Carwyn Jones, y Prif Weinidog
Mae symud i economi rhad-ar-garbon yn cynnig cyfleoedd mawr. Mae gan Gymru adnoddau naturiol sylweddol ym mwy neu lai pob ffynhonnell ynni ac mae gennym y seilwaith hefyd, gan gynnwys pyrth a grid, i wneud y mwyaf o’r cyfle hwn. Mae angen datblygu cydbwysedd gofalus rhwng diogelwch y cyflenwad ynni, y manteision i’r gymuned a lleihau allyriadau.
Mae Llywodraeth Cymru am gynhyrchu cymaint o drydan â phosib o ffynonellau isel eu carbon gan gynnwys ynni adnewyddadwy ar y tir ac ar y môr, tanwyddau ffosil glân a niwclear, tra’n sicrhau gwerth am arian. Mae gan danwyddau ffosil, yn enwedig nwy, rôl bwysig i’w chwarae wrth newid i economi garbon isel. Rydym yn cydnabod swyddogaeth diwydiannau ynni dwys yn economi Cymru ac mae’n rhaid inni gefnogi ein diwydiannau wrth symud i economi garbon isel. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni ac arbedion ynni, fel a welwyd yn ein Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni a’r Rhaglen Arbed arloesol.
Mae Cymru yn ‘agored i fusnes’ ac rydym yn gweithio gyda’r sector ynni i helpu i sicrhau ffyniant a swyddi hirdymor yng Nghymru. Mae’r sector ynni ac amgylchedd yn bwysig o ran ei gyfraniad at y GYC yng Nghymru, dyma’r sector welodd y cynnydd mwyaf yn nifer y gweithwyr, sef 33% rhwng 2005 a 2009, a’r sector welodd y nifer fwyaf o gwmnïau newydd o’r chwe sector blaenoriaeth gwreiddiol yng Nghymru yn 2008. Byddwn yn adeiladu ar y cryfder hwn, mewn partneriaeth â diwydiant, i sicrhau bod Cymru’n manteisio’n uniongyrchol o’r trawsnewidiad i economi rhad-ar-garbon.
Byddwn yn sicrhau bod cymunedau, a’r economi ehangach yng Nghymru yn manteisio i’r eithaf o ddatblygiadau i’r seilwaith ynni. Mae angen i gymunedau fod yn gysylltiedig â’r cynigion i ddatblygu. Mae angen amddiffyn pobl fregus rhag tlodi tanwydd. Byddwn hefyd yn cynllunio ac yn ystyried yn ofalus effeithiau’r seilwaith ynni, gan gynnwys eu heffaith gronnol, ar ein hamgylchedd naturiol. Rydym eisoes yn sicrhau manteision cyffredinol i’r gymuned, ble y mae’r pwerau gennym i wneud hynny, a byddwn yn cydweithio gyda datblygwyr ynni i sicrhau bod cymunedau yn rhannu manteision y trawsnewidiad i economi rhad-ar-garbon yng Nghymru.
Rwy’n benderfynol bod Cymru yn cynnig amgylchedd fuddsoddi sefydlog a chefnogol. Rwyf am sicrhau bod gennym broses gynllunio a chydsynio glir a thryloyw ar gyfer y seilwaith ynni, ac rydym eisoes yn cymryd camau i symleiddio’r system gydsynio yn ein maes cyfrifoldeb. Er enghraifft, byddwn yn ceisio sicrhau hyn wrth gyfuno Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Prydain pan fydd Cymru yn colli allan o ganlyniad i bolisïau ynni ehangach Prydain – er enghraifft, mewn perthynas â’r Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy a’r broses gydsynio ar gyfer seilwaith ynni mawr. Mae angen y pwerau ar Lywodraeth Cymru i’n galluogi i wneud y swydd yn fwy effeithlon ac effeithiol. Rwyf hefyd yn creu cysylltiadau mwy clos ar draws gwahanol feysydd o lywodraeth a’r sector cyhoeddus yn ehangach i sicrhau ein bod yn cyflawni’r polisi mewn dull gydlynol.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar y mater hwn ar ddechrau 2012, gan roi amlinelliad mwy manwl o’r hyn y bydd y rhaglen ynni yn ei gyflawni, sut y byddwn yn cydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol, a’r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gan eraill er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni fel gwlad.