DIM OND? Dim esgus
Gyda ffrindiau, neu’n llais bach yn dy isymwybod dy hun, mae dau air sydd bob amser yn ceisio esgusodi ymddygiad amhriodol. ‘DIM OND’.
Mae dynion yn cuddio y tu ôl i DIM OND. I fenywod, mae DIM OND yn un rhwystr arall rhag gael eu clywed a’u credu.
Mae’r geiriau DIM OND yn cael eu defnyddio i esgusodi ymddygiad amhriodol. Mae dynion yn eu defnyddio i gyfiawnhau pethau maen nhw’n wneud. Mae pobl hefyd yn eu defnyddio i ddiystyru ofnau dilys menywod.
Mae’n bryd stopio cuddio y tu ôl i DIM OND. Mae’n bryd ei herio. Does dim esgus.
Ddylai neb deimlo’n ofnus yn unman
- Cyffwrdd â rhywun pan nad yw eisiau iti wneud.
- Gwneud sylwadau neu ystumiau rhywiol dieisiau.
- Dilyn rhywun heb yn wybod iddi.
- Cysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, tecstio neu ffonio’n ddieisiau.
- Gwylio rhywun neu ysbïo arni.
- Cymryd lluniau o rywun heb yn wybod iddi, gan gynnwys lluniau i fyny sgert.
Mae’r rhain i gyd yn achosi ofn, braw a gofid. Aflonyddu rhywiol yw hyn ac nid yw’n dderbyniol. Mae trais a cham-drin o bob math yn erbyn menywod a merched yn anghywir.
Mae agweddau sy’n esgusodi ac yn normaleiddio cam-drin yn rhan o’n diwylliant. O jocio a ‘thynnu coes’ rhywiaethol i aflonyddu a threisio. Rydyn ni eisiau i ddynion godi llais am yr ymddygiad hwn.
Nid yw herio eraill ynghylch eu hymddygiad yn golygu eu bychanu neu godi cywilydd arnynt, nac yn rheswm i godi dwrn. Mae’n fater o addysgu pobl a’u hannog i newid eu hagwedd.
Dim ond mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb y dylem fynd ati i herio ymddygiad ac agweddau amharchus/niweidiol.
Cymorth pellach
Os oes angen ymyriad arnoch, cysylltwch â ni yn VAWDASV@llyw.cymru.
Byddwn yn ceisio eich helpu i gael y cymorth sydd ei angen arnoch, p'un a yw hynny yn golygu rhagor o wybodaeth, cyngor neu hyfforddiant.
Os wyt ti wedi cael profiad o stelcio, aflonyddu, trais neu gam-drin, neu os wyt ti wedi ei weld yn digwydd, siarada â Byw Heb Ofn.
DimEsgus: ymgyrch
- Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DimEsgus.
- Gallwch lawrlwytho rhagor o wybodaeth i’w defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dolenni cysylltiedig
Darllenwch am ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn.