Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 10 Tachwedd, nodais fy mwriad i ganslo arholiadau cymwysterau cyffredinol yn 2021 yn sgil yr amharu sylweddol ar addysg dysgwyr eisoes.

Wrth amlinellu’r dull gweithredu hwn, roeddwn yn cydnabod bod CBAC eisoes wedi gwneud addasiadau sylweddol i gwrs 2021. Rydym hefyd wedi ymrwymo bron i £50m i gefnogi’r rheini sydd wedi’u heffeithio fwyaf, gan gynnwys cymorth wedi’i deilwra drwy ein rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, coetsio a mentora, a datblygu adnoddau TGAU a Safon Uwch. 

Sefydlais y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni, a gadeirir gan Geraint Rees, i ddatblygu cynigion i ddiogelu lles dysgwyr sy’n dilyn cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch a gymeradwyir gan Cymwysterau Cymru ac a ddarperir gan CBAC yn haf 2021, sicrhau tegwch iddynt a’u cefnogi wrth symud ymlaen. Rwy’n ddiolchgar i’r grŵp o benaethiaid ac arweinwyr colegau, a enwebwyd gan gonsortia rhanbarthol, Colegau Cymru ac awdurdodau lleol, sydd wedi dod at ei gilydd yn gyflym i ddatblygu’r gwaith hwn. Mae eu cynigion wedi dod i law bellach ac rwyf wedi’u hystyried. 

Wrth drafod, mae’r Grŵp wedi rhoi’r lle canolog i sicrhau tegwch i ddysgwyr, gan wneud y mwyaf o’r amser addysgu a dysgu i gefnogi dysgwyr i symud ymlaen, a lleihau’r effaith ar lwyth gwaith athrawon gymaint â phosibl ar yr un pryd. Mae’r Grŵp wedi bod yn ymwybodol hefyd o’r ffaith bod yn rhaid i unrhyw opsiwn ddiogelu lles dysgwyr. Yn olaf, maent wedi’i gwneud yn glir y dylai’r dull gweithredu gynnal hyder yn integriti cymwysterau yng Nghymru. 

Ar gyfer 2021, fy mwriad yw gweithredu ar sail tair elfen mewn perthynas â chymwysterau cyffredinol:

  • asesiadau nad ydynt yn arholiadau lle maent wedi’u cynllunio ar hyn o bryd;
  • asesiadau mewnol; ac
  • asesiadau a gaiff eu llunio a’u marcio’n allanol.

Bydd y ffenestr ar gyfer asesiadau mewnol, lle bo’n berthnasol, yn rhedeg o 22 Chwefror tan 23 Ebrill. Bydd athrawon a darlithwyr yn gallu penderfynu pryd i gynnal eu hasesiadau o fewn y ffenestr hon. 

Bydd gan athrawon rywfaint o hyblygrwydd o ran dewis deunyddiau, a ddarperir gan CBAC, a threfnu’r asesiadau er mwyn eu hymgorffori yn eu cynlluniau addysgu. Caiff yr athro ddefnyddio ei grebwyll proffesiynol ei hun. Bydd yn sicrhau hyblygrwydd hefyd os bydd yna darfu pellach. Y ganolfan fydd yn marcio’r asesiadau hyn, gan ddilyn canllawiau gan CBAC.   

Mae’r Grŵp yn cytuno y bydd defnyddio deunyddiau asesu a luniwyd eisoes gan CBAC yn lleihau llwyth gwaith athrawon ac yn sicrhau tegwch i ddysgwyr. Mae asesiadau CBAC yn cael eu gwerthuso o safbwynt cydraddoldeb a hygyrchedd, ac mae athrawon/darlithwyr a dysgwyr yn gyfarwydd â nhw. 

Byddai opsiynau eraill, gan gynnwys gofyn i ganolfannau bennu’r graddau heb gymorth, wedi ei gwneud yn ofynnol i’r canolfannau hynny ddylunio deunyddiau asesu, eu profi o safbwynt cydraddoldeb a hygyrchedd, sicrhau cysondeb ar draws canolfannau (a gwylio rhag gor-asesu), datblygu a phrofi cynlluniau marcio, ac yna fod yn gyfrifol am apelau mewn perthynas â’r rhain. 

Roedd yna deimlad y byddai hyn yn erydu’r amser addysgu a dysgu, yn ogystal ag arwain at anghysondeb ym mhrofiadau dysgwyr a rhwng un ardal ac un arall. 

Bydd y ffenestr estynedig ar gyfer asesiadau allanol rhwng 17 Mai a 29 Mehefin. Bydd hyn yn galluogi athrawon a darlithwyr i ymgorffori’r asesiadau i’r amser addysgu, a bod yn hyblyg yn wyneb unrhyw darfu. Yr athrawon a’r darlithwyr fydd yn penderfynu pryd a sut i weithredu’r asesiadau hyn – er enghraifft rhannu’r asesiadau – i sicrhau bod modd eu hymgorffori yn yr addysgu a’r dysgu, ac nad ydynt yn creu pwysau a phryder arholiadau. 

