Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad technegol ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2023 drafft ('y Rheoliadau drafft'). Bydd y Rheoliadau drafft yn cyflwyno diwygiadau i’r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori o’r blaen ar gynigion i ddiwygio'r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig, a hynny rhwng 17 Hydref 2017 a 9 Ionawr 2018. Un o'r negeseuon allweddol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad oedd na ddylid gwneud unrhyw newidiadau hanner ffordd drwy restr ardrethi annomestig, ac mai’r amser gorau i wneud newidiadau fyddai ar yr un pryd ag ailbrisio. Bydd yr ailbrisiad nesaf yn cael ei weithredu ar 1 Ebrill 2023.

Ar 29 Mawrth 2022, gwneuthum Ddatganiad Llafar a oedd yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio ardrethi annomestig yn ystod tymor y Senedd bresennol. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys cynnal ailbrisiadau amlach yn y dyfodol. Bydd newidiadau i'r system apelio, a ategir drwy fabwysiadu platfform digidol a ddarperir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, yn ddull allweddol o alluogi’r amcan hwn, gan sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn gallu elwa ar welliannau parhaus.

Mae'r ymgynghoriad technegol yn nodi effaith y Rheoliadau drafft, a fydd yn gymwys i restrau ardrethu a gaiff eu llunio ar neu ar ôl 1 Ebrill 2023, ac yn ceisio barn ar eu heglurder deddfwriaethol a'u cymhwysiad ymarferol.

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, a gofynnir am ymatebion erbyn 11 Hydref 2022. 

Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://llyw.cymru/rheoliadau-syn-diwygior-system-apelio-ar-gyfer-ardrethi-annomestig-yng-nghymru

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.