Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ef wedi cadarnhau na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf.

Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu.

Ni fydd y Pàs COVID yn cael ei ymestyn ychwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn.

Dywedodd Mark Drakeford, y Prif Weinidog:

"Dair wythnos yn ôl, roedden ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Ond mae pawb wedi tynnu ynghyd ac mae achosion wedi syrthio i lawr o'r lefelau uchel na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.

"Hoffwn i ddiolch i bawb am eu gwaith caled ac am y camau y maen nhw wedi'u cymryd i ddiogelu eu hunain a'u teuluoedd a’u ffrindiau.

"Mae cytuno i gael y brechiad yn parhau i fod yn gam hanfodol i helpu i ddiogelu Cymru, ac mae’n hollbwysig bod pobl hefyd yn cael y brechiad atgyfnerthu.

"Wrth inni ddechrau cynllunio ar gyfer y Nadolig, mae angen inni barhau i gydweithio i ddod â’r coronafeirws o dan reolaeth. ‘Dyw'r pandemig ddim wedi diflannu – mae pedwaredd don yn llifo ar draws Ewrop, ac mae llawer o wledydd yn cyflwyno cyfyngiadau llymach unwaith eto.

"Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac i ddiogelu Cymru. Mae hyn yn golygu cadw'r opsiwn o ymestyn y defnydd o'r Pàs COVID os bydd nifer yr achosion yn codi eto a’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i’r pandemig yn cynyddu. Bydd gwneud hyn yn helpu i gadw'r sector lletygarwch ar agor a sicrhau bod busnesau yn gallu masnachu yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.

"Byddwn ni’n parhau i fonitro’r sefyllfa o safbwynt iechyd y cyhoedd a byddwn ni’n gweithio gyda'r sector lletygarwch wrth inni baratoi ar gyfer y Nadolig. Gadewch inni barhau i gadw ein gilydd yn ddiogel – er mwyn i ni i gyd allu mwynhau Nadolig gyda’n gilydd."

Bydd canlyniad yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener 10 Rhagfyr.