Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Awst, ar y cyd â Ken Skates a Kirsty Williams, lansiwyd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Bydd y rhaglen hon yn profi dull newydd o ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru, yn seiliedig ar argymhellion Adroddiad Jofeh a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2019. I ddechrau, roedd £9.5m ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ond mae'n bleser gennyf ddweud ein bod wedi gallu cynyddu'r gyllideb i £19.5m ers hynny.

Mae'n ddull pragmatig o ddatgarboneiddio cartrefi sy’n edrych ar y tŷ cyfan. Mae'n llawer mwy soffistigedig a phwrpasol na chynlluniau blaenorol gan ei fod yn ystyried yr adeiladwaith neu'r deunyddiau y mae ein cartrefi wedi’u gwneud ohonynt; y ffordd rydym yn cynhesu ac yn storio ynni yn ein cartrefi, a'r ffordd y mae ynni'n cael ei gyflenwi i'n cartrefi. Bydd rhai o'r mesurau uwchraddio a fydd yn cael eu treialu drwy brosiectau eleni yn cynnwys pympiau gwres, systemau ynni deallus a phaneli solar. Mae pob cynllun a gefnogir yn bwriadu cynnwys eiddo nad ydynt ar y grid nwy lle mae heriau datgarboneiddio hyd yn oed yn fwy. 

Y bwriad yw peidio ag uwchraddio pob cartref i fod yn ddi-garbon eleni ond yn hytrach dysgu sut i uwchraddio cartrefi’n dda, am y gost orau, er mwyn ein rhoi ar y trywydd iawn tuag at ddatgarboneiddio pob cartref yng Nghymru.

Mae’n bwysig nodi bod y rhaglen hefyd yn ceisio ymgorffori, hyrwyddo a chyflawni gwaith teg a theilwng yng Nghymru, ysgogi arloesedd a chreu cadwyni cyflenwi yn unol â'n huchelgeisiau ar gyfer yr economi sylfaenol.

Heddiw gallaf gyhoeddi'r cynlluniau sydd wedi cael cymorth eleni.

Daw pedwar cynllun gan awdurdodau lleol – Sir Ddinbych, Ynys Môn, Sir Gaerfyrddin a Bro Morgannwg. Mae'r pumed yn gonsortiwm sy'n cynnwys 27 o ddarparwyr tai cymdeithasol o bob rhan o Gymru. Fe'i harweinir gan Grŵp Tai Pobl a'i reoli gan Sero Homes. Yn ogystal â sefydlu 1,300 o gartrefi ar y llwybr at fod yn sero net o ran allyriadau carbon, mae'r consortiwm yn datblygu offer ac adnoddau hanfodol y gellir eu defnyddio i ddatgarboneiddio pob cartref ledled Cymru ar raddfa fawr. Mae hyn yn cynnwys creu fframweithiau agored ar gyfer cyflenwi deunyddiau a llafur sy'n canolbwyntio ar ddatblygu'r Economi Sylfaenol a datblygu’r sgiliau i gyflawni ein huchelgeisiau datgarboneiddio. Ceir rhagor o wybodaeth am y cynlluniau cymwys yn yr atodiad amgaeedig.

Rwy’n sylweddoli nad yw £20m yn ddigon o bell ffordd i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru. Mae pawb yn cydnabod y bydd angen symiau sylweddol o arian, a gwelwyd drwy brofiad nad taflu arian at y broblem yw’r ateb. Mae angen i ni ddeall beth sy'n gweithio gyntaf. Daw'r rhan fwyaf o gost ôl-osod o ffynonellau preifat ac nid arian cyhoeddus, ac felly mae'n hanfodol ein bod yn dysgu sut i ôl-osod cartrefi'n dda er mwyn rhoi hyder i fuddsoddwyr. Bydd y rhaglen hon yn rhoi darlun llawer cliriach i ni o'r gwir gostau ac yn creu'r dull gweithredu a diwydiant i ddatgarboneiddio pob un o'r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050.

Bydd y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn gosod y safon ar gyfer cynlluniau ôl-osod yng Nghymru, gan gynnwys rhaglenni sy'n bodoli eisoes fel Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) gyda thua 300,000 o gartrefi cymdeithasol a chartrefi sy'n dlawd o ran tanwydd o bosibl dros y 10 mlynedd nesaf. 

Bydd y gwaith a ddechreuwyd mewn dros 1,700 o gartrefi yn y flwyddyn ariannol hon yn helpu tenantiaid a'r amgylchedd drwy leihau faint o garbon a gynhyrchir wrth bweru a gwresogi cartref. Bydd hefyd yn agor y drws ar gyfer datblygu diwydiant ôl-osod hirdymor newydd yng Nghymru, gan fynd i'r afael â phryderon am ansawdd gwaith, cefnogi cadwyni cyflenwi a chreu miloedd o swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddi yng nghymunedau Cymru. 

Mae ganddo'r potensial i alluogi cartrefi preifat i gyrraedd targed datgarboneiddio 2050 a sicrhau economi carbon isel werdd gan greu 15,000 o swyddi newydd yng Nghymru dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae colegau Cymru eisoes wedi dechrau datblygu academïau ôl-osod. Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi dechrau datblygu safonau achrededig ar gyfer yr hyfforddiant, gan wneud Cymru’n ‘rhanbarth arloesol’ ar gyfer datgarboneiddio cartrefi a chreu'r manteision sy'n gysylltiedig ag ef. Rydym yn gweithio gyda nifer o gyrff sy'n cynrychioli rhanddeiliaid, megis Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a Ffederasiwn Cyflenwyr Adeiladwyr, i hyrwyddo'r cyfle y mae hyn yn ei greu i'r sector Busnesau Bach a Chanolig, nid yn unig eleni ond yn y tymor hwy.

Bydd gan gymunedau rôl hanfodol i'w chwarae hefyd. Ni fyddwn yn llwyddo os ydym yn ceisio gorfodi atebion ar bobl. Bydd y rhaglen hon yn gweithio gyda phobl i ddod o hyd i'r atebion cywir ar gyfer y cartref a'r preswylydd, gan arwain y ffordd o ran datgarboneiddio cartrefi Cymru.