Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o’r tair prif ffynhonnell o ystadegau ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y tair prif ffynhonnell yw:

  • cyfres Datganiadau Ystadegol Cyntaf (SFR)
  • cyfres yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS)
  • cyrchfannau disgyblion o ysgolion yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi cyfresi SFR ac APS. Mae Gyrfa Cymru'n cyhoeddi  cyrchfannau disgyblion o ysgolion yng Nghymru yn flynyddol.

Anogir defnyddwyr i gyfeirio at y gyfres SFR ar gyfer yr amcangyfrifon mwyaf cadarn o bobl ifanc NEET yn y grwpiau oedran 16 i 18 a 19 i 24 oed. Ddisgrifir ffyrdd o ddefnyddio APS a'r gyfres cyrchfannau disgyblion, ochr yn ochr â sut y maent yn wahanol i'r gyfres SFR, yn y canllaw hwn.

Cyfres datganiadau ystadegol cyntaf (SFR)

Y gyfres hon yw'r ffynhonnell ystadegol ddiffiniadol ar gyfer amcangyfrifon o nifer a chyfran y bobl ifanc NEET yng Nghymru. Mae'n cael ei chyhoeddi yn flynyddol yn Natganiad Ystadegol Cyntaf Llywodraeth Cymru sef Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur.

Mae'r gyfres SFR yn rhoi data i wneuthurwyr polisi a'r rhai sy'n gweithio gyda phobl ifanc i fonitro tueddiadau ac effaith ymyriadau addysg a'r farchnad lafur ar bobl ifanc. Mae'r data a gyflwynir yn cwmpasu pobl 16 i 18 oed a 19 i 24 oed ar sail oedran academaidd (oedran ar 31 Awst cyn dechrau'r flwyddyn academaidd). Mae modd torri amcangyfrifon i lawr yn ôl rhyw hefyd.

Mae'r amcangyfrifon a gyhoeddir yn y SFR yn fesur o gyfran y bobl ifanc NEET ar ddiwedd y flwyddyn galendr. Maent i'w cael trwy gyfuno ystod o brif ffynonellau:

  • cyfrifiadau cofrestriadau ysgol ar gyfer:
    • ysgolion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (Llywodraeth Cymru)
    • addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith o Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (Llywodraeth Cymru)
    • addysg uwch o Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch a'r Brifysgol Agored
  • amcangyfrifon o'r Boblogaeth ar ddiwedd y flwyddyn galendr (y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Llywodraeth Cymru)
  • yr Arolwg Blynyddol o'r boblogaeth a ddefnyddir i amcangyfrif y rhai nad ydynt mewn addysg na hyfforddiant sy'n ddi-waith neu'n anweithgar ac mae'n ymwneud â'r holl flwyddyn y cyfeirir ati

Oherwydd y defnydd o ddata arolygon yn y cyfrifiadau bydd rhyw elfen o amrywioldeb samplu yn yr amcangyfrifon. O ganlyniad, mae angen dehongli newidiadau mewn data gyda gofal gan y gellid priodoli newidiadau i effeithiau samplu yn ogystal ag effeithiau go iawn. Ar hyn o bryd nid oes modd gwahaniaethu rhwng yr effeithiau hynny. Amcangyfrifon dros dro yw amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf bob tro. Maent yn defnyddio'r amcangyfrif gorau sydd ar gael  ar gyfer pob agwedd ar y cyfranogiad. Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddata terfynol, rhywfaint o ddata dros dro a rhywfaint o fodelu. Mae amcangyfrifon ar gyfer y blynyddoedd blaenorol yn cymryd i ystyriaeth data terfynol, nad oedd ar gael adeg y ffigurau dros dro.

Mae'r amcangyfrifon hyn ar gael yn flynyddol yn unig ac nid oes modd eu dadagregu ond yn ôl rhyw, felly mae angen eu hatodi â ffynonellau eraill o Ystadegau NEET.

Cyfres yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (APS)

Mae'r gyfres hon yn amcangyfrif blynyddol ar sail blwyddyn dreigl o gyfran y bobl ifanc NEET o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Arolwg parhaus o aelwydydd yw'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'n gallu darparu gwybodaeth am newidynnau cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol pwysig ar lefelau lleol.

