Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Covid-19 wedi effeithio ar yr economi a’r farchnad lafur ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen, ac mae’n bygwth gwrthdroi’r gwaith da sydd wedi’i wneud yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf i leihau diweithdra ac anweithgarwch economaidd. Rydym yn gwybod nad yw ystadegau diweddaraf y farchnad lafur yn adlewyrchu’r darlun economaidd llawn, gydag economegwyr yn rhagweld na fydd yr effaith lawn yn cael ei theimlo tan fis Hydref ar y cynharaf.

Rydym eisoes wedi darparu pecyn hael o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru, drwy ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF), sydd wedi darparu gwerth £150 miliwn o grantiau hanfodol i helpu i ddelio ag effeithiau’r coronafeirws. Yn ôl yr arwyddion, mae’r Gronfa wedi helpu i ddiogelu tua 75,000 o swyddi.

Ond, rydym am wneud mwy i barhau i helpu unigolion a busnesau i lywio’u ffordd drwy’r argyfwng. Heddiw, rwy’n cyhoeddi bron £40 miliwn o fuddsoddiad i helpu i gyflawni ein “Ymrwymiad Covid”. Bydd y cyllid hwn yn sicrhau y bydd unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru yn gallu manteisio ar gymorth i ddod o hyd i waith, i fod y hunangyflogedig neu i ddod o hyd i gwrs addysg neu hyfforddiant. Bydd yn targedu’r unigolion hynny ym Marchnad Lafur Cymru y mae’r argyfwng yn fwyaf tebygol o effeithio’n negyddol arnynt.

Mae’r buddsoddiad ERF hwn yn ychwanegol i’r £50miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf gan fy nghydweithiwr, Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg i brifysgolion a cholegau gynnal addysgu, dysgu a sgiliau mewn ymateb i effaith y coronafeirws ar yr economi. Mae hefyd yn rhan o’n hymrwymiad hirdymor i wella canlyniadau cyflogaeth i’r rheini sydd eisoes dan anfantais yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl anabl, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a’r rheini â lefel isel o sgiliau ac ar incymau isel.

Bydd y buddsoddiad yn:

  • Ehangu gwasanaethau rheng flaen o fewn Cymru’n Gweithio a Cymunedau am Waith a Mwy i helpu i baru cyfranogwyr gyda chyfleoedd yn y farchnad lafur leol, cynorthwyo unigolion i chwilio am swyddi, gwella’r ddarpariaeth o fentoriaid ar gyfer unigolion di-waith sydd angen mwy o gymorth dwys wedi’i deilwra at eu hanghenion, gan eu cyfeirio ymlaen, lle bo’n briodol, i’r cynnig cyflogadwyedd ehangach gan gynnwys gwasanaethau’r Adran Waith a Phensiynau. Mae hyn hefyd yn cynnwys cronfa rhwystrau hunangyflogaeth sy’n cynnig hyd at £2,000 i helpu busnesau sy’n cychwyn arni.

 

  • Cynnig cymorth ac ysgogiadau recriwtio i helpu i gyflogi prentisiaid ifanc rhwng 16 a 24 oed, i annog ail-gyflogi prentisiaid sydd wedi colli eu gwaith, a Phrentisiaethau Rhannu Cyflogwr sy’n cael eu gyrru gan y sector.

Defnyddio ein Rhaglen Hyfforddeiaeth i ddarparu cymorth hanfodol a phrofiad gwaith i bobl 16-18 oed. Yn ogystal â helpu mwy o raddedigion i fanteisio ar brofiad gwaith, sesiynau blasu a lleoliadau gwaith â thâl pan fyddant yn gadael y brifysgol drwy Go Wales.

  • Darparu Gwasanaethau therapiwtig a chwnsela a arweinir gan iechyd drwy’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith i helpu i gadw gweithwyr, ar gyfer y rheini sydd mewn perygl o ddiweithdra oherwydd problemau cyhyrysgerbydol neu iechyd meddwl, gyda chymorth estynedig ar gyfer y rheini sy’n ddi-waith ac sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl a/neu broblemau yn ymwneud â chamddefnyddio sylweddol o ganlyniad i Covid-19.

