Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin wedi dechrau cael eu paru â lloches ddiogel yng Nghymru a’r DU, o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin.

Bydd y cynllun hwn yn galluogi pobl o Wcráin nad oes ganddynt gysylltiadau teulu yma yn barod i gael fisa i ddod i’r DU am hyd at dair blynedd tra mae lluoedd Putin yn parhau i ymosod ar Wcráin.

Rydym yn eithriadol o falch o haelioni pobl yng Nghymru – mae tua 10,000 o bobl wedi cofrestru eu bwriad i gynnig llety yn eu cartrefi a noddi rhywun o Wcráin.

Bydd Cymru’n uwch-noddwr ar gyfer y cynllun hwn. Bydd yr opsiwn hwn ar gael i ffoaduriaid o Wcráin o 26 Mawrth ymlaen.

Fel rhan o'n rôl fel uwch-noddwr, rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol yng Nghymru, yn ogystal â'r trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus ehangach i sicrhau bod y cymorth sydd ei angen ar ffoaduriaid ar gael pan fyddan nhw'n cyrraedd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth i bobl sy'n dioddef trawma a salwch sy'n deillio'n uniongyrchol o'r rhyfel.

Byddwn ni hefyd yn gallu noddi pobl yn uniongyrchol. Bydd pobl sy'n cyrraedd drwy'r llwybr hwn yn cael eu cyfeirio at un o'r canolfannau croeso sy'n cael eu sefydlu ledled Cymru, cyn symud ymlaen i lety tymor canolig a thymor hwy. Mae'r patrwm hwn yn seiliedig ar lwyddiant y cynlluniau adsefydlu ffoaduriaid o Syria ac Affganistan.

Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus am y berthynas weithio agos sydd gennym â llywodraeth leol a’r trydydd sector, yn enwedig Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a phartneriaid eraill

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau y bydd modd i ffoaduriaid o Wcráin deithio am ddim tra maent yn setlo yng Nghymru drwy ddangos pasbort Wcráin i gasglwyr tocynnau a staff gorsafoedd am gyfnod o chwe mis.

Mae’r cynllun yn ychwanegiad at raglen barhaus gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i geiswyr lloches yng Nghymru. Mae hyn yn rhan o’n huchelgais i fod y Genedl Noddfa gyntaf yn y byd, drwy ardystiad gan y Cenhedloedd Unedig.

Mae Cymru yn estyn croeso cynnes.

Gall pobl sydd ag ystafell yn eu cartref ac sydd am helpu gofrestru eu manylion ar gyfer y cynllun Cartrefi i Wcráin ar-lein (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Gellir rhoi arian i Apêl Wcráin y Pwyllgor Argyfyngau yn www.dec.org.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig).

Byddaf yn parhau i roi gwybod i’r Aelodau am y datblygiadau diweddaraf.