Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i'w cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar gyflwyno digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn ddiogel yng Nghymru. Bydd rheoli rhaglen digwyddiadau prawf ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni.

Mae Eid yn y Castell a Tafwyl yng Nghaerdydd wedi'u cadarnhau ar gyfer yr wythnos hon tra bod trafodaethau gyda pherchnogion digwyddiadau eraill yn parhau: Mae'r rhestr arfaethedig o naw digwyddiad prawf peilot fel a ganlyn:

  • Eid-al-Fitr: 12 i 14 Mai (cytunir ar ddyddiad y noson cyn y digwyddiad), Caerdydd, 300 i 500 yn bresennol               
  • Gŵyl Tafwyl: 15 Mai, Caerdydd, 500 yn bresennol
  • Gêm Cynghrair Dau Clwb Pêl-droed Casnewydd: 18 Mai, Rodney Parade
  • Digwyddiad busnes Celtic Manor Resort: 20 Mai, Casnewydd, Gwahodd 100 dan do
  • Gêm y Bencampwriaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: 22 Mai, Stadiwm Liberty
  • Theatr Brycheiniog: 3 i 4 Mehefin, Theatr Brycheiniog Aberhonddu, Powys, 250 yn bresennol
  • Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn: 3 i 6 Mehefin, Gerddi Sophia, Caerdydd, 750 i 1000 o wylwyr     
  • Cymru v Albania: 5 Mehefin, Stadiwm Dinas Caerdydd, 4000 o wylwyr  
  • Triathlon Abergwaun: 11 a 12 Mehefin, Abergwaun/Tŷ Ddewi, Cyfranogwyr cofrestredig yn unig

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

"Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy'n dibynnu ar y sector am y gwaith - ac i'r rhai sy'n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru. Wrth i ni edrych ar godi'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau. Mae'r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a'r Awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno'n dda iddynt dros yr haf.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr – boed yn gyfranogwyr neu'n wylwyr – yn cael ei reoli'n llym gan y trefnwyr a'i gytuno ymlaen llaw.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl ddathlu Eid yn wahanol eto eleni. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd dathliadau yn y castell yn cael eu mwynhau gan y rhai sydd â thocynnau. Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda'ch cartref agos neu o fewn swigod cymorth.

Dewiswyd y digwyddiadau mewn trafodaeth gyda bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen digwyddiadau prawf a pherchnogion digwyddiadau. Bydd protocol profi ac asesiad risg yn cael ei deilwra ar gyfer pob digwyddiad.