 

  • Darparu cymorth hyfforddi i gyflogwyr i uwchsgilio a datblygu eu gweithwyr, gan gynnwys prosiectau partneriaeth penodol gyda’r sectorau creadigol, lletygarwch a thwristiaeth, lled-ddargludyddion, peirianneg uwch, gweithgynhyrchu a digidol drwy’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg a Phrentisiaethau Gradd.

 

  • Darparu cymorth i ailhyfforddi’r gweithlu presennol i ddod o hyd i gyflogaeth newydd neu well, i newid sector a galwedigaeth, ac i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith mewn meysydd lle y mae galw am sgiliau drwy ReAct a’r Gronfa Dysgu Undebau, yn ogystal â’r Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol sy’n cael ei chyflwyno’n genedlaethol.

Fel rhan o’r ymrwymiad hirdymor i ddysgu gydol oes, mae hyn yn cynyddu cyfanswm y gyllideb ar gyfer y Rhaglen Cyfrif Dysgu Personol i £15.5 miliwn, i alluogi pobl gyflogedig a gweithwyr ar ffyrlo i feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau i ailsgilio neu uwchsgilio i ddechrau gyrfa newydd, gan wneud hynny mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u hymrwymiadau gwaith a theulu neu ffordd o fyw. Bydd hefyd yn helpu cyflogwyr i ailadeiladu eu busnesau drwy sgiliau a hyfforddiant yn y maes digidol, marchnata, cynhyrchu a rheoli etc.

Bydd ein dull yn seiliedig ar Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl newydd a fydd yn gweithio gyda busnesau ar draws Cymru i greu’r amodau sydd eu hangen ar bobl anabl i ffynnu yn y gwaith. Bydd hefyd yn darparu cymorth o ran recriwtio a chadw gweithwyr, ac yn gwneud gweithleoedd yn fannau mwy cynhwysol – gan newid agweddau a lleihau stigma.

Heddiw, rwy’n galw ar gyflogwyr i fanteisio ar ein pecyn o fesurau i greu cyfleoedd gwaith, ail-lunio sgiliau gweithwyr presennol ac yn bwysicach, rhoi cyfle i’r genhedlaeth ifancach i gael profiad o’r farchnad swyddi ac i gychwyn ynddi ar adeg mor anodd. Rydym yn cydnabod nad oes gymaint o awydd gan fusnesau i recriwtio bellach, ac y gallai ysgogiadau byrdymor fod yn bwysig i sbarduno’r farchnad.

Bydd ein dull o weithio mewn Partneriaethau Cymdeithasol yng Nghymru yn allweddol i’n hadferiad economaidd ac i ddatblygu datrysiadau ar y cyd i heriau cyffredin. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i harneisio’r hyn sy’n cael ei gyflawni ar draws Cymru i ymateb yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn. Dyna pam rwyf wedi galw ar y sector preifat, partneriaid cymdeithasol, yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) a llywodraeth leol i weithio law yn llaw i gynnal economi Cymru i helpu i liniaru effaith Covid-19.

Rydym wedi ailsefydlu Grwpiau Ymateb Rhanbarthol ar Gyflogaeth i yrru camau gweithredu ar y cyd i fanteisio ar ddeallusrwydd ar draws y rhanbarthau, i adnabod mannau lle y gwelir llawer o recriwtio a diswyddiadau, a dosbarthu adnoddau i helpu pobl i ddod o hyd i swyddi addas.

Gan weithio mewn cydweithrediad â Chynllun Swyddi Llywodraeth y DU a DWP yng Nghymru, rydym yn hyderus y gallwn ddarparu cynnig hyd yn oed yn well i bobl Cymru drwy’r buddsoddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Nid yn unig adfer o’r pandemig hwn yr ydym am wneud, ond Ailgodi’n Gryfach drwy greu economi genedlaethol sy’n gwasgaru cyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn fwy cyfartal ar draws Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny