Skip to main content

Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys Gyllideb hirddisgwyliedig y DU, yn nodi'r ymateb economaidd a chyllidol i'r cefndir heriol sy’n gyd-destun i’r Gyllideb hon. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y goblygiadau uniongyrchol i Gymru.

Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill i baratoi ar gyfer y Coronafeirws ac i ymateb iddo. Rwy’n croesawu ymrwymiad y Canghellor y caiff y GIG bopeth y mae arno ei angen, a'r mesurau eraill a gyhoeddwyd heddiw i gefnogi busnesau ac unigolion. Mae angen eglurder pellach o hyd o ran sut y caiff y mesurau hyn eu hariannu'n llawn.  Rydym wrthi'n trafod â Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael y cyllid y mae arni ei hangen i ddelio â'r effaith, yn enwedig o ystyried y pwysau a allai ddod i’r amlwg oherwydd ein patrwm demograffig.

Yn dilyn Cylch Gwario un flwyddyn Llywodraeth y DU ym mis Medi y llynedd, mae cyllideb heddiw'n darparu cyllid ychwanegol i Gymru o £122m o refeniw, £239m o gyfalaf a £3m o Gyfalaf Trafodiadau Ariannol yn 2020-21. O ran cyfalaf, nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth y toriad cyfalaf o £100m a wnaed gan Lywodraeth y DU i'n cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. O ganlyniad, mae'r swm o gyfalaf ychwanegol sydd ar gael i'w fuddsoddi mewn seilwaith yma yng Nghymru yn 2020-21 yn cael ei leihau i £140m.

Er fy mod yn croesawu'r codiadau hyn mewn cyllid, i bob pen o'r boblogaeth bydd ein Cyllideb Refeniw yn 2020-21 yn dal i lawr bron 4% neu £200 y person, mewn termau real ar sail debyg at ei debyg, ers 2010-11. Pe bai ein cyllideb wedi tyfu yn unol â GDP ers 2010-11 byddai £3.5bn yn uwch, a phe bai wedi tyfu yn unol â'r twf hirdymor mewn gwario cyhoeddus fe fyddai £6bn yn uwch.

Rwyf wedi galw droeon ar i Lywodraeth y DU gymryd camau pendant i ddod â chyni i ben. Croesawn yr ychwanegiadau at ein Cyllideb yn 2020-21, ond mae’r trywydd mwy hirdymor yn ystod y tymor Seneddol hwn yn dal i beri pryder i ni. Mae’r Gyllideb heddiw yn awgrymu parhad yn y cyfyngiadau ar wariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng nghyfnod yr adolygiad nesaf o wariant.

Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar y rhagolygon ehangach ar gyfer yr economi. Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn peintio darlun llwm yn ei rhagolygon, heb ystyried y Coronafeirws wrth gwrs. Hyd yn oed gyda’r hwb mewn gwariant cyfalaf a gyhoeddwyd heddiw, ni ragwelir y bydd twf mewn cynnyrch domestig gros yn cyrraedd dau y cant unrhyw bryd yn ystod y Senedd hon. Yn wir, ar gyfartaledd dim ond 1.1% y pen y mae disgwyl i dwf mewn cynnyrch domestig gros fod dros y pum mlynedd nesaf, sy’n llai na hanner y gyfradd a gafwyd yn y 10 mlynedd cyn y dirwasgiad. Mae’n peri pryder mawr bod y rhagolygon hirdymor ar gyfer cynhyrchedd wedi’u hisraddio mor ddramatig.

Nid yw hyn yn syndod, o ystyried dull Llywodraeth y DU o ymdrin â negodiadau masnach â’n partner masnachu mwyaf a phwysicaf – yr UE. Mae pob tystiolaeth gredadwy wedi dangos y bydd perthynas agos o fudd i’r DU, ond ymddengys fod Llywodraeth y DU yn anwybyddu’r dystiolaeth hon. Mae hyn yn debygol o arwain at effeithiau negyddol sylweddol i Gymru.

Mae’n destun siom na ddywedodd y Canghellor ddim byd yn ei ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i sicrhau cyfnod pontio esmwyth wrth i’r DU ymadael â’r UE. Mae’r ffaith bod y Canghellor wedi hepgor cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin o’i ddatganiad yn peri pryder difrifol yn ogystal. A llai na 12 mis hyd nes y mae cyllid presennol yr UE yn dod i ben, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn rhannu manylion ei chynlluniau â ni a’i bod yn cadw at ei gair na fydd Cymru geiniog ar ei cholled.

Gan edrych ar oblygiadau ehangach Cyllideb y Canghellor, rydym wedi galw dro ar ôl tro ar i Lywodraeth y DU ddarparu hwb mawr ei angen o ran buddsoddi mewn seilwaith. Mae gennym gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol ar gyfer Cymru gyfan dros y blynyddoedd nesaf a fyddai, pe bai’r cyllid ar gael, yn gwireddu ein dyheadau am Gymru fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd mewn meysydd megis datgarboneiddio, trafnidiaeth gyhoeddus, tai cymdeithasol, ysgolion, seilwaith iechyd a hybu bioamrywiaeth.

Mae'r cyhoeddiadau heddiw yn gam i'r cyfeiriad cywir, ond os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch sicrhau bod y DU yn fwy cyfartal, mae angen buddsoddiad sylweddol mewn meysydd sydd heb eu datganoli yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol. Rwy’n croesawu'r ymrwymiadau ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd ac ymchwil a datblygu, ond rhaid i hyn gael ei droi’n fudd gwirioneddol i Gymru.

Cyn y Gyllideb, galwais ar Lywodraeth y DU i gymryd camau i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yng Nghymru o ran y rheilffyrdd ac ymchwil a datblygu. Dylai hyn gynnwys ymrwymiad i gefnogi Hwb Deallusrwydd Artiffisial i Gymru, sydd mor bwysig i hybu swyddi da a dyfodol ein heconomi yng Nghymru.

Mae'r llifogydd diweddar wedi cael effaith ddinistriol a digynsail ar gymunedau a busnesau yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd £10m ar gyfer yr ymateb cychwynnol.  Yn ystod fy nhrafodaethau â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys dros yr wythnos ddiwethaf, mae wedi cydnabod yr effeithiau annisgwyl ac eithriadol rydym wedi'u hwynebu yng Nghymru.  Mae'r arian ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd yn rhywfaint o gymorth ar hyn o bryd, ond byddaf yn ysgrifennu at y Prif Ysgrifennydd yr wythnos hon i geisio ymrwymiad cadarn y bydd arian ychwanegol ar gael i Gymru y tu allan i'r broses Barnett arferol.

Cyn y Gyllideb, fe wnes i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r dulliau sydd ganddi i gefnogi ein huchelgais gyffredin i ymateb i her yr argyfwng hinsawdd. Rwy’n croesawu'r mesurau sydd yn y Gyllideb ar gyfer trafnidiaeth werdd a diogelu coetiroedd yn ogystal â’r  mesurau ar drethi, sy’n sy’n cynnwys treth newydd ar ddeunydd pecynnu plastig o 2022 ymlaen. Byddwn yn edrych yn fanwl ar y manylion ac rydym yn awyddus i fod yn rhan o'r gwaith hwn gyda Llywodraeth y DU. Mae maint a chyflymder y newid sydd ei angen yn golygu bod angen inni fynd ati i gydweithio i wireddu’r uchelgeisiau sy’n gyffredin inni. 

Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau unwaith y bydd rhagor o fanylion ar gael am effaith lawn cyllideb y DU ar Gymru.

Rhannu’r dudalen hon