Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am frechlyn ar gyfer COVID-19, pwy fydd yn gymwys i'w gael a phryd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pam bod brechlynnau'n bwysig

Mae brechlynnau’n dysgu eich system imiwnedd sut i’ch diogelu chi rhag clefydau. Mae llawer yn fwy diogel i’ch system imiwnedd ddysgu hyn drwy frechlyn na thrwy ddal clefyd a cheisio ei drin.

Mae’n debygol eich bod chi wedi cael nifer o frechiadau ar hyd eich oes, i’ch atal rhag dal clefydau a allai achosi salwch difrifol neu farwolaeth.

Os bydd digon o bobl yn cael eu brechu, mae’n bosibl lleihau rhai clefydau, neu gael gwared arnyn nhw’n llwyr. Ond pe bai pobl yn rhoi’r gorau i gael brechlynnau, mae’n bosibl y byddai clefydau heintus yn lledaenu’n gyflym unwaith eto.

Diogelwch brechlynnau

Rhaid i safon brechlynnau yn gyffredinol fod yn uwch na’r safon ar gyfer meddyginiaethau i drin salwch, gan fod brechlynnau fel arfer yn cael eu rhoi i bobl iach er mwyn atal clefydau.

Fel rhan o’r ymateb hirdymor i’r pandemig, mae angen brechlyn effeithiol a diogel  sydd ar gael i bawb sydd ei angen.

Mae llawer o frechlynnau posibl ar gyfer COVID-19 yn cael eu hastudio a’u profi i weld a ydyn nhw’n effeithiol ac yn ddiogel. Mae’r broses hon wedi cael ei chyflymu drwy sicrhau bod cyllid ar gael yn brydlon a thrwy leihau gwaith papur.

Nid yw’r treialon wedi cael eu byrhau, ac mae’r mesurau diogelwch arferol yn parhau i fod ar waith.

Darparu’r brechlyn

Mae’r mwyafrif llethol o bobl wedi dweud y byddent yn fodlon cael brechlyn COVID-19 pan fydd ar gael, i’w diogelu eu hunain a’u ffrindiau a’u teulu.

Efallai mai cyflenwad bach o’r brechlyn fydd ar gael i ddechrau, felly bydd yn cael ei gynnig i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Y gobaith yw y bydd cyflenwadau bach o'r brechlyn ar gael i'r rheini sydd â'r risg fwyaf cyn diwedd y flwyddyn.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi gwneud argymhellion ynghylch y flaenoriaeth dros dro ar gyfer brechlynnau COVID-19. Bydd Cymru a gweinyddiaethau eraill y DU yn cael eu harwain gan yr argymhellion. Mae'r cyngor yn seiliedig ar wybodaeth gychwynnol am y brechlynnau sy'n cael eu datblygu, a llinellau amser dros dro ar gyfer argaeledd brechlyn, a gall newid.

Bydd yn cymryd tipyn o amser ar ôl cael brechlyn cyn y gallwn ni gael digon o ddosau i bawb.

Yn y cyfamser, dylech chi barhau i wneud eich rhan i atal lledaeniad y coronafeirws: golchi eich dwylo’n rheolaidd, cadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb pan fo gofyn ichi wneud hynny i ddiogelu eich hun ac eraill.