Heddiw, dathlwyd lansiad y rhaglen Coedwig Genedlaethol, cysyniad cyffrous a fydd yn cael ei gynnal ledled Cymru, yng nghoetir Coed-y-felin, ger yr Wyddgrug gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.
Bydd y Goedwig Genedlaethol, a gefnogir gan £5 miliwn yng nghyllideb eleni, yn rhwydwaith ecolegol o goetir a fydd yn rhedeg ar draws Cymru. Bydd yn chwarae rôl bwysig o ran gwarchod natur a mynd i’r afael â’r fioamrywiaeth sy’n cael ei cholli.
Bydd £10 miliwn ychwanegol o gyllid creu ac adfer Coetir Glastir ar gael i gynyddu nifer y coed sy’n cael eu plannu ar draws Cymru.
Mae Coed-y-felin, ger yr Wyddgrug, yn goetir brodorol newydd a blannwyd gyda chymorth y gymuned leol. Wedi’i reoli gan Coed Cadw, mae’n cynnwys llwybrau newydd ac mae’n boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Dywedodd:
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn ased i Gymru gyfan, a bydd cymunedau ar draws y wlad yn gallu cymryd rhan.
Rwy’n arbennig o falch o fod yng nghoetir cymunedol Coed-y-felin ar y diwrnod y mae’r rhaglen uchelgeisiol hon i adfer a chynnal ein coetiroedd gwerthfawr yn cael ei lansio.
Mae ein coedwigoedd yn chwarae rôl hollbwysig o ran cynnal ein bywyd gwyllt a’n cymunedau. Drwy fuddsoddi yn ein coetiroedd cymunedol megis Coed-y-felin fel rhan o’r Goedwig Genedlaethol, gallwn greu cyfleoedd newydd i bobl yn eu cymunedau eu hunain fel rhan o’n hymdrechion ehangach i ddiwygio a gwella mynediad.
Croesawyd y Dirprwy Weinidog i Coed-y-felin gan Rebecca Good, sy’n rheoli’r safle ar gyfer Coed Cadw.
Dywedodd:
Rwyf wrth fy modd bod Hannah Blythyn wedi ymuno â ni yma heddiw i ddathlu lansiad Coedwig Genedlaethol Cymru. Wedi’i greu 20 mlynedd yn ôl fel coetir cymunedol newydd i ddathlu’r mileniwm, mae Coed-y-felin yn dangos ei fod yn gwbl bosibl sefydlu coetir newydd a chreu ased cymunedol o fewn cyfnod cymharol fyr.
Bydd y Goedwig Genedlaethol hefyd yn hybu twristiaeth mewn ffordd debyg i Lwybr Arfordir Cymru a ddatblygwyd dros flynyddoedd o gydweithredu rhwng llywodraeth, busnesau a thirfeddianwyr.