Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a'r Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae rhaglenni cyllid yr UE wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pobl Cymru ers dros 20 mlynedd, gan helpu pobl i gael eu cyflogi a darparu'r amodau ar gyfer creu swyddi newydd a gwell.

Ers y refferendwm yn 2016, rydym wedi bod yn ceisio trafod gyda Llywodraeth y DU i weld pa ffynonellau eraill o gyllid fyddai ar gael i Gymru yn lle'r cyllid hanfodol hwn, sy’n seiliedig ar anghenion. Mae ein rhwystredigaeth â diffyg cynnydd a diffyg eglurder Llywodraeth y DU yn cael ei rannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a basiodd gynnig ar 11 Mehefin yn ailddatgan y galwadau cyson gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid.

Rydym yn parhau i bwyso am bob ceiniog y byddem wedi disgwyl ei derbyn o fewn yr UE – hynny yw, gofyn am i'r addewidion a wnaed i bobl Cymru yn ystod refferendwm 2016 gael eu hanrhydeddu. 

Rydym hefyd yn galw am i Lywodraeth Cymru gael cadw ymreolaeth dros ddatblygu a chyflawni'r trefniadau dilynol – hynny yw, gofyn am barchu datganoli, mater y pleidleisiodd bobl Cymru drosto ddwywaith.

Yn dilyn y drafodaeth, ysgrifennodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd at Weinidogion y DU unwaith eto ynghylch y materion hyn, ac fe fydd Gweinidogion Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog newydd pan fydd yn dechrau ar ei swydd.

Yn absenoldeb unrhyw drafodaeth ystyrlon hyd yma am ddyfodol y cyllid hanfodol hwn, mae Llywodraeth Cymru yn cynnal y momentwm i ddatblygu fframwaith buddsoddi yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, fel nad oes bwlch yn y buddsoddiad i fusnesau, pobl a chymunedau.

Er bod y gwaith hwn yn ddibynnol ar weld Llywodraeth y DU yn bodloni ein galwadau am gyllid ac ymreolaeth lawn, does dim modd i ni oedi os ydym o ddifrif am ddatblygu trefniadau dilynol mewn partneriaeth agos gyda'n rhanddeiliaid ar draws Cymru.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda'n partneriaid ar draws Cymru. Rydym wedi cymryd amrywiol sylwadau i ystyriaeth, sydd wedi’n helpu i osod y cyfeiriad a gytunwyd yn ddiweddar gan y Cabinet i lywio gwaith datblygu pellach dros yr haf a'r hydref.

Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau manwl ynghylch trefniadau dilynol yng Nghymru gyda'r rhanddeiliaid. Cafwyd cyfraniadau manwl ac ystyrlon gan Bwyllgorau'r Cynulliad, yn arbennig y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a'r Pwyllgor Cyllid. Gosodwyd ein galwadau ar gyfer cyllid amgen yng Nghymru yn Diogelu Dyfodol Cymru ym mis Ionawr 2017. Ymatebwyd i sylwadau cychwynnol gan randdeiliaid ym mis Rhagfyr 2017 gyda'r cynigion yn ein papur polisi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Cyhoeddwyd adroddiad annibynnol ar ymgysylltiad mewn perthynas â'r papur hwnnw ym mis Gorffennaf 2018.

Mis Hydref diwethaf, mewn ymateb i'r sylwadau hynny gan randdeiliaid, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar y pryd, Mark Drakeford y bwriad i weithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac i sefydlu Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru (y Grŵp Llywio) dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies AC. Y bwriad oedd sicrhau bod trefniadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth wirioneddol a'u hadeiladu ar arferion gorau rhyngwladol. Cadarnhaodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid hefyd y byddai'r cyllid amgen yn cael ei ddefnyddio ar gyfer datblygu economaidd rhanbarthol ac i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau, y byddai'n parhau i gael ei gynllunio a'i gyflawni ar sail aml-flwyddyn, ac y byddai'n canolbwyntio ar ganlyniadau.

