Julie Morgan AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn gynharach eleni, cytunais i gyllido estyniad 18 mis i’r prosiect Mesur y Mynydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i werthuso perfformiad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Lluniwyd adroddiad gan y prosiect Mesur y Mynydd a oedd yn edrych ar brofiad unigolion o ofal cymdeithasol yng Nghymru.
Heddiw rwy’n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion hynny. Mae’r adroddiad yn hollbwysig i’r sector cyfan ac mae’n tynnu sylw at amryw o feysydd pwysig lle mae’r sector yn gweithio’n dda yn ogystal â meysydd lle y mae angen gwella. Hoffwn i weld y sector cyfan yn perchenogi’r argymhellion hyn a gweithredu arnynt. O ganlyniad, wrth i’r newidiadau y mae’r Ddeddf yn galw amdanynt barhau i gael eu hymwreiddio, bydd y canfyddiadau’r adroddiad yn llywio’r gwelliannau.
Mae prosiectau fel Mesur y Mynydd yn anhepgor er mwyn inni gael clywed llais y rheini sy’n ganolog i’r Ddeddf. Rhaid i’r momentwm cadarnhaol a grëwyd gan y prosiect hwn barhau ac felly rwyf wedi cytuno i gyllido Mesur y Mynydd am 18 mis arall. Bydd cam nesaf y prosiect yn rhoi gwell dealltwriaeth inni ar gyfer helpu i arwain y sector tuag at wneud gwelliannau. Yn hanfodol, bydd y prosiect yn datblygu’r gwaith rhagorol a gafodd ei wneud yn 2018/19 ymhellach a bydd yn ymchwilio’n ddyfnach i’r bylchau a gafodd eu nodi yng ngham un. Edrychaf ymlaen at dderbyn argymhellion cam dau pan fyddant yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi 2020.