Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn cymryd rhan yn Nigwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws a gynhelir am 5:15pm ar 23 Mawrth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y digwyddiad hwn yn dod â’r wlad ynghyd i dalu teyrnged i’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ac i gydymdeimlo â’r rhai sy’n galaru am eu hanwyliaid.

Bydd yn gyfle i ystyried sut mae’r pandemig wedi cael effaith ddofn ar bob cymuned yng Nghymru ac i ddathlu sut mae pobl yn y cymunedau hynny wedi bod yn gefn i’w gilydd.

Bydd yr achlysur hefyd yn gyfle i ddiolch i’n gweithwyr iechyd a’n gofalwyr sydd wedi gwneud cymaint i ofalu am y rhai sydd wedi bod yn sâl a’r rhai sydd wedi colli eu bywydau.

Bydd y Prifardd Ifor ap Glyn, Bardd Cenedlaethol Cymru, yn darllen cerdd sydd wedi’i chyfansoddi’n arbennig ar gyfer y Coffa. Yn ogystal, mae Côr Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys wedi recordio perfformiad arbennig ar gyfer yr achlysur.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cymryd rhan mewn munud o dawelwch am hanner dydd i gofio’r rhai sydd wedi marw dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Dros y 12 mis diwethaf, mae’r pandemig wedi troi ein bywydau ni i gyd ben i waered.

“Mae gormod o deuluoedd wedi colli anwyliaid a ffrindiau agos ac mae cymaint o bobl heb gael cyfle i ddweud ffarwél oherwydd yr holl newidiadau y mae’r coronafeirws wedi’u hachosi yn ein bywydau.

“Mae’n bwysig dros ben ein bod yn cael cyfle i ddod ynghyd i edrych yn ôl ar y flwyddyn ddiwethaf a chefnogi ein gilydd drwy’r cyfnod anodd hwn.”

Bydd Digwyddiad Coffa Cenedlaethol y Coronafeirws yn cael ei gyflwyno gan Huw Edwards a’i ddarlledu am 5:15pm ar S4C a BBC 1 Cymru.