Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon ardal fach newydd ar gyfer defnydd o'r rhyngrwyd, mynediad at y rhyngrwyd, siarad Cymraeg, statws iechyd gwael, a ffyrdd o fyw iach ar lefel cymdogaeth ar gyfer Ebrill 2013 i Mawrth 2014.

Prif bwyntiau

Mae'r prosiect yn cynnwys pum ffrwd waith cysylltiedig â'i gilydd.

  1. Cynhyrchu amcangyfrifon ardal fach o ganran yr oedolion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd, sydd â mynediad at y rhyngrwyd yn y cartref, sy'n dweud bod eu hiechyd yn wael neu sy'n siarad Cymraeg. Daw'r amcangyfrifon hyn o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2013-14 gan ddefnyddio nodweddion lefel unigol yn unig, a'u cynhyrchu ar lefelau Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol a Haen Is.
  2. Gweld a yw ystyried nodweddion ardal leol (fel bod yn yr un rhanbarth neu ddosbarthiad gwledig/trefol) yn gwella'r amcangyfrifon.
  3. Cymharu rhai o'r amcangyfrfon (siarad Cymraeg ac iechyd gwael) gyda chanlyniadau ar yr un pynciau o Gyfrifiad 2011. Dyma ffordd anarferol o gadarn o ddilysu'r mathau hyn o amcangyfrifon ardal fach.
  4. Addasu'r amcangyfrifon i symio i werthoedd sy’n hysbys ar raddfa fwy (Er enghraifft, canlyniadau awdurdod lleol a gyhoeddwyd) a gweld a yw hyn yn gwella'r amcangyfrifon ar lefel ardal fach.
  5. Cynhyrchu amcangyfrifon ardal fach o'r pedwar dangosydd ffyrdd iach o fyw (smygu, gordewdra, ymarfer corff rheolaidd ac yfed mwy o alcohol na'r canllawiau sy'n cael eu hargymell) mewn Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Uwch o Arolwg Iechyd Cymru 2008 to 2013, a chymharu'r amcangyfrifon gyda'r ffigurau uniongyrchol o'r arolwg. Edrych ar y potensial ar gyfer cynhyrchu amcangyfrifon cadarn ar gyfer ardal fach o arolygon llai neu lai aml.

Adroddiadau

Deall Cymru ar lefel y gymdogaeth (Arolwg Cenedlaethol Cymru), April 2013 to March 2014 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.