Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pe bai angen i rai o’r mesurau sy’n ymwneud â phandemig y coronafeirws barhau mewn grym, mae’n bosibl y byddai angen addasu’r trefniadau ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021. Mae Llywodraeth Cymru wedi ffurfio Grŵp Cynllunio Etholiadau, yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol a swyddogion Llywodraeth Cymru, i ystyried yr effaith bosibl ar weinyddu’r etholiadau ac unrhyw effaith ar ddarpariaeth ddeddfwriaethol.

Serch hynny, bydd angen bwrw ymlaen o hyd â gwaith ar y ddeddfwriaeth alluogi i ganiatáu i etholiadau’r Senedd gael eu cynnal. Felly, heddiw mae dogfen ymgynghori sy’n ceisio barn ar Orchymyn drafft Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020 wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

https://llyw.cymru/gorchymyn-drafft-senedd-cymru-cynrychiolaeth-y-bobl-diwygio-2020

Trosglwyddodd adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017, bwerau penodol oddi wrth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cynnal etholiadau’r Senedd. Cyn pob un o etholiadau’r Senedd, caiff Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, sy’n nodi’r ffordd y bydd yr etholiad ac ymgyrch yr etholiad yn cael eu cynnal ac sy’n cynnwys darpariaeth ar gyfer her gyfreithiol, ei adolygu a’i ddiwygio er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn polisi neu ddeddfwriaeth ers yr etholiad diwethaf.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y diwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 sy’n codi’n bennaf o ganlyniad i newidiadau i’r trefniadau etholfraint ac anghymhwyso a wnaed gan Ddeddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn ogystal â rhai diwygiadau canlyniadol sy’n codi o’r darpariaethau enwi.

Mae’r Gorchymyn drafft hefyd yn cynnwys diwygiadau mwy sylweddol sy’n adlewyrchu newidiadau a wnaed yn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig i roi’r dewis i ymgeiswyr beidio â chyhoeddi eu cyfeiriad cartref mewn etholiad, ynghyd â mater talu ffioedd i swyddogion canlyniadau am wasanaethau a ddarperir. Hefyd, gwneir diweddariadau cyffredinol sy’n adlewyrchu newidiadau ers diwygio’r Gorchymyn ddiwethaf.

Rwy’n awyddus i glywed barn rhanddeiliaid a byddaf yn ystyried eu sylwadau yn ofalus cyn llunio drafft terfynol y Gorchymyn. Bydd yr ymgynghoriad ar y cynigion hyn ar agor tan 8 Medi 2020. Mae manylion sut i ymateb wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori. Ar ôl ystyried yr ymatebion, bydd y Gorchymyn drafft yn cael ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth y Senedd. Bydd swyddogion hefyd yn ystyried y gwaith o ddatblygu Gorchymyn newydd, wedi’i gydgrynhoi, yn barod ar gyfer yr etholiad yn 2026.