Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae ein rhaglen lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru. Ein huchelgais yw newid y system gyfan ac, wrth ei gwraidd, rydym am weld mwy o blant a phobl ifanc yn cael eu galluogi i fyw gyda’u teuluoedd ac yn eu cymdogaethau gyda llawer llai angen mynd i ofal. Rydym hefyd am sicrhau bod pobl ifanc mewn gofal am gyfnod mor fyr â phosibl.

Rydym wedi ymrwymo i gadw teuluoedd gyda’i gilydd. Ein gweledigaeth yw ailgynllunio’r ffordd rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc er mwyn gallu gwneud y gorau dros ein pobl ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau drwy ddarparu gwasanaethau sy’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol ac yn atebol yn lleol.

Mae ein cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar y gofal preswyl i blant sy’n cael ei ddarparu’n breifat, ochr yn ochr â gofal maeth a llety diogel y sector annibynnol.

Mae bwrdd rhaglen amlasiantaeth wedi’i sefydlu i fwrw ati â’r gwaith technegol a datblygu angenrheidiol i gefnogi ein hopsiynau deddfwriaethol, ffurfio ein dull gweithredu ar gyfer y dyfodol a sefydlogi’r farchnad.

Crynodeb o drafodaeth y Bwrdd Rhaglen, 22 Gorffennaf 2024

Cynnydd o ran Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru):

Roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnal sawl sesiwn dystiolaeth drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf, gyda'r gweinidog yn rhoi tystiolaeth yn ogystal â sawl aelod o'r bwrdd a'u cynrychiolwyr.

Codwyd nifer o faterion gan randdeiliaid yn ystod sesiynau tystiolaeth lafar y pwyllgor, gan gynnwys:

  • pryder ynghylch digonolrwydd lleoliadau ac o ganlyniad cynnydd posibl mewn gwasanaethau sy'n gweithredu heb gofrestru
  • roedd y pedwar model nid-er-elw ar wyneb y bil yn cyflwyno heriau allweddol i lawer o ddarparwyr ddod yn endid nid-er-elw gan gynnwys materion cost ac ymarferoldeb
  • pryderon ynghylch y gweithlu a cholli arbenigedd gan y sector os yw darparwyr yn dewis gadael y farchnad
  • mae'r broses drosglwyddo ar gyfer gofalwyr maeth yn gosod haen ychwanegol o gymhlethdod ac yn peri risg i gynnal nifer y gofalwyr maeth sydd eu hangen
  • angen mwy o eglurder ynghylch trefniadau ar gyfer lleoliadau etifeddol a'r broses ar gyfer cymeradwyo lleoliadau atodol
  • y goblygiadau ariannol i awdurdodau lleol a'r adnoddau sydd eu hangen i ddatblygu darpariaeth fewnol
  • sicrhau digonolrwydd lleoliadau dielw o fewn yr amserlenni arfaethedig presennol i'w gweithredu

Roedd disgwyl adroddiadau gan y pwyllgor tua chanol mis Hydref 2024, a fyddai'n dynodi diwedd gwaith craffu cyfnod 1.

Yn dilyn hyn, disgwyliwyd y byddai'r Senedd yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil tua diwedd mis Hydref 2024, cyn i'r gwaith craffu Cyfnod 2 ddechrau. 

Ffrydiau gwaith cam 2: 

Gyda chyflwyniad y Bil, cynigiwyd y byddai angen cyfnod newydd a chanolbwyntio'r ffrydiau gwaith wrth symud ymlaen. Cytunwyd ar y canlynol:

  • Byddai ffrydiau gwaith 1 a 4 yn uno i greu un ffrwd waith yn canolbwyntio ar weithredu mewn Awdurdodau Lleol a gweithio i oresgyn heriau penodol i Awdurdodau Lleol a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.
  • Byddai ffrwd waith 2 yn parhau gyda rhaglen waith wedi'i diwygio rhyw ychydig ac aelodau newydd.
  • Byddai ffrwd waith 3 yn parhau gyda rhaglen waith wedi'i diwygio rhyw ychydig. 

Cydnabuwyd ei bod yn debygol y byddai angen sawl is-grŵp o dan y ffrydiau gwaith hyn, yn canolbwyntio ar faterion penodol, ac efallai y bydd angen aelodaeth o bob rhan o'r ffrydiau gwaith gwahanol ar gyfer y rhain.

Cyfathrebu:

Roedd y ddogfen friffio gyffredinol a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi'i dosbarthu i aelodau'r Bwrdd Rhaglen a'r holl ffrydiau gwaith i'w rhannu mor eang â phosibl.

Yn ogystal, cyhoeddwyd sawl adnodd ochr yn ochr â'r Bil ac anogwyd yr aelodau i adolygu hyn a nodi unrhyw fylchau mewn gwybodaeth neu feysydd a allai fod yn aneglur.

Ar hyn o bryd mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn llunio gwaith cyfathrebu wedi'i dargedu ar gyfer y gwahanol grwpiau y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt, i'w rhannu ag aelodau i roi sylwadau arnynt tuag at ddiwedd Haf 2024. Bydd cyfathrebu a gwybodaeth i blant a phobl ifanc yn arbennig o bwysig.

Cofrestr risg:

Roedd Cofrestr Risgiau Bwrdd y Rhaglen wedi'i diwygio i gyd-fynd â thempled cofrestr risg safonol Llywodraeth Cymru.

Roedd y risgiau a nodwyd cyn hyn wedi'u cyfuno i themâu allweddol er mwyn caniatáu adolygiadau mwy trylwyr a rheolaidd gan y bwrdd.

Roedd risgiau targed wedi'u cynnwys i ddangos y lefel dderbyniol o risg neu lefel y risg y byddai'n rhaid ei oddef.

O ystyried y newidiadau a wnaed i'r fersiwn ddiweddaraf, anogwyd aelodau i adolygu'r fersiwn flaenorol a'r fersiwn newydd cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd Rhaglen lle byddai sgwrs fanwl a sylweddol yn cael ei chynnal.