Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Dros y pythefnos diwethaf, rydym ni i gyd wedi bod yn hynod o bryderus am y rhai a gafodd eu dal yn yr argyfwng dyngarol sy'n datblygu yn Affganistan. Mae ein meddyliau gyda'r rhai yr effeithir arnynt gan gynnwys unrhyw un sydd eisoes yn byw yma fel cyn-filwr, cyn-gyfieithydd, ceisiwr noddfa neu ffoadur a allai fod yn poeni am ffrindiau ac aelodau o'r teulu yn ôl adref.
Mae Cymru'n Genedl Noddfa a rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cyfieithwyr a ffoaduriaid a'u teuluoedd o Affganistan yn gallu cyrraedd man diogel a chael croeso yma.
Mae llawer o'r rhai sy'n ffoi o Affganistan hefyd wedi gwasanaethu ein gwlad mewn gwahanol ffyrdd ac wedi gweithio i'n diogelu ni, felly mae cyfrifoldeb arnom i wneud yr hyn a allwn i'w diogelu nhw yn awr.
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu llinell gymorth ar gyfer gwladolion nad ydynt yn Brydeinig sydd angen cymorth yn Affganistan. Rhif y Llinell Gymorth yw +4402475389980.
Gall gwladolion Prydeinig sy'n dal i fod yn Affganistan ffonio +4402070085000 neu +4401908516666 i siarad â swyddogion y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i gadarnhau eu cynlluniau ymadael
Mae cymunedau, awdurdodau lleol a sefydliadau cefnogi Cymru wedi rhuthro i gynnig cymorth. Mae awdurdodau cyhoeddus Cymru eisoes yn gweithio'n ddiflino i sicrhau ein bod yn chwarae rhan lawn yng nghynllun Llywodraeth y DU ar gyfer adleoli a chynnig cymorth i bobl Affganistan (cefnogi cyfieithwyr o Affganistan a'u teuluoedd), yn ogystal â'r cynllun ar wahân sydd newydd ei gyhoeddi i gefnogi ffoaduriaid o Affganistan. Rydym wedi derbyn llawer o gynigion hael o roddion neu wirfoddoli, ac rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud y defnydd gorau o'r cynigion caredig hyn o bob cwr o'n cenedl.
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cynnig eiddo ac yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan yn y ddau gynllun. Mae argaeledd tai priodol yn her sylweddol – ac yn fater sy’n effeithio ar fwy na’n hymrwymiadau o dan y cynlluniau hyn yn unig.
Rydym yn gweithio ar frys i ddod o hyd i eiddo gwag y gall awdurdodau lleol eu defnyddio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi gorfod dianc. Rydym yn gwerthfawrogi'r cynigion hael niferus sydd wedi dod i law gan bobl yn cynnig rhoi lloches i unigolion yn eu cartrefi eu hunain, ond ein prif angen yw eiddo teuluol mwy. Os daw Aelodau'n ymwybodol o eiddo mwy sydd ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer y cynlluniau hyn, neu i ddarparu ar gyfer grwpiau eraill o bobl sy'n agored i niwed – cysylltwch â'r awdurdod lleol perthnasol.
Yr wythnos hon, mae'r Prif Weinidog a minnau wedi cyfarfod a gwrando ar randdeiliaid allweddol o bob cwr o Gymru, gan gynnwys cynrychiolwyr o gymuned Affganistan, i edrych ar sut y gallwn gydweithio i ddarparu'r cymorth gorau posibl i'r rhai sy'n ffoi o’r wlad. Mae lle gennym i ymfalchïo yn y gwaith y mae Cymru wedi'i wneud i gefnogi pobl Syria ac unrhyw un arall sydd wedi ffoi rhag erledigaeth ac wedi ceisio noddfa yma dros y blynyddoedd diwethaf, ac fe fyddwn yn adeiladu ar y profiad hwn.
Mae'n bwysig cofio hefyd bod yr argyfwng hwn yn effeithio ar bersonél ein Lluoedd Arfog sy'n dychwelyd i Gymru, a chyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru sydd â chysylltiadau ag Affganistan, yn ogystal â chontractwyr eraill sydd wedi bod yn cefnogi gwaith Prydain yno. Bydd y golygfeydd ar ein setiau teledu neu’r rhai y byddant wedi bod yn delio â hwy yn Kabul yn anodd i lawer ddygymod â nhw. Mae ein Llinell Gymorth Iechyd Meddwl CALL ar gael i bawb ei defnyddio – ac mae gwasanaeth cyfieithu ar gael i'r rhai nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf. Rhif y Llinell Gymorth yw 0800132737. Mae gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr (dolen allanol) hefyd ar gael i gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru sydd angen cymorth gyda phroblemau iechyd meddwl. Gellir cysylltu â nhw ar 02921832261.
Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i bwysleisio ein hymrwymiad i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn ac i ofyn am eglurder ar frys ar nifer o faterion pwysig, o drefniadau llety wrth gefn i'r cymorth sydd i'w ddarparu o dan y cynllun newydd i adsefydlu dinasyddion Affganistan. Unwaith y daw eglurder, byddwn yn gallu cynllunio a chefnogi'r rhai sy’n cyrraedd yn well a'm bwriad yw cyflwyno Datganiad Llafar i'r Senedd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ym mis Medi.
Rydym yn barod i chwarae rhan lawn yn y gwaith, ac fe fyddwn yn parhau i ymgysylltu â'r holl bartneriaid allweddol yma yng Nghymru a ledled y DU i gyflawni hyn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.