Wrth i ddisgyblion a myfyrwyr yn paratoi i ddychwelyd ar gyfer tymor newydd yr hydref, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd mewn technoleg i wella ansawdd aer a diheintio ystafelloedd dosbarth, darlithfeydd a gweithdai yn gyflym.
Bydd cyllid ar gyfer mwy na 1,800 o beiriannau diheintio oson a thros 30,000 o synwyryddion carbon deuocsid yn cael ei ddarparu ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion ledled Cymru.
Peiriannau Diheintio Oson
Bydd £3.31m yn cael ei ddarparu ar gyfer peiriannau diheintio oson newydd, i leihau amseroedd glanhau, gwella’r broses ddiheintio a lleihau costau. Disgwylir i'r cyllid gyflenwi mwy na 1,800 o beiriannau, o leiaf un ar gyfer pob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.
Nodwyd bod amser a chost glanhau ystafelloedd yn broblem i ysgolion a cholegau yn gynnar yn y pandemig.
Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Brifysgol Abertawe sefydlu Prosiect Diheintio Ystafelloedd Dosbarth, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae gwyddonwyr yn y brifysgol wedi datblygu peiriant diheintio Oson y gellir ei ddefnyddio ar gyfer y dasg hon, sydd bellach yn cael ei gynhyrchu,.
Gellir defnyddio'r peiriannau i ddiheintio ystafelloedd dosbarth yn gyflym pan ganfyddir clystyrau o Covid-19 neu feirysau trosglwyddadwy eraill, megis norofeirws.
Peiriannau monitro ‘goleuadau traffig’ carbon deuocsid
Bydd £2.58 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer dros 30,000 o beiriannau monitro 'goleuadau traffig' carbon deuocsid, ar gyfer mannau addysgu a dysgu fel ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd seminar neu ddarlithfeydd.
Mae peiriannau monitro carbon deuocsid yn cynnwys synwyryddion sy'n rhoi arwydd gweledol pan fo ansawdd aer mewnol yn dirywio. Bydd y peiriannau'n rhybuddio athrawon a darlithwyr pan fydd lefelau carbon deuocsid yn codi, gan roi gwybod iddynt bod angen gwella ansawdd yr aer, a bydd hynny’n helpu i reoli awyru yn ystod y gaeaf. Bydd hyn yn helpu i gynnal tymheredd cyfforddus i ddysgwyr a staff yn ystod cyfnodau oerach, gyda llai o wres yn cael ei golli, ac yn arbed costau ynni.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
Rwy'n falch y gall dysgwyr ddychwelyd i ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd yr hydref hwn gyda llai o gyfyngiadau nag a fu ers misoedd lawer.
Bydd y buddsoddiad hwn mewn peiriannau monitro carbon deuocsid yn helpu i wella ansawdd aer, a bydd y peiriannau diheintio yn caniatáu i’r ystafelloedd dosbarth gael eu defnyddio i addysgu yn y ffordd arferol eto yn gyflymach. Mae hyn yn cefnogi ein nod cyffredinol o sicrhau y gall dysgwyr barhau i ddysgu gyda'u hathrawon a'u ffrindiau.
Ond mae’n rhaid i ni barhau i fod ar ein gwyliadwriaeth oherwydd Covid-19. Bydd y mesurau hyn yn cyd-fynd â’r cyngor cyfredol yn hytrach na’i ddisodli, sy’n cynnwys cynnal hylendid, a golchi dwylo’n drylwyr ac yn amlach nac arfer.
Dywedodd Dr Chedly Tizaoui , o Brifysgol Abertawe, sy’n rhan o’r tîm a ddyluniodd y peiriant diheintio oson:
Rwy’n hynod falch bod y dechnoleg oson a ddatblygwyd gennym yma ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd i helpu’r ymdrech i gael gwared ar Covid-19 yng Nghymru. Mae lleihau lledaeniad y coronafeirws yn ein sefydliadau addysg yn hynod bwysig, fel bod modd i’n plant a’n myfyrwyr ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth.
Mae oson yn effeithiol iawn yn erbyn feirws Covid-19 ac, oherwydd ei natur nwyol, mae’n lladd y feirws boed hwnnw yn yr aer neu ar arwynebedd. Diolch i gymorth gan Lywodraeth Cymru a’r Adeiladau Gweithredol y mae SPECIFIC yn arloesi ynddynt, dengys ein hymchwil y gall adeiladau fod yn Weithredol y tu mewn a bod modd ymgorffori’r driniaeth Oson sy’n cael ei datblygu yma i gefnogi glanhau a diheintio adeiladau eraill.
Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
Drwy fuddsoddi mewn technoleg newydd fel peiriannau diheintio oson, rydym yn sicrhau y gall dysgwyr aros yn yr ysgol a’r coleg wrth i Gymru symud ymlaen o’r pandemig.