Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Diwygio Gwasanaethau Bysiau yn Ehangach
Mae'r Bil Trafnidiaeth (Cymru) yn elfen allweddol o broses ddiwygio ehangach sydd ar waith o ran cyflenwi gwasanaethau bysiau yng Nghymru. Bydd yn cyfrannu at ein huchelgais o sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, aml-foddol, carbon isel ac o ansawdd uchel, sy'n diwallu anghenion teithwyr.
Bydd y newidiadau a gynigir yn y Bil yn ceisio mynd i'r afael a rhai o effeithiau negyddol dadreoleiddio ar ddefnyddwyr, gweithredwyr ac awdurdodau drwy greu sawl dull a fyddai'n galluogi awdurdodau lleol i ymyrryd os ydynt am wneud hynny. Ni fydd defnyddio'r dulliau hyn ar eu pennau eu hunain, fodd bynnag, yn stopio neu'n gwrthdroi'r dirywiad yn y niferoedd sy’n defnyddio bysiau.
Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy annog teithwyr i ystyried peidio â defnyddio eu ceir preifat. Bydd hynny'n lleihau tagfeydd, allyriadau carbon ac yn gwella ansawdd aer a pherfformiad economaidd. Hoffem weld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd gwahanol lefydd, a hynny'n brydlon ac yn gyflym.
Nid oes modd ystyried diwygio gwasanaethau bysiau ar ei ben ei hun chwaith. Yr unig ffordd o weld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yw drwy ddarparu system wirioneddol integredig lle nad y dull trafnidiaeth (bws, trên neu dacsi) sy'n bwysig ond y ffaith bod defnyddio'r holl ddulliau trafnidiaeth heb anhawster ac am bris rhesymol yn rhoi dewis arall i bobl yn hytrach na defnyddio eu ceir preifat.
Fel rhan o’r agenda hon, yn ddiweddar lansiais nifer o brosiectau Teithio Ymatebol Integredig peilot.
Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn newid pob un o’r 750,000 o basys teithio rhatach cyfredol.
Mae’r gwaith hwn, ochr yn ochr â gwaith Trafnidiaeth Cymru ar y gwasanaeth rheilffyrdd, yn seiliedig ar blatfform technoleg newydd a fydd yn ein galluogi i gyflwyno datrysiad ar gyfer tocynnau sy’n seiliedig ar gyfrif ar gyfer bysiau, trenau, llogi beiciau, parciau a theithio a mynediad at ddulliau trafnidiaeth eraill. Y system hon fydd y sail ar gyfer y ffordd mae pobl ledled Cymru yn defnyddio a thalu am wasanaethau bysiau yn y dyfodol.
Drwy Trafnidiaeth Cymru, rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid ledled Cymru i ystyried sut y gellir gwella gwasanaethau bysiau drwy integreiddio llwybrau ac amserlenni’n well – â threnau, er enghraifft. O Gaerdydd i Sir y Fflint bydd hyn yn cael effaith wirioneddol ar y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu gweithredu er budd defnyddwyr.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau ledled Cymru, a hoffwn i eu cydnabod a diolch iddynt am eu cymorth a’u cydweithrediad.
Bil Trafnidiaeth Cyhoeddus (Cymru)
Rhwng mis Rhagfyr 2018 a mis Mawrth 2019, gwnaethom ymgynghori ar y Papur Gwyn ar Wella Trafnidiaeth Gyhoeddus sy'n amlinellu cynigion ar gyfer gwella'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol, ynghyd a chynigion ar gyfer diwygio'r drefn drwyddedu ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Yn dilyn yr ymgynghoriad a'r gwaith ymgysylltu, rydym wedi bod wrthi yn adeiladu ar y Papur Gwyn ac yn datblygu'r cynigion ar gyfer Bil.
Yn natganiad deddfwriaethol Prif Weinidog Cymru ar 16 Gorffennaf, cadarnhawyd y byddai'r Bil Trafnidiaeth Gyhoeddus (Cymru) yn cael ei gynnwys ym mlwyddyn 4 o'r rhaglen ddeddfwriaethol bresennol.
Gan adeiladu ar yr agenda ehangach ar gyfer diwygio bysiau a’n partneriaethau ag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, bydd y Bil yn rhoi darpariaethau galluogi yn eu lle a fydd yn darparu set o ddulliau i'w hystyried gan awdurdodau lleol wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau bysiau, gan gynnwys gweithio partneriaeth gwell, mansachfreinio a gwasanaethau bysiau a redir gan awdurdodau lleol. Bydd y Bil yn rhoi trefniadau newydd yn eu lle ar gyfer rheoli a rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod gwybodaeth i'r cyhoedd yn fwy hygyrch ac yn ddibynadwy, a bydd awdurdodau lleol mewn gwell sefyllfa i wneud trefniadau i fynd i'r afael â newidiadau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Bydd y Bil hefyd yn diwygio'r oedran i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ffioedd siwrneiau consesiynol gorfodol er mwyn iddo, gydag amser, gyd-fynd ag oedran pensiwn y wladwriaeth. Mae gwaith wedi bod ar y gweill i ddatblygu Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft i ystyried costau a manteision posibl y ddeddfwriaeth arfaethedig. Bydd swyddogion yn parhau i drafod gyda rhanddeiliaid allweddol dros yr haf er mwyn diweddaru a mireinio'r ddogfen cyn cyflwyno'r Bil a thrwy gydol y broses ddeddfwriaethol.
