Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn gynharach eleni, cyhoeddais ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc, a oedd yn nodi sut y byddwn yn cefnogi plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu i fyny yng Nghymru.  Rydym eisiau i’n plant gael y cychwyn gorau i’w bywydau, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod na ble y maent yn byw.

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i gynnig bwndeli babanod am ddim i fwy o deuluoedd ledled Cymru i helpu i roi’r cychwyn gorau mewn bywyd i blant.

Ein nod yw darparu cynllun sy'n agored i bob rhiant newydd a darpar riant yng Nghymru. Byddai bwndeli'n cael eu cynnig i bob teulu yn rhad ac am ddim, ar gyfer pob babi sy’n cael ei eni.  Byddent yn rhodd i groesawu babanod newydd, heb unrhyw amodau ynghlwm â nhw a heb stigma. 

Rydym yn dymuno i’r holl rieni sy’n disgwyl babi yng Nghymru deimlo bod eu plentyn yn cael ei werthfawrogi, a’u bod yn cael pob cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu taith fel rhieni.

Rydym eisoes wedi cynnal cynllun peilot bach, ond llwyddiannus – cafodd 200 o deuluoedd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fwndeli babanod rhwng mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021.

Asesodd y cynllun peilot egwyddorion gweithredu cynllun cenedlaethol, gan gynnwys a oedd bwndeli babanod yn gwneud y canlynol:

  • Cyfrannu tuag at roi'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob babi newydd-anedig yng Nghymru.
  • Darparu eitemau hanfodol ac arweiniad i rieni newydd yn ystod wythnosau a misoedd cyntaf bywyd eu babi newydd
  • Rhoi rhodd i bawb – heb unrhyw amodau, na stigma ynghlwm wrth ei dderbyn
  • Hyrwyddo cyfleoedd mwy cyfartal i rieni a’u babanod drwy leihau’r angen i wario ar nwyddau hanfodol ar gyfer babi newydd-anedig.

Mae’r gwerthusiad o’r cynllun peilot yn dangos ei fod yn llwyddiant, a chroesawyd y bwndeli gan bob rhiant a gymerodd ran. Roedd y bwndeli yn gwneud i rieni deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ar adeg arbennig.

Rydym yn parhau i weithio ar y cynllun bwndeli babanod a fydd, yn ein barn ni, yn helpu teuluoedd â’r argyfwng costau byw drwy ddarparu amrywiaeth o nwyddau hanfodol. Byddant hefyd yn cyfrannu at y canlynol:

  • Gwell canlyniadau i blant, drwy gyfeirio teuluoedd at wybodaeth a chyngor am fagu plant a rhaglenni cymorth. 
  • Mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, drwy roi yr un eitemau hanfodol i bob teulu i gefnogi cychwyn bywyd eu plant. 
  • Mynd i'r afael â thlodi, drwy gael gwared ar rai o’r costau a wynebir gan deuluoedd pan fo babi’n cael ei eni. 
  • Datgarboneiddio – bydd y bwndeli babanod yn osgoi nwyddau sy’n cael eu defnyddio unwaith yn unig ac yn lleihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir, gan ddefnyddio cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd.

Byddwn yn cynnal gwaith ymchwil pellach a rhagor o waith ymgysylltu â rhieni, bydwragedd ac ymwelwyr iechyd dros yr haf i lywio datblygiad y bwndeli babanod, gan gynnwys yr hyn sydd ynddynt a’r broses gofrestru. 

Edrychaf ymlaen at ddarparu diweddariadau pellach wrth i'r cynllun fynd rhagddo.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad yr haf er mwyn rhannu gwybodaeth ag aelodau. Petai aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn ailymgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.