bobl ar ôl cael y feirws amrywio, yn dibynnu ar ba mor ysgafn neu ddifrifol oedd eu salwch, faint o amser sydd ers iddynt gael yr haint, a’u hoedran. Ond gwyddom fod y brechlyn, yn arbennig y brechlyn atgyfnerthu, yn cynnig amddiffyniad da. 

Gall timau brechu ateb unrhyw gwestiynau allai fod gennych am y brechlyn, a’ch cefnogi wrth gael eich brechu. Mae gan y rhan fwyaf o ganolfannau brechu ardaloedd tawel i bobl eistedd wrth aros, ac mae nyrsys arbenigol ar gael yn llawer o’r canolfannau hyn i helpu’r rheini sydd angen rhywfaint o gymorth ychwanegol.

Statws brechu COVID-19

O 18 Chwefror 2022 ymlaen, nid oes angen i chi ddangos pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau dan do nac yn yr awyr agored, na lleoliadau fel sinemâu, theatrau a chlybiau nos. Ond bydd dal angen pàs COVID arnoch i deithio dramor.

Mae’r Pàs COVID yn cadarnhau eich statws brechu neu’n dangos eich bod chi wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 24 awr ddiwethaf. Os ydych wedi eich cofrestru gyda meddyg teulu yn y DU, wedi cael eich brechu yng Nghymru neu Loegr ac yn 16 oed neu hŷn, gallwch gael Pàs COVID digidol y GIG.

I gael gafael ar y Pàs COVID gan ddefnyddio ffôn clyfar, cyfrifiadur neu liniadur, defnyddiwch y ddolen hon https://covid-status.service.nhsx.nhs.uk/ 

Bydd rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar gael gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol agos. Mae canllawiau presennol y Pàs COVID i’w gweld yn: https://llyw.cymru/pas-covid-y-gig-dangoswch-eich-statws-brechu

Eithriadau meddygol 

Yn dilyn trafodaethau gyda chynghorwyr clinigol a moesegol, rydym wedi cytuno ar y diffiniad canlynol ar gyfer pobl yr ystyrir eu bod wedi’u heithrio’n feddygol rhag cael y brechlyn COVID-19 a rhag gwneud prawf llif unffordd at ddibenion defnyddio’r Pàs COVID domestig.

Ystyrir y bydd pobl wedi’u heithrio’n feddygol os ydynt:

  1. Wedi cael adwaith anaffylacsis systemig blaenorol i’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  2. Wedi cael adwaith anaffylacsis blaenorol i unrhyw gydran (llenwydd) o’r brechlyn COVID ac nid ydynt yn gallu cael brechlyn arall drwy’r llwybr a’r gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol ar gyfer alergedd.
  3. Wedi cael digwyddiad andwyol difrifol yn gysylltiedig â’r brechlyn COVID a arweiniodd atynt yn gorfod mynd i’r ysbyty a phan nad oes brechlyn arall ar gael iddynt, fel yr aseswyd gan y gwasanaeth cyfeirio cenedlaethol.
  4. Wedi cofrestru fel rhywun sydd ag anabledd dysgu difrifol neu awtistiaeth ddifrifol, wedi cael eu hasesu gan wasanaeth dysgu ac anabledd bwrdd iechyd fel rhai na all gael brechlyn ar ôl addasiadau rhesymol ac y mae datganiadau lles pennaf wedi’u llunio ar eu cyfer ar y cyd â nhw eu hunain, eu teulu neu eu gofalwyr a’r gwasanaeth dysgu ac anabledd.
  5. Yn methu â gwneud prawf llif unffordd yn feddygol. Gallai hyn gynnwys pobl sydd ag annormaleddau difrifol yn y trwyn a’r gwddf, anableddau dysgu difrifol gydag ymddygiad heriol neu alergedd i ddeunyddiau a ddefnyddir mewn swabiau ar gyfer profion llif unffordd. Bydd angen i hyn gael ei gadarnhau gan glinigydd.

Bydd GIG Cymru yn cysylltu â’r bobl sydd yn y tri chategori cyntaf yn awtomatig a byddant yn cael llythyr yn cadarnhau eu bod wedi’u heithrio.

Bydd gwasanaethau anableddau dysgu yn ardal eu bwrdd iechyd yn cysylltu â’r bobl sydd yng nghategori pedwar i drafod a ellir gwneud addasiadau rhesymol pellach cyn penderfynu rhoi eithriad.

Bydd angen i bobl sydd yng nghategori pump lenwi’r ffurflen hon ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys manylion eu clinigydd a all gadarnhau eu bod wedi’u heithrio’n feddygol. Yna, bydd eu hachos yn cael ei ystyried gan glinigwyr annibynnol.

Os na chysylltir â phobl sy’n credu eu bod wedi’u heithrio’n feddygol erbyn diwedd mis Mawrth ac sy’n credu eu bod yn gymwys o dan un o’r categorïau a restrir, gallant wneud cais am eithriad drwy ddefnyddio’r ffurflen ar wefan Llywodraeth Cymru neu drwy gysylltu â’u bwrdd iechyd.

Ni fydd eithriadau meddygol yn gymwys i’r Pàs COVID ar gyfer teithio rhyngwladol gan fod y meini prawf mynediad ar gyfer y wlad y mae pobl yn teithio iddi, yn cael eu pennu gan y wlad honno ac nid y DU. Dylai unrhyw un sy’n teithio y tu allan i’r DU edrych ar y meini prawf ar gyfer y wlad y maent yn teithio iddi cyn gwneud trefniadau teithio ac, unwaith eto, cyn teithio, gan y gall gofynion mynediad newid ar fyr rybudd.

Pwy sy’n cael eu brechu ar hyn o bryd?

Mae canllaw ar gyfer pwy sy’n gymwys ar gyfer y brechlyn, gan gynnwys faint o amser i aros rhwng y dosau, wedi cael ei gyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol:

  • Mae cyfanswm o fwy na 6.91 miliwn dos o frechlynnau wedi'u rhoi yng Nghymru
  • Mae mwy na 2.52 miliwn o bobl wedi cael eu dos cyntaf ac mae mwy na 2.39 miliwn o bobl wedi cael o leiaf 2 ddos
  • Mae mwy na 1.92 miliwn o bobl wedi cael y brechiad atgyfnerthu, gyda dros 71% o bobl 12 oed a throsodd a mwy na 87% o bobl dros 50 oed wedi cael y brechiad atgyfnerthu

Rhagor o wybodaeth

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwestiynau Cyffredin ynglŷn â’r brechlyn a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi datganiadau gwyliadwriaeth dyddiol ac wythnosol.

Mae gwybodaeth am sut i gael eich brechlyn ar gael yma: Cael eich brechlyn COVID-19

Mae amrywiaeth o wybodaeth am ein rhaglen frechu ar gael ar ein gwefan, gan gynnwys canllawiau yn ymwneud â'r grwpiau blaenoriaeth. 

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru hefyd yn cyhoeddi rhai o'r ystadegau mwy gweithredol sy'n gysylltiedig â'r rhaglen bob wythnos.