Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pecyn cymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau yw'r cynnig mwyaf hael o gymorth unrhyw le yn y DU.
Mae ein pecyn cymorth i fusnesau gwerth £1.7 biliwn a mwy, sy'n cyfateb i 2.6% o'n Gwerth Ychwanegol Gros (GYC), yn ategu cynlluniau eraill y DU ac yn golygu bod cwmnïau yng Nghymru yn gallu cael y cynnig mwyaf hael o gymorth o gymharu ag unrhyw le arall yn y DU.
Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi'i chynllunio i lenwi bylchau a adawyd gan Lywodraeth y DU yn ei phecyn cymorth i fusnesau. Y rheswm am hyn yw ein bod eisiau cefnogi cynifer o fusnesau ag y gallwn yn ystod yr adeg hynod heriol hon.
Hyd yma mae ein ERF wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300miliwn o gymorth. Mae hefyd wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall.
Yr wythnos diwethaf agorwyd Cam 3 y Gronfa i geisiadau gyda'r cylch cymorth diweddaraf hwn yn rhyddhau £300miliwn pellach i fusnesau yng Nghymru i'w helpu i ddelio â heriau economaidd y cyfnod atal byr presennol hwn a'u helpu i baratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Covid wrth i'r DU ymadael â chyfnod pontio Brexit.
Mae dwy brif ran i gymorth ERF 3:
- Yn gyntaf, pecyn gwerth £200miliwn o Grantiau i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i helpu'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan yr heriau tymor byrrach o orfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ogystal â'r rhai sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau lleol cyn iddo ddechrau. Bydd yr elfen hon yn rhoi cyllid brys i fwy na 60,000 o fusnesau micro a busnesau bach a chanolig i'w helpu gyda chostau sefydlog yn ystod y cyfnod atal byr ac mae'n cynnwys cymorth yn ôl disgresiwn sydd ar gael ar lefel awdurdod lleol. Mae £11miliwn eisoes wedi cyrraedd busnesau.
- Yn ail, pecyn gwerth £100m o Grantiau Datblygu Busnes i helpu cwmnïau i baratoi eu hunain ar gyfer yr heriau tymor hwy y maent yn eu hwynebu. Ni fwriadwyd yr elfen hon fel cyllid brys o ddydd i ddydd ond i ariannu prosiectau a all baratoi eu busnes ar gyfer dyfodol ar ôl Covid ac ar ôl ymadael â’r UE.
Mae'r galw am elfen Grant Datblygu Busnes y Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn eithriadol gyda bron i 6,000 o geisiadau wedi dod i law. Mae'r gronfa wedi'i rhewi i ganiatáu i asesiad o geisiadau gael ei gynnal ac i daliadau gael eu rhoi i ymgeiswyr llwyddiannus cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddechrau sicrhau cymorth yng nghyfrifon banc busnesau Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn ystod y dyddiau cyntaf rydym eisoes wedi cymeradwyo grantiau i ficrofusnesau yn amrywio o lansio rhaglen gerddoriaeth a llesiant i leihau costau ynni drwy osod drysau a ffenestri newydd, ac mae'r ddau ohonynt yn sicrhau swyddi a buddsoddiad ar gyfer y dyfodol.
Fodd bynnag, nid yw'r oedi hwn yn effeithio ar elfen gyntaf a llawer mwy y gronfa – y Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £200m yr ERF sy'n parhau ar agor.
Darperir cyllid ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Bydd yr elfen hon o'r gronfa yn darparu'r canlynol i dros 60,000 o fusnesau:
- Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n gorfod cau (fel y'u diffinnir gan y rheoliadau) yn ystod y cyfnod atal byr mewn eiddo sydd â gwerth trethadwy rhwng £12,001 a £51,000 yn gymwys i gael taliad o £5,000.
- Bydd pob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach sy’n meddiannu eiddo â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai yn gymwys i gael taliad o £1,000.
- Bydd grant £2,000 atodol yn ôl disgresiwn ar gael ar sail gwneud cais i'r busnesau hynny sydd â gwerth trethadwy o £12,000 neu lai sy'n cael eu gorfodi i gau gan y cyfnod atal byr (fel y'u diffinnir gan y rheoliadau).
- Bydd grant pellach o £1,000 yn ôl disgresiwn ar gael i fusnesau ar yr un sail lle mae cyfyngiadau symud lleol wedi effeithio'n sylweddol arnynt cyn dechrau'r cyfnod atal byr.
Rhaid i fusnesau fod ar y rhestr ardrethu ar gyfer Ardrethi Annomestig (NDR) ar gyfer eu hawdurdod lleol ar 1 Medi. Er y bydd gan rai busnesau eiddo sy'n gymwys i gael grant NDR, i dderbyn unrhyw un o’r Grantiau i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud, bydd angen i fusnesau gofrestru eu manylion, yn ogystal â gwneud cais byr ar-lein i'w hawdurdod lleol perthnasol am yr elfennau a fydd yn cael eu darparu yn ôl disgresiwn.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn darparu Grant yn ôl Disgresiwn i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud gwerth £25miliwn ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau neu yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol nad ydynt yn talu ardrethi busnes ac felly nad ydynt yn gymwys i gael y grantiau cysylltiedig â NDR. Gall busnesau cymwys wneud cais am grant o £1.5 mil ac mae'r rhai sydd wedi bod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau symud lleol cyn y cyfnod atal byr cenedlaethol yn gymwys i gael £500 ychwanegol.
Rwyf hefyd yn cydnabod bod y gronfa yn ôl disgresiwn i fusnesau dan gyfyngiadau symud yn cael ei defnyddio'n llawn mewn nifer bach o ardaloedd awdurdodau lleol a bod eraill yn agos i’w defnyddio'n llawn. Mewn ymateb, mae'r Gweinidog Cyllid a minnau wedi gofyn i swyddogion holi cydweithwyr awdurdodau lleol sut y gallwn addasu’r gyllideb nas defnyddiwyd o gylch gwreiddiol grantiau cysylltiedig â NDR Covid-19 i ddarparu mwy o arian i gefnogi'r busnesau hynny sy'n gymwys o dan y gronfa hon.
Mae'r pecyn ERF gwerth £300m wrth gwrs yn ychwanegol at gymorth Trysorlys Ei Mawrhydi sydd ar gael drwy'r Cynllun Cadw Swyddi a'r cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig sydd wedi'u gwella yn y dyddiau diwethaf, fel yr ydym ni fel Llywodraeth wedi gofyn amdano. Mae’r ERF yn unigryw ac yn gronfa ychwanegol y gall Busnesau Cymru gael mynediad iddi i’w helpu i oroesi a chefnogi eu gweithwyr.
Yn olaf, rwy'n parhau i archwilio opsiynau pellach i gefnogi busnesau drwy'r pandemig, gan gynnwys eu helpu i baratoi ar gyfer ymadael â’r UE. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyllid, wedi neilltuo cyllid i gefnogi busnesau a gweithwyr trwy pedwerydd cam o’r Gronfa Cadernid Economaidd ac rydym yn datblygu mecanwaith i fusnesau gofrestru mewn unrhyw gronfeydd yn y dyfodol. Byddaf yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf yn ystod yr wythnosau nesaf.