Asesiad Effaith Rheoleiddiol (RIA)
Mae'r Papur Gwyn, a gyhoeddwyd ar 10 Rhagfyr 2018, yn nodi y byddai Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft sy'n ceisio pennu costau, manteision ac effeithiau'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019. Daeth yn amlwg yn ystod gwaith datblygu'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, fodd bynnag, na fyddai ymgynghori ar yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn ystod y cyfnod hwn mor fuddiol â'r disgwyl. O'r herwydd penderfynwyd peidio â chyhoeddi'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft ar y cyd â'r Papur Gwyn at ddiben ymgynghori.
Nod y cynigion deddfwriaethol yn y Papur Gwyn yw sefydlu dulliau deddfwriaethol a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i gydweithio â'i gilydd, a chyda gweithredwyr bysiau, er mwyn ymateb mewn ffordd hyblyg i anghenion cymunedau lleol. Felly, gallai goblygiadau'r ddeddfwriaeth o safbwynt costau amrywio'n sylweddol, gan ddibynnu ar ba un o'r opsiynau y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu ei ddefnyddio ar gyfer mynd i'r afael â'r amgylchiadau a'r heriau o fewn eu cymunedau. Bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol drafft yn mynd i'r afael a'r materion hyn. Bydd yn cael ei gyhoeddi cyn hir a bydd modd ei weld drwy'r ddolen a ganlyn: https://llyw.cymru/bydd-y-bil-trafnidiaeth-gyhoeddus-cymru-asesiad-effaith-rheoleiddiol-drafft.
Bydd fy swyddogion yn trafod gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, dros yr haf i lywio datblygiad parhaus yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda'r sectorau hyn i brofi'r rhagdybiaethau a'r dadansoddiad ariannol a nodir yn yr Asesiad drafft ac i ddefnyddio'r adborth i ddatblygu a chryfhau'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol drwy'r broses ddeddfwriaethol.
Tacsis a cherbydau hurio preifat
Fel yr amlinellwyd yn natganiad deddfwriaethol Prif Weinidog Cymru, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth sy'n ymwneud a thacsis a cherbydau hurio preifat yn y Bil hwn. Mae’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â thacsis a cherbydau hurio preifat wedi dyddio bellach ac mae mynd i'r afael a hynny yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg iawn bod cryn dipyn o waith angen ei wneud cyn y gallwn gyflwyno deddfwriaeth sy'n mynd i'r afael â'r gwelliannau sydd eu hangen. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn pwysleisio'r amrywiaeth eang o safbwyntiau rhanddeiliaid am sut y dylid gwella'r ddeddfwriaeth sy'n sail i weithrediad y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat ac nid yw'r safbwyntiau hynny yn gyson ar draws y diwydiant.
Ar ben hynny, mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynnig cyflwyno canllawiau newydd sy'n ymwneud â mesurau i ddiogelu plant ac oedolion sy'n agored i niwed pan fônt yn defnyddio tacsis a cherbydau hurio preifat. Byddai'r mesurau hyn yn gymwys i Gymru. Mae'r Adran Drafnidiaeth hefyd yn ystyried cyflwyno safonau gofynnol cenedlaethol; pwerau gorfodi cenedlaethol; cronfa ddata genedlaethol a rhyw fath o gyfyngiadau o ran gweithredu y tu allan i ardal. Byddai'r darpariaethau hyn yn gymwys i Loegr yn unig, oni bai bod Llywodraeth Cymru am eu hymestyn i Gymru ac yn cyflwyno'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol angenrheidiol. Mae'r camau sy'n cael eu hystyried gan yr Adran Drafnidiaeth hefyd wedi rhoi achos inni ailystyried y cynigion.
Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i weithio gyda’r diwydiant i gyflwyno deddfwriaeth er mwyn dod â’r rheoliad sy’n ymwneud â Thacsis a Cherbydau Hurio Preifat i’r unfed ganrif ar hugain. Fodd bynnag, yn hytrach nag achosi oedi wrth gyflwyno ein cynigion pwysig mewn perthynas â gwasanaethau bysiau er mwyn cryfhau’r elfennau sy’n ymwneud â thacsis, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddoe y byddwn yn gwahanu dwy ran y Bil arfaethedig y tymor hwn, ac yn gweithio i gyflwyno bil ar wahân ar dacsis yn gynnar yn y tymor nesaf.
