Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd Y Cabinet dros Llywodraeth Lleol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol fis diwethaf, gosodais ein cefnogaeth barhaus i gymuned y Lluoedd Arfog. Yn y datganiad hwnnw, talais deyrnged hefyd i'r cyfraniad gwerthfawr y mae aelodau presennol y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud wrth amddiffyn y DU.

Mae Cymru eisoes wedi chwarae rhan fawr yn hanes y Lluoedd Arfog, drwy ddarparu llawer o recriwtiaid i'r Gwasanaethau, yn ogystal â bod yn gartref i nifer o safleoedd a sefydliadau milwrol. Mae cymunedau ar draws y wlad wedi croesawu'r Lluoedd Arfog, ac yn parhau i wneud hynny.

Pan cafodd canlyniad yr Adolygiad o Ystad y Weinyddiaeth Amddiffyn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2016, roeddwn yn pryderu ynghylch yr effaith bosibl ar ôl troed y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Er y byddai presenoldeb milwrol yn dal i'w weld yn yr Ysgol Hyfforddi Milwyr yn Aberhonddu ac yn RAF y Fali, roedd y posibilrwydd y byddai Pencadlys Brigâd 160 yn cau, Bataliwn 1af y Reifflwyr yn symud o Beachley yng Nghas-gwent, a 14eg Catrawd y Signalau yn symud o Breudeth, yn cael effaith ar gymunedau lleol yn ogystal â'r rheini sy'n gwasanaethu ac yn gorfod symud.

Ond mae effaith penderfyniadau o'r math yn mynd ymhellach. Mae Hunaniaith  Gymraeg yn y Lluoedd Arfog yn rhan hanfodol o’n hunaniaith cenedlaethol.  Mae'n hollbwysig i ddyfodol ein Hundeb bod ein Lluoedd Arfog wedi'u lleoli ym mhob rhan o'r DU a bod ein holl wledydd yn gallu chwarae eu rhan wrth amddiffyn y DU, a'n bod i gyd yn cael ein cynrychioli yn y penderfyniadau a wneir ar y safleoedd a strategaeth ystad ehangach y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn hefyd wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu creu safle newydd yn Sain Tathan a fyddai'n gartref i nifer o aelodau o'r Fyddin. Er bod gan y datblygiad hwn y potensial i gynyddu presenoldeb y Fyddin yn sylweddol yn y De, gallai effaith gyffredinol y newidiadau arwain at leihau cyfanswm nifer aelodau'r Lluoedd Arfog sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Nid wyf am weld hyn yn digwydd. Rydw i am weld presenoldeb milwrol yng Nghymru nid yn unig yn cael ei gadw ar lefelau presennol ond yn cael ei gynnal ac yn cynyddu.

Yn ddiweddar, cyfarfûm â Stuart Andrews AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yn y Weinyddiaeth Amddiffyn i drafod y materion hyn. Pwysleisiais pa mor bwysig ydyw bod y Lluoedd Arfog yn cadw presenoldeb cryf yng Nghymru, ochr yn ochr â datblygu ymhellach y diwydiannau a'r cadwyni cyflenwi sy'n cefnogi caffael y Weinyddiaeth Amddiffyn. Credaf ei bod yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn parhau i gydweithio'n agos ar y materion hyn i gyd.

Er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn lleoliad cadarn ar gyfer aelodau sy'n gwasanaethu yn y dyfodol, rydw i wedi gofyn i'm swyddogion ddatblygu polisi penodol i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i fod yn safle cadarn ac yn gartref i Luoedd Arfog y DU. Rwyf hefyd wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn i ddatblygu cynllun ar gyfer y dyfodol a fydd yn sicrhau bod Cymru yn gartref i nifer sylweddol gynyddol o aelodau sy'n gwasanaethu, a byddaf hefyd yn pwyso ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i gadw'r Pencadlys yn Aberhonddu.

Rwy'n gobeithio y gallwn weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod buddiannau Cymru, cymunedau'r Lluoedd Arfog a'r cymunedau sy'n cefnogi eu presenoldeb yng Nghymru, yn chwarae rhan amlwg wrth i'r Weinyddiaeth Amddiffyn gynllunio ar gyfer y dyfodol.