Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwy’n ysgrifennu i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau am yr ymarfer i gaffael gweithredwr nesaf gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru. Dechreuodd y broses ym mis Gorffennaf 2016.
Ar ôl cynnal proses gaffael drylwyr yn unol â Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, rwy’n falch o gael cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyfarnu’r contract i weithredu a datblygu gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru i KeolisAmey.
Mae KeolisAmey yn gyd-fenter rhwng y cwmni trafnidiaeth gyhoeddus, Keolis, a’r arbenigwr mewn rheoli asedau seilwaith, Amey.
Bellach, yn unol ag arferion caffael cyffredinol, bydd cyfnod segur statudol o 10 niwrnod cyn i Lywodraeth Cymru allu cwblhau dogfennaeth ffurfiol y contract a’i ddyfarnu.
Ar ôl i’r cyfnod segur ddod i ben, bydd y contract yn rhedeg o 4 Mehefin 2018 i 14 Hydref 2033. Bydd gwasanaethau rheilffyrdd yn cael eu trosglwyddo ar 14 Hydref 2018.
Bydd yr Aelodau’n cofio bod tri chwmni wedi cyflwyno tendrau terfynol ym mis Rhagfyr 2017. Tynnwyd un tendr maes o law a chafodd y ddau arall eu gwerthuso. Aseswyd pob cais o ran ei ansawdd, ei gadernid a’i allu i roi prif bolisïau Llywodraeth Cymru ar waith yn unol â’r ddogfen, ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol’.
Yn ystod y broses gaffael rydym wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ansawdd trenau, gorsafoedd a gwasanaethau ar gyfer rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru. Rydym yn ddiolchgar i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y broses gaffael.
Ni fydd modd i Drafnidiaeth Cymru na Llywodraeth Cymru roi sylwadau ar elfennau’r broses gaffael tan ddiwedd y cyfnod segur, ac ni fyddaf yn sôn ymhellach am y broses nes dyfarnu’r contract.
Rwy’n edrych ymlaen nawr at rannu â chi ein cynlluniau cyffrous ac arloesol ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd nesaf Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru cyn gynted ag y bydd y cyfnod segur wedi dod i ben.