Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ein cynlluniau i sefydlu Gweithrediaeth y GIG i sicrhau gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal ledled Cymru.
Amlinellwyd y penderfyniad i sefydlu swyddogaeth weithredol genedlaethol yn Cymru Iachach yn 2018, a chafodd ei ailgadarnhau yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar ganfyddiadau ac argymhellion Adolygiad Ansawdd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a’r Adolygiad Seneddol o Ddyfodol Hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Galwodd y ddau adolygiad hyn am ‘graidd’ cryfach, gallu ychwanegol o ran trawsnewid, ac am symleiddio’r strwythurau presennol.
Cafodd y gwaith ar sefydlu Gweithrediaeth y GIG ei ohirio yn 2020 i ganolbwyntio ar yr ymateb i’r pandemig. Wrth inni symud y tu hwnt i’r ymateb brys i’r pandemig, gallwn sicrhau bod yr hyn a ddysgwyd o’r pandemig yn cael ei gynnwys yn natblygiad Gweithrediaeth y GIG.
Rwyf wedi penderfynu sefydlu Gweithrediaeth y GIG ar ffurf model hybrid, yn hytrach na sefydliad annibynnol. Bydd yn cynnwys uwch dîm bach a chryfach o fewn Llywodraeth Cymru, wedi’i atgyfnerthu a’i ategu drwy ddwyn ynghyd arbenigedd a chapasiti presennol cyrff cenedlaethol yn y GIG, a fydd yn gweithredu o dan fandad uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Mae sefydlu Gweithrediaeth y GIG yn rhan hanfodol o’r gwaith o sicrhau bod ein system iechyd yn addas ar gyfer y dyfodol. Ei diben canolog fydd cynorthwyo’r GIG i ddarparu gofal o ansawdd gwell i bobl ledled Cymru - gan arwain at ganlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i gleifion, llai o amrywiad, a gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn darparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol cryf – gan alluogi, cefnogi a chyfarwyddo’r GIG yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau clinigol yn unol â blaenoriaethau a safonau cenedlaethol drwy:
- Gryfhau arweinyddiaeth a chymorth cenedlaethol ar gyfer gwella ansawdd;
- Darparu cyfarwyddyd mwy canolog i sicrhau dull cyson a theg o gynllunio’n genedlaethol ac yn rhanbarthol ar sail canlyniadau;
- Galluogi trefniadau rheoli perfformiad cryfach, gan gynnwys y gallu i herio a chynorthwyo sefydliadau nad ydynt yn gweithredu yn ôl y disgwyl.
Bydd yn dwyn ynghyd y capasiti cenedlaethol presennol mewn un strwythur cyflawni ac atebolrwydd, gan weithredu yn ôl mandad y cytunwyd arno gan Weinidogion.
O dan y trefniadau newydd hyn, ni fydd dulliau statudol o ran atebolrwydd yn newid. Mae holl sefydliadau’r GIG eisoes yn atebol i Weinidogion a Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, a bydd hynny’n parhau. Byddaf yn parhau i bennu blaenoriaethau, targedau a dulliau o fesur canlyniadau ar gyfer y GIG, a fydd yn cyfrannu at y mandad i Weithrediaeth y GIG ei gyflawni gyda’r GIG ehangach.
Bydd Gweithrediaeth y GIG yn darparu capasiti ychwanegol ar lefel genedlaethol i oruchwylio a chynorthwyo’r gwaith o gyflawni’r blaenoriaethau hyn.
Bydd rhaglen weithredu i fwrw ymlaen â’r gwaith manwl ynghylch sut y bydd Gweithrediaeth y GIG yn gweithredu yn cael ei sefydlu . Arweinir hyn gan Judith Paget, Prif Weithredwr GIG Cymru a Chyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru. Fel rhan o’r rhaglen hon, bydd ymgysylltu trylwyr â chadeiryddion a phrif weithredwyr y GIG, arweinwyr cyrff cenedlaethol, staff y GIG a Llywodraeth Cymru, a rhanddeiliaid ehangach.
Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau eto wrth i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.