Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, y bydd dewis ehangach o ddarparwyr profion ar gael ar gyfer pobl sy’n dychwelyd i Gymru o dramor i archebu profion PCR o 21 Medi ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Daw'r newid hwn wrth i safonau newydd a hapwiriadau gael eu cyflwyno, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â phryderon a materion hirsefydlog am y farchnad ar gyfer profion PCR ar gyfer pob teithiwr sy'n dychwelyd i'r DU.

Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) hefyd wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth y DU i wella'r farchnad profion teithio ymhellach.

Rhaid i bob teithiwr sy'n dychwelyd i'r DU o dramor gymryd profion PCR ar ôl dychwelyd adref i helpu i nodi unrhyw achosion newydd o'r coronafeirws ac atal ei ledaeniad. Hyd yn hyn, rhaid iddynt fod yn brofion y GIG ar gyfer trigolion Cymru – mae pobl sy'n byw mewn rhannau eraill o'r DU wedi cael dewis ehangach o ddarparwr profion.

Ond mae pryderon wedi'u codi am broblemau gyda rhai o'r darparwyr profion preifat, gan gynnwys hysbysebu prisiau anghywir a chamarweiniol, cyflwyno a phrosesu profion yn araf a chanlyniadau ddim yn llifo i systemau Cymru.

Bydd safonau deddfwriaethol newydd ar gyfer darparwyr profion preifat yn dod i rym o 21 Medi ymlaen. Byddant yn cynnwys sicrhau bod canlyniadau profion a dilyniannu genomeg – a ddefnyddir i nodi unrhyw amrywiolynnau newydd – yn cael eu prosesu a'u hadrodd yn gyflym ac o fewn cyfnod tebyg i brofion y GIG.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“O ystyried y rheoliadau newydd a'r effaith ar safonau ar gyfer profion preifat, byddwn yn gwneud newidiadau i'r rheolau i alluogi pobl sy'n teithio i Gymru i archebu profion gyda darparwyr yn y sector preifat, os dymunant. Bydd profion y GIG hefyd yn parhau i fod ar gael i'w harchebu.

“Daw'r newidiadau hyn i rym o 21 Medi ymlaen i gyd-fynd â'r safonau newydd sy'n dod i rym yn Lloegr.

“Croesawaf y cynnydd a wnaed o ran mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol yr ydym wedi'u codi gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig o ran cyflwyno safonau rheoleiddio newydd ar 21 Medi. Rwyf hefyd yn disgwyl gwelliannau pellach ar ôl cyhoeddi adroddiad y CMA a derbyn yr argymhellion i wella canlyniadau ymhellach.

“Mae'n bwysig cofio bod y coronafeirws yn dal i fod yma, ac mae ein cyngor yn parhau i fod y dylai pobl osgoi pob taith ryngwladol nad yw'n hanfodol.”