Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd ein hymgynghoriad yn amlinellu rheolau drafft ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol (prif gynghorau) gan ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi prif gynghorau i ddewis cynnal etholiadau yn y dyfodol gan ddefnyddio’r system STV. Daeth y darpariaethau hyn yn weithredol ar 6 Mai 2022.
Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio sylwadau ar Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 (y Rheolau STV drafft), sy’n amlinellu sut y byddai etholiad sy’n defnyddio’r system STV yn cael ei weithredu.
Cafwyd 32 o ymatebion, ac rydym yn ddiolchgar i bob unigolyn a sefydliad rhanddeiliaid a roddodd eu sylwadau ar ein huchelgais i wella iechyd democrataidd. Heddiw, cafodd crynodeb o’r ymatebion ei gyhoeddi, ac rydym bellach yn disgrifio’r camau nesaf a gymerir i gyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gael yr hyblygrwydd i ddewis pa system etholiadol sydd orau ganddynt.
Mynegodd yr ymatebwyr eu cefnogaeth gyffredinol i’r Rheolau STV drafft, a chafwyd nifer o sylwadau ac awgrymiadau defnyddiol ganddynt. Byddwn yn gwneud nifer o newidiadau i’r Rheolau drafft yn sgil ystyried yr adborth hwn.
Er enghraifft, byddwn yn gwella eglurder a hygyrchedd y testun yn y papurau pleidleisio a ffurflenni eraill, ar ôl ystyried rhai o’r awgrymiadau defnyddiol a ddaeth i law. Hefyd, byddwn yn gweithio gyda’r Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill ar ganllawiau pellach a fydd yn helpu i weithredu’r Rheolau STV.
Y dyddiad cau i awdurdodau allu dewis mabwysiadu STV ar gyfer etholiadau lleol 2027 yw 15 Tachwedd 2024. Bwriedir i’r Rheolau ddod i rym yn yr hydref 2023.