Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r syniad am dreth ar dir gwag i brofi pwerau Deddf Cymru 2014, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn amlinellu'r camau nesaf i'w cymryd i gynnig treth Gymreig newydd fel rhan o gynllun gwaith polisi treth 2018.

Ers cyhoeddi rhestr fer o bedwar syniad newydd am drethi wrth ochr y Gyllideb Ddrafft ym mis Hydref, bu Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr achos dros bob un ohonynt.

Y pedwar syniad am drethi newydd oedd: ardoll gofal cymdeithasol; treth ar dir gwag; treth ar blastig untro a threth ar dwristiaeth.

Er mai'r syniad am dreth ar dir gwag fydd yn cael ei ddefnyddio i brofi pwerau Deddf Cymru, bydd gwaith yn parhau hefyd ar y tri syniad arall.

Daw'r penderfyniad i symud ymlaen â'r syniad am dreth ar dir gwag yn dilyn trafodaeth â sefydliadau rhanddeiliaid, y cyhoedd ac ar draws y llywodraeth.

Dewiswyd treth ar dir gwag gan y byddai hynny'n cymell datblygu mwy amserol, ac oherwydd y gallai helpu i osgoi gweld safleoedd yn dadfeilio, a hybu adfywio.

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Mae tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Gallai treth ar dir gwag atal yr arfer o fancio tir a pheidio datblygu tir o fewn yr amserlen ddisgwyliedig.

“Mae ardoll tir gwag Gweriniaeth Iwerddon yn fan cychwyn defnyddiol i ystyried sut gallai treth ar dir gwag weithredu yng Nghymru.

"Mae'r model sydd eisoes yn bodoli yng Ngweriniaeth Iwerddon a ffocws cymharol gyfyng y dreth yn golygu mai dyma'r syniad mwyaf addas o'r pedwar ar y rhestr fer ar gyfer profi Deddf Cymru."