Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r pandemig coronafeirws a’r ymateb iddo wedi cael effaith ar iechyd a llesiant pobl yng Nghymru. Mae hyn yn aml wedi’i theimlo fwyaf gan aelodau mwyaf agored i niwed ein cymdeithas, gan gynnwys y bobl hynny sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i ddeall yr heriau sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia, a sicrhau ein bod yn ymateb iddynt.

Ers dechrau'r pandemig, mae fforwm partneriaeth COVID-19 Gofal Dementia, dan arweiniad Gwelliant Cymru, wedi cynnig cyfleoedd rheolaidd i nodi heriau a datblygu atebion. Mae’r Grŵp Goruchwylio Gweithrediad ac Effaith ym Maes Dementia (DOIIG) hefyd wedi'i ail-sefydlu i ddarparu cymorth pellach i arwain dulliau o adfer.

Rydym wedi cefnogi byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector i barhau i ddarparu cymorth i bawb sy'n cael gwasanaethau dementia. Mae hyn yn cynnwys rhyddhau arian o’r Gronfa Gofal Integredig a ddyrannwyd i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi'r gwaith o weithredu Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia 2018-22 i Gymru. Os yw unigolion yn cael trafferth, mae cymorth hefyd ar gael drwy eu mudiad gwirfoddol lleol.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, i ddatblygu amrywiaeth o adnoddau ar-lein i gefnogi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a theuluoedd y bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r adnoddau ar-lein hyn ar gael yn https://gofalcymdeithasol.cymru/gwella-gwasanaethau/dementia-a-covid-19.

Mae’r pandemig wedi golygu bod llawer o wasanaethau wedi gorfod gwneud newidiadau i leihau’r risg o ledaenu’r feirws. Mae hyn yn anochel wedi golygu lleihau cyswllt wyneb yn wyneb. Rydym wedi gweld llawer iawn o ymarfer arloesol dros y saith mis diwethaf, ac ni ddylai hwn gael ei golli. Ond gwyddom hefyd nad yw pawb wedi addasu i ddefnyddio gwasanaethau ffôn a digidol.

Nodwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau GIG hanfodol ac er nad oedd rhai clinigau’n gallu gweithredu yn ystod y cyfyngiadau symud, ceisiwyd sicrwydd bod asesiadau dementia brys wedi cael eu cynnal a’u bod yn parhau i fod ar gael. Wrth i wasanaethau rheolaidd gael eu darparu dros fisoedd yr haf, mae staff ychwanegol ac asesiadau o bell wedi’u defnyddio lle bo'n briodol i reoli amseroedd aros.

Mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i bobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. Yn anffodus, gwyddom fod llawer o bobl gyda dementia wedi marw yn ystod y pandemig. Bu cynnydd yng nghyfran y marwolaethau lle mai prif achos y farwolaeth oedd dementia neu glefyd Alzheimer, yn enwedig mewn cartrefi gofal. Bydd angen ymchwil pellach i edrych ar y rhesymau dros y cynnydd hwn yn llawn.

Sefydlwyd Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol ac mae fframwaith cenedlaethol yn cael ei ddatblygu ar gyfer gofal profedigaeth yng Nghymru, i gefnogi llwybrau atgyfeirio clir, asesiadau risg ac anghenion, hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr a chyfeiriadur o'r ddarpariaeth profedigaeth sydd ar gael. Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud hefyd i ddatblygu offeryn haenu risg mwy unigol, a fydd yn ystyried y data a gyhoeddwyd am effaith COVID-19 ar gyflyrau penodol.

Gwyddom fod yr heriau hyn wedi'u teimlo'n arbennig o ddifrifol yn y sector cartrefi gofal ac mae cartrefi gofal wedi gorfod gwneud addasiadau sylweddol i ddarparu gofal priodol, a bydd angen iddynt barhau i wneud hynny.

Pan fo’r cyfyngiadau i reoli’r pandemig yn effeithio ar ymweliadau â chartrefi gofal, mae hyn yn cael effaith ar lesiant y preswylwyr, yn enwedig y rheini sy'n byw gyda dementia. Gwyddom fod y rhain yn benderfyniadau anodd i’w gwneud ac nad ydynt yn cael eu gwneud ar chwarae bach. Mae pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal yn arbennig o agored i niwed yn sgil coronafeirws ac mae ganddynt brognosis arbennig o wael os byddant yn mynd yn sâl oherwydd y feirws.

Gwnaed ymdrech sylweddol i gefnogi cartrefi gofal yng Nghymru, a'r rhai sy'n byw ac yn gweithio ynddynt, yn ystod y pandemig. Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi diweddariad yn ddiweddar am y Cynllun Gweithredu Cartrefi Gofal sy’n ystyried llesiant pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Rydym yn ariannu dau brosiect a fydd yn cefnogi gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal.

Arweinir y prosiect Cysylltiadau Dementia ac Integreiddio gan Platfform ac mae'n darparu sesiynau un i un a sesiynau grŵp i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Mae Age Cymru yn arwain prosiect sy'n ceisio gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr hŷn a chreu cyfleoedd i ofalwyr lywio a dylanwadu ar wasanaethau. Bydd hefyd yn gweithio gyda gofalwyr pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Mae’r cyfnod hwn hefyd wedi bod yn un heriol i staff cartrefi gofal. Mae Gwella Cymru, gyda chymorth Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi sefydlu rhwydwaith cymorth digidol ar gyfer cartrefi gofal ledled Cymru i ymateb i hyn. Mae Prosiect Cwtch wedi cynnig llwyfan i gartrefi gofal rannu arferion gorau a hunanreoli rhai o'r heriau o ddarparu gofal ar hyn o bryd, yn ogystal â chynnig cymorth gan gymheiriaid.

Mae’r gwasanaeth “Gofynnwch i ni am Ddementia”, yn rhoi mynediad prydlon at gyngor a chyfeirio at ofal dementia gan ddefnyddio teleiechyd. Y mae’n bartneriaeth rhwng Gofal Cymdeithasol Cymru a gweithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys ymgynghorydd proffesiynol perthynol i iechyd, y datblygwyd ei rôl drwy'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia ac sydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad ar bolisi dementia drwy'r pandemig.

Gall gofalwyr drefnu apwyntiad rhithwir gydag ymarferwyr dementia profiadol sy'n darparu ystod o wybodaeth a sgiliau; mae’r prosiect yn cynnwys ffisiotherapi, therapi lleferydd ac iaith, therapi galwedigaethol, nyrsio, dieteteg, fferylliaeth, a hyfforddiant dementia. Mae'r cynllun peilot wedi'i gyd-gynhyrchu gyda mewnbwn gan bobl sy'n byw gyda dementia, darparwyr gofal, sefydliadau'r trydydd sector a chyrff statudol. Mae'r gwasanaeth yn cael ei gynnig ar hyn o bryd fel cynllun peilot lleol, a chaiff ei ddefnyddio i brofi prosesau a chanlyniadau i lywio prosiect cenedlaethol hirdymor.  

Mae grŵp gorchwyl a gorffen adsefydlu Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd yn cael eu cynnwys wrth ystyried yr angen cynyddol am wasanaethau adsefydlu, ailalluogi ac adfer.

Rydym eisiau sicrhau ein bod yn cefnogi pobl i wella a byw mor annibynnol â phosibl am gyhyd â phosibl.

Mae'n amlwg y byddwn yn byw ochr yn ochr â coronafeirws am beth amser eto. Rwy’n hynod ddiolchgar am ymdrechion y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector wrth iddynt gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd.