Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Yn 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hagenda ryngwladol: Cymru yn y Byd. Ers hynny, mae'r dirwedd ryngwladol wedi newid yn aruthrol gan arwain at yr angen am strategaeth â ffocws newydd sy'n nodi gweledigaeth ryngwladol ar gyfer Cymru. Fel Gweinidog cyntaf Cymru ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol, rwyf wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn ystod y chwe mis diwethaf i ddatblygu strategaeth sy'n nodi ein huchelgeisiau rhyngwladol arfaethedig mewn byd ansicr sy'n newid yn gyson.
Mae’r ansicrwydd parhaus ynglŷn â Brexit, y diffyg eglurder ynglŷn â'n perthynas â'n cymdogion agosaf a'r negodiadau estynedig i ymadael â'r UE wedi ychwanegu oedi ac anhawster sylweddol wrth ddrafftio'r strategaeth ryngwladol hon. Fodd bynnag, mae'n bleser gennyf lansio'r strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus heddiw.
Gyda'r ymgynghoriad yn cau ar 23 Hydref, dim ond wythnos cyn dyddiad terfyn estynedig y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, bydd angen cynnwys elfen o hyblygrwydd yn y strategaeth derfynol, a bydd rhaid iddi addasu i'r amgylchiadau ar adeg cyhoeddi, gan ymateb i sefyllfaoedd 'gyda chytundeb' a 'heb gytundeb' a fydd yn gliriach ar ôl 31 Hydref.
Bydd y strategaeth yn cael ei chefnogi gan gynlluniau cyflawni a fydd yn cynnwys targedau a chamau gweithredu allweddol. Fodd bynnag, mae'n amhosibl cynnwys targedau ar hyn o bryd oherwydd yr ansicrwydd presennol ynghylch canlyniad Brexit.
Mae'r nodau blaenoriaeth yn y cynllun yn cynnwys:
- Codi proffil Cymru yn rhyngwladol;
- Cynyddu ein hallforion ac annog mewnfuddsoddiad, gan dyfu ein heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru;
- Dangos i'r byd beth rydyn ni'n ei wneud fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd eang.
Rwy'n credu bod y tri nod uchod yn cyfleu creadigrwydd Cymru; y ffordd yr ydym wedi defnyddio technoleg a'n hymrwymiad at gynaliadwyedd. Mae cysylltiadau rhyngwladol yn rhan o waith bron pob adran yn Llywodraeth Cymru. Bydd y strategaeth hon yn siapio'r gwaith hwnnw ac yn canolbwyntio ymdrechion i sicrhau bod gennym neges gyffredin a chyson i gyflawni ein huchelgais driphlyg.
Mae llawer o bobl a sefydliadau Cymreig yma, a thramor, sydd â diddordeb yn ein helpu i wella proffil Cymru ac rydyn ni’n gobeithio y gallwn ychwanegu gwerth at ymdrechion Llywodraeth Cymru yn rhyngwladol drwy weithio gyda nhw.
Rwy'n edrych ymlaen at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghori gan ddefnyddio'r ddolen hon:
https://llyw.cymru/strategaeth-ryngwladol-ddrafft-i-gymru
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn sicrhau bod yr aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Os hoffai'r aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.