Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd aelodau yn cofio fy mod wedi darparu datganiad llafar ar y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar gyfer ein Papur Gwyn ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth ar 6 Gorffennaf 2021. Ymrwymais i gyflwyno cynigion o’r Papur Gwyn a’r cynlluniau i gynhyrchu’r cynigion hynny ar y cyd â rhanddeiliaid.

Yn unol â’n Rhaglen Lywodraethu, rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Fframwaith Cenedlaethol strategol ar gyfer gofal a chymorth. Bydd y Fframwaith yn gosod safonau ar gyfer arferion comisiynu, lleihau cymhlethdodau ac ailgydbwyso comisiynu i ganolbwyntio ar ansawdd a chanlyniadau. Bydd yr hyn sy'n bwysig i bobl yn rhan ganolog o'r Fframwaith

Byddwn yn sefydlu Swyddfa Genedlaethol i oruchwylio gweithrediad y Fframwaith Cenedlaethol. Rwy’n deall pryderon y sector o ran cynigion i sefydlu corff hyd braich, felly bydd Swyddfa Genedlaethol yn cael ei sefydlu o fewn y Llywodraeth. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn pwysleisio’r cysylltiad clir rhwng rolau’r Swyddfa Genedlaethol a’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, a bydd y berthynas hon, ynghyd â Gweithrediaeth i’r GIG, yn bwysig iawn wrth ystyried dulliau gweithredu.

Rydym yn gwybod bod rhaid i bartneriaid weithio gyda’i gilydd ar nifer o lefelau gwahanol er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o adnoddau a bodloni anghenion eu poblogaeth. Drwy adeiladu ar y partneriaethau gweithio cryf a ddangoswyd yn ystod y pandemig COVID, hoffwn weld partneriaethau effeithiol yn ffynnu ar lefel clwstwr, lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae yna enghreifftiau clir o le y gallai hynny digwydd ar lefel rhanbarthol, er enghraifft mewn perthynas â gwasanaethau preswyl rhanbarthol i blant ag anghenion cymhleth.

Rwyf wedi edrych yn ofalus ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad am Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae gan wahanol sectorau farn wahanol iawn. Yr hyn sy’n glir yw bod rhaid

gwneud mwy i gryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol, er mwyn cydweithio’n well i gyflawni ar gyfer y boblogaeth leol. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn gosod ein bwriad i ddeddfu a chryfhau partneriaethau, a dyna’n union beth y byddwn yn ei wneud. Byddwn yn gweithio gyda Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gryfhau eu trefniadau mewn perthynas â:

  • llywodraethu a chraffu;
  • cynllunio a pherfformiad;
  • ymgysylltu a bod yn llais;
  • cyflenwi gwasanaethau integredig;
  • ailgydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol.

Er na fyddwn yn sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel endidau corfforedig cyfreithiol ar hyn o bryd, rwy’n hyderus y gallwn barhau i ddatblygu ac ysgogi newid yn y meysydd hyn, er mwyn cefnogi gwaith partneriaeth cryfach ac i integreiddio gwasanaethau a pharatoi’n well ar gyfer llwybr i ddatblygu’r partneriaethau allweddol hyn ymhellach yn y dyfodol.

Byddaf yn parhau i ymgysylltu â’r sector a dinasyddion i ddatblygu’r cynigion pwysig hyn ymhellach. Yn y gaeaf, bydd fy swyddogion yn sefydlu Grwpiau Technegol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sector cyfan i gydgynhyrchu’r polisi hwn. Disgwylir y bydd y Grwpiau hyn yn darparu cyngor terfynol i Lywodraeth Cymru yn yr haf, a byddaf yn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ganlyniad y gwaith hwn.