Jeremy Miles MS, Minister for Education and Welsh Language
Ysgrifennais at yr Aelodau ar 16 Gorffennaf i'w hysbysu am y cynnydd a wnaed hyd yma mewn perthynas a'r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu, ac am benodiad Cadeirydd di-dal ar gyfer y Bwrdd Cynghori a oedd ar y gweill.
Gwelwyd cynnydd sylweddol mewn perthynas â gwaith datblygu'r rhaglen (dan arweiniad International Learning Exchange Programme Ltd). Mae nifer o benodiadau allweddol wedi'u gwneud i ddatblygu polisi yn ymwneud ag addysg uwch ac addysg bellach a’r sectorau ieuenctid ac ysgolion. Mae’r rhai a benodwyd yn ymgysylltu'n eang â grwpiau’r rhanddeiliaid i lywio a llunio cynlluniau.
Hefyd, fe benodwyd Cyfarwyddwr Gweithredol dros dro a fydd yn darparu arweinyddiaeth gweithredol gyffredinol, ac mae cyfweliadau ar gyfer penodiad parhaol wedi'i drefnu ar gyfer y mis nesaf.
Mae diddordeb mawr rhyngwladol yn y rhaglen o hyd, ac mae swyddogion yn parhau i ymgysylltu â sefydliadau, llysgenadaethau a chymheiriaid, i amlygu a hyrwyddo cyfleoedd.
Bydd y Bwrdd Cynghori yn cynnal ei gyfarfod cyntaf y mis hwn, a bydd yn darparu goruchwyliaeth gref, gydag aelodau o sefydliadau cenedlaethol cynrychiadol o bob rhan o Gymru. Yn dilyn proses o chwilio am swyddogion gweithredol a chyfres o gyfweliadau, mae’r Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol ar gyfer Dysgu bellach wedi penodi Kirsty Williams CBE yn Gadeirydd y Bwrdd Cynghori.
Mae gan Kirsty Williams sgiliau arwain profedig ar draws y sector addysg yng Nghymru a hanes cryf o hyrwyddo cysylltiadau a phartneriaethau rhyngwladol Cymru. Fel Cadeirydd, bydd yn sicrhau bod uchelgeisiau pob rhan o’n sector addysg a’r ystod eang o ddarparwyr yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu a darparu'r Rhaglen.
Mae'r Rhaglen yn parhau ar y trywydd iawn i wahodd ceisiadau yng ngwanwyn 2022 ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023.
Cynhelir ymarfer ymgynghorol cyn hir i ddewis brand ar gyfer y rhaglen, er mwyn ysbrydoli ymgeiswyr a phartneriaid o Gymru a ledled y byd i gymryd rhan yn y fenter cyfnewid addysg fyd-eang arloesol hon a wnaed yng Nghymru.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach yn y flwyddyn newydd.