Mae'n trafodaethau gyda'n partneriaid yng Nghymru wedi parhau, gan gynnwys drwy'r Grŵp Llywio sydd wedi trafod a chynghori ar feysydd fel cwmpas polisi, canlyniadau integredig, gwahanol fodelau cyflawni a chynlluniau ymgysylltu ehangach. Mae'r Grŵp Llywio wedi cyfarfod ddwywaith hyd yma, ym mis Chwefror a mis Mai eleni, ac fe fydd cyfarfod arall yr wythnos hon (18 Gorffennaf). Rydym yn agored ac yn dryloyw am y gwaith hwn, ac mae'r papurau a'r cofnodion yn cael eu cyhoeddi yma.

Mae'n gwaith gyda'r OECD yn brosiect dwy flynedd i sicrhau bod arferion gorau rhyngwladol ar ddatblygu rhanbarthol a llywodraethiant yn cael eu hadeiladu i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Dechreuodd yr OECD ar y gwaith ym mis Ionawr, ac yn ddiweddar cwblhaodd astudiaeth yng Nghymru i glywed yn uniongyrchol gan y llywodraeth a rhanddeiliaid. Rydym yn bwriadu cynnal seminar erbyn diwedd y flwyddyn i gyflwyno'r canfyddiadau cychwynnol a chael rhagor o adborth.

Mae'r Cabinet wedi ystyried y trafodaethau hyn ac wedi cytuno ar gyfres o feysydd allweddol sy’n cwmpasu blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol a chymysgedd o ddulliau gweithredu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Nid dyma'r geiriau terfynol yn y meysydd hyn, ond maent yn darparu fframwaith i symud ymlaen â'n gwaith gyda'n partneriaid dros yr haf a'r hydref. Yn ddarostyngedig i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU, rydym yn bwriadu lansio dogfen ymgynghori ddechrau 2020, er mwyn gosod trefniadau dilynol yn eu lle o 2021 ymlaen. 

Rydym yn cytuno â'n partneriaid ar draws Cymru bod rhaid i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol fod wrth galon ein cynlluniau, a bod rhaid i ni gymryd y cyfle hwn i integreiddio polisïau a ffrydiau cyllido i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau mewn ffordd well a chefnogi twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob rhan o Gymru.

Rydym wedi cytuno ar bedwar maes blaenoriaeth cyffredinol i ganolbwyntio gwaith datblygu pellach, ar sail y rhai drafodwyd yn y Grŵp Llywio. Maent wedi'u llunio i fodloni ymrwymiadau blaenorol ar gyfer dull gweithredu sy'n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau wrth edrych ar fuddsoddi rhanbarthol, mwy o gyfleoedd ar gyfer integreiddio, a fframwaith symlach a mwy hyblyg. Dyma'r meysydd dan sylw:

  • Lleihau anghydraddoldeb incwm i bobl, gan ddadansoddi'r ffactorau sy'n creu anghydraddoldeb incwm a gostwng incwm gwrio ac incwm yn ôl disgresiwn.
  • Busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, gan gynnwys swyddogaeth hanfodol arloesi ac ymchwil yn ogystal â modelau busnes amgen.
  • Newid i economi di-garbon, gan fanteisio ar y cyfleoedd sy'n codi yn ogystal â lleihau effeithiau negyddol.
  • Cymunedau iachach a mwy cynaliadwy, gan gydnabod y gwahanol heriau mewn gwahanol gymunedau a swyddogaeth ardaloedd lleol wrth nodi blaenoriaethau yn eu hardaloedd.

Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i edrych ar dystiolaeth yn y meysydd hyn a dysgu o'r hyn sy'n gweithio. Byddwn yn datblygu cyfres o ganlyniadau ym mhob maes, ffyrdd priodol o fesur llwyddiant, a nodi blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi. Bydd meysydd fel seilwaith a buddsoddi mewn sgiliau yn bwysig ar draws pob maes blaenoriaeth. Rydym hefyd wedi ymrwymo i edrych ar gydraddoldeb, datblygu cynaliadwy a chefnogi'r Gymraeg mewn ffordd drawsbynciol gadarn.

Mae'r Cabinet wedi cytuno bod rhaid i'r model cyflawni y byddwn yn ei fabwysiadu sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cynllunio a chyflawni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Bydd ein meysydd blaenoriaeth yn darparu sylfaen ar gyfer fframwaith cenedlaethol (Cymru gyfan) i flaenoriaethu buddsoddiadau cenedlaethol (ee darparu mynediad at gyllid i fusnesau) a all gyfrannu at gyfres gyffredin o ganlyniadau a chreu manteision sylweddol yn rhanbarthol ac yn lleol. Bydd y fframwaith cenedlaethol yn parhau i fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu ar gyfer adnabod blaenoriaethau rhanbarthol a lleol.

Ar lefel ranbarthol rydyn ni am weld mwy o gynllunio a phenderfyniadau o fewn ein rhanbarthau. Mae'r Cabinet wedi cytuno i ymrwymo i'r egwyddor o ddyrannu rhywfaint o gyllid yn rhanbarthol ac yn ddatganoledig, yn unol â fframweithiau economaidd rhanbarthol a gan adlewyrchu'r cynigion ar gyfer gwaith rhanbarthol. Bydd y gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda'r OECD a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar weithio rhanbarthol a llywodraethiant yn ein helpu i osod y strwythurau cywir ac adeiladu gallu, fel bod modd i gyrff rhanbarthol reoli cyllid mewn ffordd effeithiol gyda chefnogaeth partneriaethau cynrychioladol. Gall y fframweithiau economaidd rhanbarthol sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd fel rhan o'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi fod yn sylfaen ar gyfer blaenoriaethu cyfleodd ac anghenion ym mhob rhanbarth, yn yr un ffordd ag y bydd y fframwaith cenedlaethol yn adlewyrchu amcanion polisi cenedlaethol.

Mae'r Cabinet hefyd wedi cytuno y dylai gwaith ar fuddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol greu model ar gyfer datblygu lleol dan arweiniad y gymuned, fel bod modd i gymunedau gael llais yn y ffordd mae buddsoddiad yn cael ei dargedu o fewn eu hardal leol. Mae'r gwaith hwn yn gyfle i adeiladu ar brofiadau fel y dull LEADER dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Bydd y Grŵp Llywio yn parhau i gyfarfod a chynghori Gweinidogion am y cynlluniau. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, mae gweithgorau technegol, sy'n cynnwys arbenigwyr mewnol ac allanol, yn cael eu sefydlu'r mis hwn i edrych ar faterion penodol mewn mwy o fanylder. Maent yn cynnwys gweithgorau ar y fframwaith cenedlaethol, gweithredu a chyflawni, ymchwil, monitro a gwerthuso, a gwaith rhyngwladol a thrawsffiniol (yn arbennig gyda Lloegr).

Rhaid i ni sylweddoli mor fawr yw’r her o ddisodli polisi a threfniadau cyllido ym maes buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Rhaid i ni adeiladu ar ein profiad ni i gyd, a enillwyd dros sawl degawd, o ddatblygu a gweithredu rhaglenni buddsoddi llwyddiannus cyllid yr UE. Rhaid i ni hefyd ddysgu gwersi - cadarnhaol a negyddol - o wahanol ddulliau gweithredu ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae llawer o waith i'w wneud er mwyn datblygu trefniadau dilynol ar gyfer 2021, ac mae'r meysydd allweddol a gytunwyd gyda'r Cabinet yn darparu ffocws i'n gwaith pellach gyda rhanddeiliaid yng Nghymru.