Neidio i'r prif gynnwy

Bydd deddfwriaeth ar gyfer atal achosion o droi allan tan 31 Mawrth 2021 yn dod i rym ddydd Llun 11 Ionawr, cadarnhaodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o’i hymateb i atal trosglwyddo’r coronafeirws a diogelu iechyd y cyhoedd, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cytuno ar fesurau i atal achosion o droi allan o lety rhent cymdeithasol a llety rhent preifat rhwng 11 Rhagfyr a 11 Ionawr eleni.

Bydd y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd heddiw yn estyn y mesurau hyn i ddiogelu rhentwyr yn ystod y pandemig drwy atal troi allan ac eithrio mewn achosion o ymddygiad anghymdeithasol neu drais domestig.  

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:

Rydym yn cymryd rhagor o gamau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid Cymru. Mae hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i lawer o bobl. Ni ddylai rhentwyr gael eu gorfodi o’u cartrefi ar adeg pan rydym yn gofyn i bobl aros gartref a phan fydd hi’n anoddach iddynt gael cyngor, cymorth a llety amgen.

Mae’r estyniad yn rhan o becyn ehangach o fesurau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu tenantiaid ac iechyd y cyhoedd yn ystod yr argyfwng hwn. Mae’r pecyn hwnnw’n cynnwys:

  • Buddsoddi hyd at £50 miliwn er mwyn mynd i’r afael â digartrefedd a chynyddu nifer y cartrefi dros dro a’r cartrefi parhaol;
  • Cyhoeddi £40 miliwn arall ar gyfer y Grant Cymorth Tai a £4 miliwn arall ar gyfer y Grant Atal Digartrefedd, y ddau grant yn canolbwyntio ar atal a mynd i’r afael â digartrefedd a darparu’r cymorth sydd ei angen ar bobl yn y gyllideb ddrafft;
  • Cynyddu’r cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan o dri mis i chwe mis;
  • Cyflwyno cynllun Benthyciad Arbed Tenantiaeth llog isel, fforddiadwy newydd a delir yn uniongyrchol i landlordiaid neu asiantaethau ar gyfer tenantiaid sydd mewn ôl-ddyledion rhent oherwydd Covid-19; a
  • Sefydlu llinell gymorth ar gyfer y sector rhentu preifat, sy’n cael ei rhedeg gan Cyngor ar Bopeth Cymru ac sydd ar gael i denantiaid sy’n cael trafferth gyda rhent, incwm neu fudd-daliadau tai.

Dywedodd Julie James:

Mae’r gwaith gan awdurdodau lleol wedi canolbwyntio’n bennaf ar helpu pobl sy’n agored i niwed i gael llety er mwyn iddynt allu defnyddio cyfleusterau golchi dwylo a hylendid, cadw pellter cymdeithasol a hunanynysu os oes ganddynt symptomau. Rydym yn gwybod fod pobl sy’n ddigartref mewn mwy o berygl o ddal y coronafeirws. Un o’r ffyrdd gorau o fynd i’r afael â digartrefedd yw ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae hwn yn un o nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd gan fod llawer o bobl yn wynebu ansicrwydd.

Eleni rydym yn buddsoddi hyd at £50 miliwn i fynd i’r afael â digartrefedd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes angen i neb gysgu allan, yn ogystal â thrawsnewid gwasanaethau i sicrhau cartrefi parhaol i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Er bod y newidiadau hyn yn cynnig rhagor o ddiogelwch i denantiaid, nid ydynt yn esgus i bobl beidio â thalu eu rhent os ydynt yn gallu gwneud hynny. Nid ydynt chwaith yn esgus i bobl beidio â mynd i’r afael â’u problemau ariannol. Mae’n hanfodol cael sgwrs â landlordiaid yn gynnar i benderfynu ar y ffordd ymlaen, ac mae’n hanfodol cael y cyngor cywir ar ddyledion hefyd.

Bydd estyn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan i 6 mis hefyd yn parhau i fod mewn grym tan 31 Mawrth 2021. Bydd y ddau reoliad yn cael eu hadolygu’n rheolaidd a bydd atal troi allan yn ddarostyngedig i bleidlais gadarnhau yn y Senedd.