Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Bydd yr Aelodau yn dymuno gwybod fy mod i heddiw wedi gwneud rhai newidiadau i’m tîm Gweinidogol er mwyn sicrhau bod ein ffocws cadarn a chyson yn ein hymateb i’r coronafeirws yng Nghymru yn parhau, wrth inni symud ymhellach i gyfnod heriol y gaeaf.
Mae’r newidiadau yn adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd yn sgil ton gyntaf y pandemig a bydd yn sicrhau ein bod yn y sefyllfa gryfaf bosibl wrth inni wynebu’r misoedd sydd o’n blaenau.
Bydd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i arwain ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws, gan ddangos yr un arweiniad cadarn ag y gwnaeth gydol y pandemig. Er mwyn sicrhau y gall ef ganolbwyntio ar yr argyfwng, ynghyd â’r flaenoriaeth arall, sef perfformiad a chyflawniad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, rwy’n penodi Eluned Morgan i rôl y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â Vaughan, gan gydnabod yr effaith y mae’r coronafeirws yn ei chael ar iechyd meddwl a llesiant pobl.
Bydd ei chyfrifoldebau yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, dementia, camddefnyddio sylweddau, iechyd cyn-filwyr, profiad y claf a’r strategaeth ordewdra.
Bydd y maes cysylltiadau rhyngwladol, gan gynnwys y rhaglen bwysig Cymru ac Affrica, yn dod yn rhan o bortffolio cyfrifoldebau’r Prif Weinidog.
Nid oes unrhyw aelod arall o’r Cabinet wedi newid, ond bydd rhai cyfrifoldebau yn cael eu symud rhwng y portffolios Gweinidogol.
Cyhoeddir rhestr fanwl o’r cyfrifoldebau Gweinidogol diwygiedig gyda hyn a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau pan gaiff honno ei chyhoeddi.