Yn y cyfamser, rwyf wedi gofyn i swyddogion ddatblygu pecyn o fesurau byrdymor gan ddefnyddio'r pwerau deddfwriaethol presennol, i ddechrau ymdrin â rhai o bryderon awdurdodau lleol, gyrwyr, undebau ac eraill. Mae swyddogion eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu a chyflenwi'r trefniadau byrdymor hyn. Caiff cynllun i ddarparu'r mesurau newydd yn y dyfodol ei ddatblygu ar ddiwedd yr hydref.
Gweithio’n Rhanbarthol
Mae sefydlu trefniadau ffurfiol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol yn dal i fod yn elfen allweddol o'n huchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae gwaith yn cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull cyffredin er mwyn sicrhau bod y ffordd hon o weithio’n gyson ac yn effeithiol.
Mae adborth o'r ymgynghoriad a'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori wedi darganfod bod y rhan fwyaf o randdeiliaid yn cytuno y dylai fod trefniadau yn eu lle ar gyfer gweithio’n rhanbarthol er mwyn cynllunio a darparu gwasanaethau bysiau, ac y dylai Gweinidogion Cymru, mewn egwyddor, gael pwerau i gyhoeddi canllawiau a chyfarwyddyd ac i ymyrryd pan ystyrir bod y trefniadau hynny yn methu. Fodd bynnag, mae llawer wedi gofyn am eglurder ynghylch o dan ba amodau y byddai’r pwerau hynny yn debygol o gael eu defnyddio.
Ers lansio'r Papur Gwyn, cytunwyd y dylai'r Llywodraeth gynnwys pwerau yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i greu un mecanwaith ar gyfer gweithio’n rhanbarthol – sef y Cyd-bwyllgorau Statudol ar hyn o bryd. Mae angen cysoni a symleiddio pethau a'r uchelgais yw y bydd Cyd-bwyllgorau Statudol yn sicrhau hynny wrth reoli trefniadau cydweithredol ar gyfer gweithio’n rhanbarthol, gan barhau i gadw llygad a rheolaeth ddemocrataidd ar yr un pryd.
Rwyf wedi gweithio’n agos gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn y misoedd diwethaf i geisio lleihau’r potensial ar gyfer dyblygu yn ein cynigion, ac rwy’n falch ein bod wedi cytuno i edrych ar sut y gall model Cyd-bwyllgor Statudol gael ei ddefnyddio i sicrhau bod rhanbarthau yn gweithio'n effeithiol ym maes trafnidiaeth.
Ym mis Chwefror 2019, cytunodd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) i ffurfioli'r trefniadau anffurfiol blaenorol ar gyfer cydweithio’n rhanbarthol drwy gefnogi'r gwaith o sefydlu grŵp ffurfiol o Aelodau Cabinet ym maes Trafnidiaeth o fewn trefniadau llywodraethu NWEAB a Bargen Twf y Gogledd. Mae NWEAB yn awyddus i gefnogi Llywodraeth Cymru i beilota rhai agweddau ar y Papur Gwyn drwy eu darparu'n rhanbarthol.
Mae rhestr amlinellol o faterion ar gyfer gweithio’n rhanbarthol wedi'i hystyried a fydd yn sail i raglen waith y grwp dros y 18 mis nesaf. Mae'n cynnwys
- Datblygu Rhwydwaith Bysiau Strategol a phrosiectau cysylltiedig
- Ymateb i'r Papur Gwyn Gwella Trafnidiaeth a chynigion i sefydlu trefniadau ar gyfer gweithio’n rhanbarthol
- Paratoi ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth a rheoli'r ffordd y caiff prosiectau peilot newydd eu darparu
- Monitro datblygiadau o ran y rheilffyrdd a chyfleoedd i integreiddio fel rhan o Fetro Gogledd Cymru
- Paratoi ar gyfer y fersiwn nesaf o Strategaeth Trafnidiaeth Cymru / y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, a'u cefnogi, a'r angen i adolygu'r Cynllun Trafnidiaeth Leol Rhanbarthol
- Paratoi ar gyfer gweithredu parthau 20mya
- Cyflenwi'r strategaeth ffyrdd nad yw wedi'i fabwysiadu
- Cydgysylltu rhanbarthol a chyflenwi prosiectau Teithio Llesol
- Ymateb i'r agenda Gwella Ansawdd Aer a'r effaith bosibl ar rwydweithiau trafnidiaeth.
Mae'r NWEAB wedi cefnogi'r agenda ar gyfer gweithio’n rhanbarthol ac wedi croesawu'r cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddatblygu rhaglen sy'n seiliedig ar y cynllun gwaith cychwynnol a nodir uchod.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y gwaith pwysig hwn dros y misoedd nesaf.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.