Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cyn toriad yr haf, rhoddais wybod i’r Cynulliad am y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru, yn unol â’m hymrwymiad i rannu cymaint o wybodaeth ag y bo modd gyda rhanddeiliaid i’w cynorthwyo i gynllunio at y dyfodol.

Yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu cynnal cylch gwariant blwyddyn ar frys, i’w gwblhau ym mis Medi, a chynnal Adolygiad Gwariant amlflwyddyn yn 2020. Yn ei hanfod, mae hyn yn golygu pennu cyllideb refeniw un flwyddyn ar gyfer 2020-21 gan fod y cyllidebau cyfalaf yn eu lle eisoes ar gyfer y flwyddyn nesaf. Daw hyn er gwaethaf y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi dweud o’r blaen y byddai’n pennu cyllidebau am dair blynedd drwy Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant a fyddai’n cael ei gwblhau adeg Cyllideb yr Hydref. Mae hyn, unwaith eto, yn dangos yn glir fethiant Llywodraeth y DU i roi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd y mae eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus.

Er gwaethaf y cefndir heriol, rydym wedi bod yn cynllunio ar sail yr ymrwymiadau a gafwyd sawl gwaith gan Lywodraeth y DU ynglŷn â chynnal Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant eleni. Byddai hynny o leiaf yn ein galluogi i roi sicrwydd ariannol mwy hirdymor i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid. Fe wnes i drefniadau gyda’r Cynulliad cyn yr haf i gyhoeddi ein Cyllideb yn hwyrach nag arfer eleni.

Rwyf wedi dweud fy mod yn fodlon newid ein cynlluniau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru yn gynharach os bydd amserlen Llywodraeth y DU yn golygu bod hyn yn bosibl. Fodd bynnag, mae’n ansicr o hyd beth fydd cylch gwariant brys ym mis Medi yn ei olygu o ran cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Cyllideb yr Hydref.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi cwestiynu amseriad y setliad, gan nodi y bydd y Canghellor yn llunio cynlluniau gwariant cyn gwybod beth fydd natur Brexit, cyn iddo ddiweddaru’r rhagolygon ar gyfer yr economi a chyn iddo bennu’r polisi trethi. Mae Prif Weinidog y DU wedi gwneud addewidion sylweddol ynghylch torri trethi, ond fel y mae Cadeirydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi dweud, byddai rhagor o doriadau trethi neu gynnydd mewn gwariant yn golygu mwy o fenthyca a dyledion gan y llywodraeth ac nid oes ‘cist o arian’ ar gael i gynyddu’r gwariant yn sylweddol heb fod goblygiadau i hynny. 

Roedd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn dangos eto bod y system yn caniatáu gormod o ddisgresiwn i Lywodraeth y DU i greu’r rheolau ac yna’u hanwybyddu yn ôl ei mympwy. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin wedi mynegi pryder am yr ansicrwydd ariannol i’r gweinyddiaethau datganoledig. Heb lyfr rheolau clir, mae’r gweinyddiaethau datganoledig bob amser ar drugaredd yr hyn sy’n digwydd yn Whitehall. Nododd adroddiad y Pwyllgor fod y trefniadau ar gyfer ariannu’r gweinyddiaethau datganoledig yn gynyddol gymhleth a bod diffyg tryloywder ynglŷn â sut y gwneir penderfyniadau ariannu. Mae penderfyniadau’r Trysorlys ynglŷn â sut i ariannu cynlluniau gwariant Llywodraeth y DU, meddai, yn effeithio ar y cyllid a neilltuir i’r gweinyddiaethau datganoledig a’u gallu hwythau i gynllunio a rheoli eu harian.

Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn rheoli cyllidebau anodd eithriadol, ac roeddent wedi gobeithio gallu cynllunio dros gyfnod o dair blynedd. Yn hytrach, yr hyn sydd o’n blaenau yw cyfres ddigynllun o ddigwyddiadau cyllidol ar hap gan Lywodraeth y DU, a fydd yn dwysáu’r ansicrwydd ac yn darparu amlen wario annibynadwy. Nid yw’n rhoi sylfaen gadarn inni ar gyfer llunio cynlluniau gwariant.

Rwy’n bryderus iawn ynglŷn â methiant Llywodraeth y DU i sicrhau adolygiad gwariant cynhwysfawr, amlflwyddyn, a’i ffordd ddi-drefn o reoli ymadawiad y DU a’r UE. Bydd y costau cynyddol yn sgil dibrisiant y bunt yn golygu bod mwy fyth o bwysau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ni all Llywodraeth y DU barhau i chwarae’r gêm anghyfrifol hon â’n gwasanaethau cyhoeddus.

Crebachodd economi’r DU yn ystod ail chwarter y flwyddyn ac mae asesiad gan y corff annibynnol, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, wedi dangos bod yr economi wedi tanberfformio yn ystod y tair blynedd ers y refferendwm. Mae ymchwil annibynnol wedi dangos bod economi’r DU eisoes ymhell dros un y cant yn llai nag y byddai fel arall. Mae hyn yn gyfystyr â cholled flynyddol o tua £300 i bob person yng Nghymru.

Mae’r holl dystiolaeth yn dangos y bydd ymadael â’r UE heb gytundeb neu gyfnod pontio yn arafu economi’r UE yn ddifrifol a bod dirwasgiad hir yn debygol. O gofio cymaint y mae Cymru’n ei allforio i’r UE, gallwn ddisgwyl y bydd yr effeithiau uniongyrchol hyn yn ein taro ni hyd yn oed yn galetach nag y byddant yn taro’r DU gyfan.

Mae’r datblygiadau hyn, felly, yn tanlinellu’r angen am gyfarfod brys rhwng y pedwar Gweinidog Cyllid  – ac fe bwysleisiais i hyn pan siaradais â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos diwethaf.

Ers hynny, rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Ysgrifennydd yn nodi ein blaenoriaethau brys, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â chymorth ar unwaith ar gyfer Brexit heb gytundeb. Ni fydd y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yn hanner digon i’n digolledu am y dinistr catastroffig y bydd yn ei achosi i economi, busnesau a chymunedau ledled Cymru. Er mwyn ceisio mynd i’r afael â hyd yn oed gyfran o sgil-effeithiau ymadael heb gytundeb, bydd angen cymorth ariannol ar unwaith. Ni fydd modd i’r cymorth hwnnw gael ei ddarparu o’r cyllidebau presennol.

Mae’n annerbyniol bod Llywodraeth y DU wedi dewis ei gwneud hi mor anodd i wasanaethau cyhoeddus gynllunio. Fel Llywodraeth Cymru, rydym yn deall yr effaith y mae ymddygiad mor anwadal yn ei gael ar ein partneriaid, a byddaf yn gweithio i sicrhau ein bod yn cymryd pob cam posibl i liniaru effaith yr ansicrwydd hwn. Bydd ein hymateb i’r Cylch Gwariant un flwyddyn arfaethedig, ynghyd â’r amserlen derfynol ar gyfer ein cyllideb, yn rhoi blaenoriaeth i ddarparu cymaint o gymorth a gwybodaeth ag y bo modd i helpu sector cyhoeddus Cymru i ymdopi â’r pwysau y mae’r diffyg eglurder hwn yn ei achosi.

Byddaf yn rhoi diweddariad arall i Aelodau’r Cynulliad ar oblygiadau’r Cylch Gwariant o safbwynt Cymru, unwaith y bydd rhagor o fanylion ar gael.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad. Pe bai’r Aelodau’n dymuno imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar ôl i’r Cynulliad ddychwelyd, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.