Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg
Rydym i gyd yn gwybod pa mor anodd y mae’r misoedd diwethaf wedi bod i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid. Rydym yn awyddus i gefnogi darparwyr cartrefi gofal yn eu hymdrechion i sicrhau y gall y bobl y maent yn gofalu amdanynt ailgysylltu’n ddiogel â’u teuluoedd a’u ffrindiau.
Yn gynharach y mis hwn, yn dilyn cyfnod o adolygu, cyhoeddwyd y byddai’r rhaglen profi staff asymptomatig mewn cartrefi gofal yn parhau. Yn sgil y gwelliannau o ran technolegau profi a'r gallu i brofi, rydym hefyd wedi bod yn adolygu ein safbwynt ar brofi mewn meysydd eraill yn ymwneud â gofal cymdeithasol. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn gallu cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith pwysig hwn. Hoffem ddechrau drwy roi diweddariad ar y camau nesaf rydym yn eu cymryd i gefnogi ymwelwyr â chartrefi gofal.
Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol o’r cyhoeddiad diweddar gan Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig y byddant yn defnyddio technolegau profi cyflym newydd i gynnal cynllun peilot ar gyfer sgrinio am COVID-19 ymhlith ymwelwyr â chartrefi gofal yn Lloegr. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd y cynllun peilot hwnnw hefyd yn cael ei roi ar waith ar draws nifer bychan o gartrefi gofal yng Nghymru o 30 Tachwedd ymlaen. Cynllun peilot logistaidd fydd hwn, a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno’r cynllun yn ehangach mewn rhagor o gartrefi gofal yng Nghymru o’r wythnos sy’n dechrau ar 14 Rhagfyr.
Fel rhan o’r cynllun, mae cartrefi gofal ledled Cymru wedi gwirfoddoli i gynnig profion i ymwelwyr â chartrefi gofal gan ddefnyddio dyfeisiau llif unffordd. Mae’r profion hyn yn cynnig canlyniad mewn tua 20 munud ac yn rhoi mwy o hyder a sicrwydd i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, ymwelwyr a rheolwyr wrth alluogi i ymweliadau diogel, hanfodol â rhai o’n hunigolion mwyaf agored i niwed ddigwydd.
Fodd bynnag, rhaid inni osgoi mynd yn hunanfodlon. Nid yw dyfeisiau llif unffordd mor sensitif â’r profion RT-PCR rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd mewn rhaglenni profi eraill, gan gynnwys rhaglenni sgrinio unigolion asymptotig ac felly ni fyddant yn canfod 100% o’r achosion positif. Felly, nid yw canlyniad prawf negatif yn rhoi ‘pas rydd’ a rhaid parhau i ddilyn gweithdrefnau atal a rheoli heintiau, fel hylendid dwylo, gwisgo cyfarpar diogelwch personol a chadw pellter cymdeithasol priodol. Yn yr un modd, rhaid rhoi gwybod i’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu am unrhyw ganlyniad positif a bydd angen cadarnhau canlyniad gyda phrawf dilynol. Byddwn yn rhoi cyflenwad o becynnau RT-PCR profi gartref, yn arbennig ar gyfer yr ymwelwyr hynny sy’n cael canlyniad prawf positif am COVID-19.
Mae ein hamserlenni’n uchelgeisiol ac mae angen gweithio drwy faterion ymarferol logistaidd. Fodd bynnag, drwy weithio’n ddynamig drwy’r cyfnod peilot a chydweithio â chartrefi gofal sy’n cymryd rhan ynddo, rydym yn credu y gallwn ganiatáu i ragor o bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal dreulio amser gwerthfawr gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau dros gyfnod y Nadolig. Rydym eisiau pwysleisio hefyd nad yw’r cyhoeddiad hwn am brofi mewn cartrefi gofal mewn unrhyw ffordd yn diystyru’r cyhoeddiadau a wnaed yn ddiweddar gan y Gweinidog Addysg ynglŷn â phrofi myfyrwyr sy’n dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig.
Rydym yn ymwybodol mai rhan o’r ateb yn unig yw’r rhaglen brofi i alluogi rhagor o ymweliadau. Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai darparwyr wedi ei chael hi’n anodd cefnogi ymweliadau gan gadw pellter cymdeithasol oherwydd diffyg lle i gynnal ymweliadau dan do. Mae hyn yn arbennig o heriol yn ystod misoedd y gaeaf ac yn bwysicach fyth wrth i dymor yr ŵyl agosáu.
Rydym hefyd felly yn falch o gyhoeddi lansiad cynllun peilot a fydd yn helpu darparwyr cartrefi gofal i hwyluso ymweliadau wrth gadw pellter cymdeithasol drwy ddarparu nifer cyfyngedig o bodiau ymweld am ddim am gyfnod prawf o 26 wythnos.
Byddwn yn dechrau’r cynllun peilot gyda 30 o bodiau ymweld ond y gobaith yw y bydd hyd at 100 o bodiau ar gael ar y cyfan, os oes digon o ddiddordeb.
Byddwn yn gweithio’n ddi-oed i sicrhau bod y 30 pod ymweld cyntaf wedi’u gosod ac yn barod i’w defnyddio cyn y Nadolig. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru eisoes wedi cysylltu â darparwyr cartrefi gofal yng Nghymru i ofyn am ddatganiadau o ddiddordeb yr wythnos hon. Rydym yn gobeithio gallu rhoi gwybod i’r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 30 Tachwedd.
Yn ogystal â’r uchod, rydym yn disgwyl rhyddhau hyd at £1 miliwn i helpu’r darparwyr hynny y byddai’n well ganddynt wneud eu trefniadau eu hunain ar sail debyg. Byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion maes o law.
Bydd y cynllun peilot yn ein helpu i ddeall a yw podiau ymweld yn ffordd effeithiol ac ymarferol o gefnogi ymweliadau ystyrlon. Byddwn yn defnyddio’r hyn y byddwn yn ei ddysgu i benderfynu a ddylem ystyried comisiynu ateb pwrpasol yng Nghymru yn y dyfodol, os bydd llwybr y pandemig yn golygu y bydd angen gwneud hyn.
Unwaith eto, hoffem ddiolch yn ddiffuant i ddarparwyr cartrefi gofal a’u staff am eu holl ymdrechion a’u hymroddiad yn ystod y cyfnod heriol hwn.