Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ar 29 Mehefin, cynrychiolodd y Prif Weinidog a minnau Lywodraeth Cymru yn ail gyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Ymunodd Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, a Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, â ni ar gyfer y drafodaeth ar Gostau Byw.
Cafodd y cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Sefydlog ei gadeirio gan John Swinney ASA, Dirprwy Brif Weinidog yr Alban ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Adfer wedi Covid, ar ran Llywodraeth yr Alban.
Cyhoeddwyd cyd-hysbysiad (Saesneg yn Unig) yn dilyn y cyfarfod ac mae'n cynnwys manylion llawn y rhai a oedd yn bresennol. Roedd yr eitemau ar yr agenda yn cynnwys: rhaglen ddeddfwriaethol bresennol Senedd y DU; y cynnydd mewn costau byw; a'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran sefydlu Grwpiau Rhyngweinidogol.
Mewn perthynas â’r eitem ar yr agenda ar raglen ddeddfwriaethol bresennol y DU, cafodd y cynnydd cadarnhaol a wnaed tuag at gytuno ar ddulliau gweithio ac ymgysylltu gwell eu croesawu gennym. Er gwaethaf hynny, tynnais sylw unwaith eto at achosion annerbyniol yn y gorffennol o dorri Confensiwn Sewel ac o ymgysylltu annerbyniol ar ran Llywodraeth y DU ar nifer o Filiau sy’n perthyn i’r rhaglen ddeddfwriaethol bresennol. Roedd y rhain yn cynnwys Bil Protocol Gogledd Iwerddon, y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a'r Bil Hawliau. Wrth wneud hynny, pwysleisiais bwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar ar Filiau'r DU yn y dyfodol a galwais am sicrwydd oddi wrth Lywodraeth y DU y byddent yn parchu Confensiwn Sewel.
Mewn perthynas â'r eitem ar Gostau Byw, roedd y trafodaethau yn cynnwys y mesurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU a'r heriau cyffredin a wynebir ar draws Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig. Rhoddodd yr eitem hon gyfle i Weinidogion Cymru bwysleisio pa mor bwysig ydyw cynnal trafodaethau adeiladol ynghylch rhannu cyfrifoldeb dros sicrhau marchnad lafur wydn, ynghyd â phwysigrwydd cefnogi aelwydydd a busnesau. Tynnwyd sylw gennym hefyd at y ffaith bod angen canolbwyntio’n fwy eto ar heriau hirdymor.
Nododd y Gweinidogion y cynnydd hyd yma o ran sefydlu Grwpiau Rhyngweinidogol, a’r rhagolwg ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol. Disgwylir i'r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol gael ei gynnal nesaf ym mis Medi. Yn unol â’r trefniadau cylchdroi, Llywodraeth Cymru fydd yn cadeirio’r cyfarfod nesaf.