Mae ysgolion a cholegau yn brofiadol wrth gynnal asesiadau yn y dosbarth – ac nid yw hyn fymryn yn wahanol. Eleni, bydd yn rhoi hyder i ddysgwyr bod eu profiad asesu nhw yr un fath ag i ddysgwyr ar draws y wlad.

Bydd pob asesiad yn seiliedig ar yr addasiadau y mae CBAC eisoes wedi’u gwneud. Bydd CBAC yn rhoi canllawiau ar themâu lefel uchel ar gyfer yr asesiadau mewnol ac allanol er mwyn i ysgolion a cholegau allu paratoi cynlluniau addysgu. 

Mae’n bwysig bod dysgwyr ac athrawon Blynyddoedd 11, 12 ac 13 yn gallu cael yr hoe y maent yn ei disgwyl ar ddiwedd eu hastudiaethau. Byddaf yn disgwyl i hyn ddigwydd yn unol â’r diwrnodau cenedlaethol a bennwyd ar gyfer canlyniadau, a’r dyddiadau tymhorau a nodwyd. O’r sgyrsiau a gafwyd ag arweinwyr ysgolion a cholegau, rwy’n gwybod bod llawer eisoes yn cynllunio cymorth a chyfleoedd ychwanegol ar gyfer y dysgwyr hynny tuag at yr haf, ac rwy’n croesawu’r ymdrechion hynny.

Bydd yr asesiadau nad ydynt yn arholiadau, yr asesiadau mewnol a’r asesiadau allanol yn seiliedig ar farciau er mwyn i CBAC allu dyfarnu graddau. Y rhain fydd yr unig asesiadau a fydd yn cyfrannu at raddau 2021. Bydd y dull gweithredu hwn yn gliriach ac yn fwy cynhwysol o ran ymgeiswyr preifat na threfniadau 2020. 

Caiff y graddau a ddyrennir eu halinio â chanlyniadau 2020, er mwyn cydnabod yr amser dysgu a gollwyd a’r tarfu cyffredinol. Lle bo modd, dylai’r cyfuniad o asesiadau a reolir yn fewnol ac asesiadau nad ydynt yn arholiadau (lle bo’n berthnasol) gyfrannu’n fwy at radd derfynol unigolyn na’r asesiad allanol. 

Byddai angen cyfeirio unrhyw apelau at ble gwnaed y penderfyniad marcio/dyfarnu, a byddai’n well cadw  rôl canolfannau i’r lefel isaf bosibl wrth reoli apelau. Rydym yn cydnabod bod hyn yn allweddol i lawer o ddysgwyr i sicrhau tegwch, a bydd proses apelio yn cael ei chwblhau a'i chytuno yn y Flwyddyn Newydd.

Mae rhai dosbarthiadau neu grwpiau dysgwyr wedi profi cryn darfu o gymharu ag eraill. Bydd y Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni yn ystyried pa drefniadau y gellir eu gwneud er mwyn adlewyrchu’r amgylchiadau heriol y mae rhai dysgwyr wedi’u hwynebu, ac y gallent barhau i’w hwynebu, a hynny fel mater blaenoriaeth.

Yn olaf, mae’r Grŵp yn ystyried y bydd trylwyredd Safon UG yn 2021 a’r sail dystiolaeth ar ei chyfer yn ein galluogi i ailgydio yn y dull gweithredu arferol yng Nghymru lle bydd disgwyl i Safon UG 2021 gyfrannu at Safon Uwch yn 2022. 

Rwyf wedi derbyn y cynigion hyn ac wedi’u darparu fel cyfeiriad polisi i Fwrdd Cymwysterau Cymru, sydd wedi’u hystyried a chytuno arnynt. Rwy’n disgwyl i CBAC ddarparu gwybodaeth i ysgolion a cholegau ddechrau’r tymor nesaf i’w helpu i weithredu.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Grŵp am ystyried y materion hyn, ac rwy’n croesawu eu cytundeb i barhau i weithio yn 2021 ar gwestiynau gweithredu manylach. Mae ystyriaethau’r Grŵp Cynghori Dylunio a Chyflawni a’r amserlen arfaethedig ar gyfer rhannu gwybodaeth ag ysgolion ar gael i’r Aelodau yn y ddolen a ganlyn. Hoffwn argymell bod pob dysgwr, athro a darlithydd yn cymryd hoe dros gyfnod y Nadolig, er mwyn bod yn barod i ailgydio yn y broses addysgu a dysgu yn nhymor y gwanwyn.

https://llyw.cymru/grwp-cynghori-dylunio-chyflawni