Jeremy Miles AS, Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd a'r Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynlluniau i osgoi’r setliad datganoli, a dyrannu cyllid ar gyfer datblygu rhanbarthol a lleol yng Nghymru yn uniongyrchol drwy Gronfa Codi’r Gwastad (‘Levelling Up Fund’), a hynny’n hollol groes i’r safbwynt a fynegwyd gan Senedd Cymru, a’r hyn a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad o Wariant ar 25 Tachwedd pan ddywedodd y Canghellor y byddai’r ymrwymiad o £4 biliwn i Loegr yn denu hyd at £0.8 biliwn o gyllid i’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn y ffordd arferol.
Mae’n bwysig pwysleisio nad oes unrhyw ran o hwn yn arian newydd sy’n cael ei ddyrannu i Gymru drwy law Llywodraeth San Steffan, sydd o ddifrif ynghylch yr agenda codi’r gwastad. Dyma enghraifft o Lywodraeth y DU yn mynd â chyllid a fyddai cyn hyn wedi cael ei ddyrannu i Gymru i’w wario yn unol â’r blaenoriaethau y mae’r Senedd hon yng Nghymru – sydd wedi’i hethol gan bobl Cymru – wedi’u nodi. Mae hyn yn golygu mai adrannau Whitehall fydd yn gwneud penderfyniadau; adrannau sydd heb hanes o gwbl o gyflawni prosiectau yng Nghymru, dim profiad o weithio gyda chymunedau yng Nghymru a dim dealltwriaeth o beth yw blaenoriaethau’r cymunedau hynny. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau ar faterion datganoledig yng Nghymru heb fod yn atebol i Senedd Cymru ar ran pobl Cymru.
Yn ogystal â hynny, gyda £800 miliwn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a hynny wedi’i wasgaru dros bedair blwyddyn ariannol, byddai’n debygol o olygu ychydig mwy na £50 miliwn bob blwyddyn ar gyfer prosiectau Cymru – rhan fach o’r cyllid rydym wedi’i golli o ganlyniad i golli mynediad at Gronfeydd Strwythurol. At hynny, mewn gwrthgyferbyniad i’r ‘ffordd arferol’ y caiff symiau canlyniadol Barnett eu dyrannu, nid oes unrhyw ran o’r arian hwn wedi’i glustnodi i Gymru.
Mae ein Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 ac a gafodd ei gynhyrchu ar y cyd gyda’n rhanddeiliaid, yn amlinellu ein blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru, gan ddefnyddio dull cadarn, seiliedig ar dystiolaeth a strwythur llywodraethiant tryloyw. Nid ydym wedi cael unrhyw wybodaeth am sut y bydd y Gronfa Codi’r Gwastad yn gweithio’n ymarferol, a sut y bydd Llywodraeth y DU yn dangos tryloywder, ymgysylltiad â rhanddeiliaid a dyhead gwirioneddol i godi’r gwastad ar draws y DU. Disgwylir y bydd prosbectws ar y Gronfa Codi’r Gwastad yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis nesaf, wythnosau’n unig cyn y bydd yr arian yn dechrau cael ei wario.
Rydym nawr yn wynebu’r posibilrwydd o gael dull gweithredu canolog dan arweiniad Whitehall, yn hytrach na dull wedi’i ranbartholi, gan Gymru, ar gyfer Cymru. Ar y llaw arall, bydd ein Fframwaith, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid ac a lywiwyd gan awdurdod arweiniol y byd ar lywodraethiant aml-lefel, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), yn trosglwyddo pŵer, cyllid a chyfrifoldeb mewn ffordd ystyrlon i endidau rhanbarthol sy’n meddu ar ddealltwriaeth lawn o anghenion eu cymunedau, ac a fydd yn sicrhau bod cymunedau lleol yn gallu dal y rheini sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif.
Mae’n bwysig cofio bod gan Lywodraeth bresennol y DU hanes gwarthus o gynnig hyd yn oed y gyfran deg o wariant y DU i Gymru, heb sôn am y math o gyllid sydd ei angen i ‘godi’r gwastad’. Dau o’r prif ysgogiadau ar gyfer codi’r gwastad yw buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu a seilwaith rheilffyrdd, sy’n parhau i gael eu cadw’n ôl i San Steffan. Yn y ddau faes hyn, mae Cymru wedi cael bargen wael yn gyson. Pe bai Llywodraeth y DU o ddifrif ynghylch ei hagenda i godi’r gwastad i Gymru, byddai’n canolbwyntio ar wneud iawn am ei methiant hanesyddol a buddsoddi’n ddigonol yng Nghymru. Ond yn hytrach, mae Llywodraeth y DU yn mynd ati’n fwriadol i gymryd arian oddi wrth Gymru a chychwyn brwydr gyfansoddiadol ddi-angen er mwyn gwanhau pwerau datganoledig ynghanol pandemig byd-eang.
Mae obsesiwn Llywodraeth y DU gyda thanseilio datganoli democrataidd yn ysgogi ymgais sinigaidd i ail-frandio gwariant presennol fel gwariant newydd, ac atal cynnydd model o ddatblygu rhanbarthol a fydd yn grymuso cymunedau lleol a chreu swyddi a thwf ar draws Cymru.