Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Yn sgil y cythrwfl parhaus sydd wedi ei achosi gan y gyllideb fechan, gyda’r gobaith o sefydlogi'r marchnadoedd ariannol a lleihau maint y twll sydd wedi ei rwygo mewn cyllid cyhoeddus, mae'r Canghellor newydd yn awr wedi gwrthdroi'r rhan fwyaf o'r newidiadau treth a wnaed ychydig wythnosau yn unig yn ôl.
Yn sgil ymadawiad y DU â’r UE, y pandemig a’r argyfwng costau byw, roedd y rhagolygon economaidd eisoes yn heriol.
Fodd bynnag, nid oes esgus dros y sefyllfa enbyd y mae cyllid cyhoeddus y DU ynddi ar hyn o bryd. Mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i'r mesurau diffygiol a di-hid a gyhoeddwyd yng nghyllideb fechan Llywodraeth y DU ar 23 Medi ac a oedd yn biler canolog ymgyrch y Prif Weinidog ar gyfer yr arweinyddiaeth.
Mae'r gyllideb fechan wedi achosi anhrefn yn y marchnadoedd ariannol; mae costau morgeisi wedi codi'n sydyn, fel y mae costau benthyca'r llywodraeth; mae Banc Lloegr wedi gorfod cymryd mesurau eithriadol i atal cwymp mewn cronfeydd pensiwn; ac mae mwy o bwysau fyth wedi cael ei roi ar gyllidebau aelwydydd.
O ganlyniad, mae ein heconomi a chyllid y DU nawr mewn sefyllfa lawer gwaeth nag yr oeddent lai na mis yn ôl.
Mae datganiad y Canghellor heddiw wedi awgrymu bod cyfnod newydd o gyni o’n blaenau.
Yr aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd fydd yn cael eu heffeithio fwyaf. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu toriadau ac efallai y bydd swyddi’n cael eu colli. Bydd y camau a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn crebachu’r economi ac o ganlyniad bydd y dirwasgiad yn ddyfnach ac yn hirach – yn wrthgyferbyniad llwyr i’r hyn sy’n cael ei alw’n gynllun twf.
Er bod y Canghellor wedi nodi mai blaenoriaeth Llywodraeth y DU wrth wneud y penderfyniadau anodd sydd o’i blaen fydd diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed, nid oedd ganddo unrhyw gysur i’w gynnig i’r bobl hynny heddiw. Mae’r cyhoeddiad ynghylch y newidiadau i’r cymorth ynni yn creu ansicrwydd pellach i aelwydydd a busnesau sydd eisoes yn pryderu am gostau.
Dro ar ôl tro, nid yw Llywodraeth y DU wedi manteisio ar gyfleoedd i wella diogelwch ynni ar gyfer y dyfodol na mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rhaid iddi fod yn fwy uchelgeisiol o ran ei buddsoddiad mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio.
Mae’n rhaid i’r Canghellor ddefnyddio ei ddatganiad ar 31 Hydref i roi sicrwydd na fyddwn ni’n gweld toriadau mewn gwariant a fyddai’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, swyddi, a’n heconomi. Yn hytrach, mae ganddo gyfle gwirioneddol i roi cymorth mawr ei angen i’r bobl fwyaf agored i niwed, wedi ei ariannu drwy ddefnyddio ysgogwyr treth Llywodraeth y DU yn decach, gan gynnwys trethu’r enillion ffawdelw yn y sector ynni.
Mae chwyddiant eisoes wedi erydu setliad cyllideb Llywodraeth Cymru yn sylweddol i lefelau pryderus o isel. Mae’r Datganiad hwn yn dal i fod ymhell iawn o’r hyn sydd ei angen i ymateb i’r heriau sylweddol iawn sy’n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus a’n gweithwyr. Rhaid i Lywodraeth y DU roi’r hyblygrwydd cyllidebol ychwanegol inni i gefnogi ein hymateb yng Nghymru.
Er na fyddwn yn gallu diogelu pobl a gwasanaethau rhag effaith lawn gweithredoedd Llywodraeth y DU, fe fyddwn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu aelwydydd, gwasanaethau a busnesau drwy’r argyfwng hwn.
Byddwn yn cyhoeddi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 13 Rhagfyr, gan ymateb yn ystyriol ac yn ofalus i’r argyfwng ac ystyried y rhagolwg cyllidol llawn a ddarperir gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i roi cymaint o sicrwydd â phosibl i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n partneriaid.
Er bod ein hadnoddau’n gyfyngedig, ac na fydd y cyhoeddiad heddiw yn gwneud dim i leddfu sefyllfa ariannu Llywodraeth Cymru, a oedd eisoes yn un heriol, ein blaenoriaeth fydd gwarchod y bobl fwyaf agored i niwed a chreu Cymru gryfach, decach a gwyrddach sy’n diogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.