Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ym mis Rhagfyr 2021, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar gynigion i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil Hawliau. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ymateb ffurfiol Diwygio’r ddeddf hawliau dynol: mesur hawliau modern cyn i’r ymgynghoriad gau ar 8 Mawrth.
Mewn datganiad blaenorol, amlinellwyd ein pryderon cychwynnol ynghylch y prif gynnig, i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â “Bil Hawliau”, yn ogystal â sawl elfen arall o’r ddogfen ymgynghori. O astudio’r ddogfen ymgynghori yn fanwl wedyn ac ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid Cymru a Llywodraethau Datganoledig eraill y DU, dim ond cynyddu a wnaeth y pryderon hyn, ac maent wedi’u hamlinellu’n fanwl yn ein hymateb.
Cawsom gyfarfod hefyd gyda Dirprwy Brif Weinidog y DU, Dominic Raab AS, ar 10 Chwefror, ond ni wnaeth hyn leddfu dim ar ein pryderon. Rydyn ni a Gweinidogion yr Alban wedi cydlofnodi llythyr a anfonwyd at Mr Raab ar 2 Mawrth, yn codi’r prif elfennau o’i gynigion yr ydym yn eu gwrthwynebu.
Ni fu erioed yn bwysicach i’r Deyrnas Unedig gael ei gweld yn amddiffyn hawliau dynol pobl, yn y wlad hon a ledled y byd. Dylai’r DU fod yn sefyll dros hawliau dynol ar adeg pan maent dan fygythiad cynyddol mewn rhannau eraill o’r byd, gan gynnwys dan law Rwsia yn Wcráin. Yn hytrach, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cynigion a fyddai, o’u gwneud yn gyfraith, yn gwanhau hawliau holl ddinasyddion y DU, yn lleihau mynediad at gyfiawnder, ac yn targedu’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys pobl anabl a’r rhai sy’n byw mewn tlodi. Mae’r cynigion hefyd yn ceisio gwahaniaethu rhwng pobl neu achosion “haeddiannol” ac “anhaeddiannol”, sy’n ymosod ar galon yr egwyddor bod gan bawb yr un hawliau dynol â’i gilydd.
Yn ein hymateb, yn ogystal ag amlinellu’r pwyntiau hyn yn fanwl, rydym wedi nodi pryderon ehangach am y cynigion; rydym wedi tynnu sylw at y ffaith bod hawliau dynol yn gyffredinol yn ogystal â’r Ddeddf Hawliau Dynol a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn gyffredinol wedi bod yn greiddiol i ddatganoli yng Nghymru. I un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru, mae hawliau’r Confensiwn wedi bod yn gonglfaen sylfaenol o safbwynt datganoli. Mae newid Deddf Hawliau Dynol 1998 yn mynd i galon y setliad datganoli. Lle mae datganoli democrataidd a hawliau dynol wedi’u rhyngblethu ers dau ddegawd.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i groesawu, dathlu ac adeiladu ar hawliau a mesurau gwarchod y Confensiwn sy’n berthnasol i bob unigolyn yn ddiwahân yng Nghymru. Adlewyrchir hyn yn ein deddfwriaeth, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015; Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. At hynny, ystod eang o bolisïau a rhaglenni sy’n adeiladu ar y seiliau deddfwriaethol hyn. Er enghraifft:
- Ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol – adeiledir Cymru Wrth-hiliol ar sail gwerthoedd gwrth-hiliaeth, ac mae’n galw am bolisi dim goddefgarwch o ran hiliaeth ar ei holl ffurfiau.
- Mae Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 yn adeiladu ar ein fframwaith presennol ar gyfer Gweithredu ar Anabledd ac yn tynnu sylw at effaith y pandemig ar bobl anabl.
- Mae’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ar draws holl elfennau bywyd cyhoeddus.
- Gweledigaeth Cymru yw bod yn Genedl Noddfa. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i roi croeso cynnes i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gyda chefnogaeth gref holl awdurdodau lleol Cymru.
- Mae Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth yr UE wedi’i ymestyn tan fis Mawrth 2022.
- Mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol wedi bod yn rhan o’r gwaith o ailsefydlu pobl o Affganistan a dod o hyd i leoliadau lloches iddynt dros y misoedd diwethaf.
- Nod Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yw gwneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.
Mae cynigion Llywodraeth y DU yn diystyru’n llwyr, bron, effaith bosibl y fframwaith cyfansoddiadol, cyfreithiol a pholisi hwn. Mae’n gwbl annerbyniol cyn lleied o gyfeirio at ddatganoli yn gyffredinol sydd yn yr ymgynghoriad, ac at Gymru yn benodol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i newid cyfeiriad tra mae’n dal yn bosibl gwneud hynny, drwy roi’r gorau i’r cynigion presennol ac ailymrwymo nid dim ond i gadw’r Ddeddf Hawliau Dynol gyfredol, ond i warantu cydymffurfiaeth lawn y Deyrnas Unedig â’r ymrwymiadau y mae wedi addo eu cyflawni fel Gwladwriaeth sy’n Barti i’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol ac fel aelod o Gyngor Ewrop.