Mae'r amcangyfrifon APS, a gyhoeddir yn chwarterol, yn darparu data mwy amserol na'r SFR blynyddol. Fe'u defnyddir i roi arwydd o dueddiadau yn y gyfran o bobl ifanc NEET rhwng SFRs. Ni ellir eu cymharu'n uniongyrchol â'r gyfres SFR. Gan eu bod yn seiliedig ar ddata arolygon, Mae'r arolygon yn llai cadarn oherwydd yr amrywioldeb a achosir gan gyfeiliornad samplu.

Gellir defnyddio amcangyfrifon APS i ddarparu dadansoddiad yn ôl rhanbarth, statws anabledd neu flwyddyn oedran sengl. Mae angen defnyddio amcangyfrifon yn seiliedig ar gyfartaleddau 3 blynedd at y dibenion hyn, oherwydd bod maint y samplau yn fach.

O gofio strwythur yr APS mae gorgyffwrdd mawr rhwng blynyddoedd treigl olynol. Ni ddylid defnyddio newidiadau rhwng amcangyfrifon blynyddoedd treigl olynol. Gwneir cymariaethau â'r un pwynt flwyddyn yn flaenorol.

Mae'r diffiniad wedi'i gysoni a ddefnyddir ar gyfer yr amcangyfrifon APS yn golygu bod cymariaethau â gwledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr yn bosibl. Er hynny, mae gwahaniaethau o ran dull gweithredu wrth gyhoeddi'r amcangyfrifon hyn. Enghraifft o hyn yw'r defnydd o ddata o'r llafurlu mewn amcangyfrifon a gyhoeddir mewn mannau eraill. Ymhellach, gallai fod gwahaniaethau mewn grwpiau oedran, y defnydd o oedran academaidd o'i gymharu ag oedran gwirioneddol a gwahaniaethau yn y fethodoleg addasu a ddefnyddir i ddosrannu gwerthoedd coll. Dylai defnyddwyr ystyried effaith gwahanol systemau addysg ar draws y DU. Felly dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau.

Cyrchfannau Disgyblion o Ysgolion yng Nghymru

Mae Gyrfa Cymru'n cynnal arolwg blynyddol o holl ymadawyr ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae'r arolwg yn casglu cyrchfannau'r ymadawyr hyn ar ddiwedd mis Hydref. Defnyddir data o'r arolwg i gyfrif y gyfran o ymadawyr o flwyddyn 11 (16 oed) sydd yn NEET ar yr adeg honno). Mae'r arolwg yn cynnwys disgyblion o ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Ni chynhwysir y rhai sy'n mynychu colegau addysg bellach ac ysgolion annibynnol. Ni ellir cymharu'r gyfres hon yn uniongyrchol â’r gyfres SFR neu'r gyfres APS oherwydd gwahaniaethau mewn diffiniadau.

Dyma'r unig ffynhonnell sy'n darparu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol. Nid yw'r gyfres SFR na'r gyfres APS yn darparu amcangyfrifon ar lefel awdurdod lleol. Mae hyn oherwydd y fethodoleg a ddefnyddir i gael yr amcangyfrifon SFR a maint bach y sampl yn yr APS.

Yn y blynyddoedd blaenorol, bu modd olrhain data am gyrchfannau a nodi tueddiadau. Cafwyd cynnydd mawr yn y nifer na wnaethant ateb yn y data am gyrchfannau yn 2018, oherwydd nifer o heriau wrth gasglu'r data. Mae rhai problemau ynghylch peidio ag ymateb yn parhau yn y data ar gyfer 2019. Dylid osgoi cymariaethau dros amser felly.

Nid oes modd cymharu ar draws awdurdodau lleol oherwydd amrywiaeth yn y gyfradd peidio ag ymateb.

Mae’r broses o gasglu data drwy gydweithredu’n agos â phartneriaid yn y sectorau addysg a dysgu seiliedig ar waith, yn ogystal â Gyrfa Cymru, sy’n cefnogi’r rheini y gwyddom nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, yn golygu mai’r rheini sydd yn y categorïau ‘Mewn Gwaith – Arall’ a ‘Wedi Gadael yr Ardal’ sydd fwyaf tebygol o beidio ag ymateb.

Rhannu’r dudalen hon