Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r pandemig wedi cael effaith anferth ar fywydau pob un ohonom – ond yn arbennig ar bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd.
Mae nifer o bobl wedi cael eu gwahanu oddi wrth ei teulu ehangach am fisoedd ar y tro, heb allu cael ymwelwyr oherwydd y cyfyngiadau llym ar ymweliadau â chartrefi gofal, sy’n angenrheidiol er mwyn diogelu preswylwyr rhag y peryglon o ddal y coronafeirws.
Dyma un o’r meysydd anoddaf o ran ceisio taro cydbwysedd rhwng diogelu iechyd corfforol pobl a’u lles emosiynol. Mae angen y mesurau hyn oherwydd gwyddom fod achosion o’r coronafeirws mewn cartrefi gofal yn gallu bod yn hynod dorcalonnus. Ond gwyddom hefyd fod cyfyngiadau ar ymweliadau wedi achosi poen meddwl i breswylwyr a’u teuluoedd, a’u bod wedi effeithio ar lesiant pobl.
Mae’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn gwella, diolch i’r holl waith caled a’r aberth y mae pobl ar draws Cymru wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf.
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod achosion o’r coronafeirws yn y gymuned wedi gostwng i tua 53 o achosion fesul 100,000 o bobl. Fodd bynnag, mae straen Caint o’r feirws yn heintus dros ben, a dyma’r straen mwyaf amlwg yng Nghymru erbyn hyn.
Mae gwybodaeth gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos bod nifer y cartrefi gofal sy’n datgan bod ganddynt achosion o COVID-19 hefyd yn gostwng – nododd 173 (16.5%) o gartrefi gofal i oedolion yng Nghymru bod ganddynt un neu fwy o achosion o COVID-19 wedi’u cadarnhau ymhlith staff neu breswylwyr yn yr 20 diwrnod diwethaf. Dyma ostyngiad o 6.2% o gymharu â’r adroddiad diwethaf a gyhoeddwyd pythefnos yn gynt.
Mae ein rhaglen frechu hefyd yn mynd o nerth i nerth – diolch i ymdrechion enfawr miloedd o bobl ar draws Cymru dros y 12 wythnos diwethaf. Mae nifer anghredadwy o uchel o breswylwyr cartrefi gofal wedi cael eu brechu - mae mwy na 94% o breswylwyr wedi cael y dos cyntaf, a 84% o staff cartrefi gofal.
Yn dilyn yr adolygiad tair wythnos diwethaf o reoliadau’r coronafeirws, dywedodd y Prif Weinidog y byddwn yn edrych eto ar y canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal, i weld a oes modd cefnogi rhagor o ymweliadau mewn cartrefi gofal. Dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, awdurdodau lleol, cynrychiolwyr darparwyr cartrefi gofal ac aelodau o’n grŵp rhanddeiliaid ar ymweliadau cartrefi gofal i ystyried sut y gallwn weithredu dull seiliedig ar risg er mwyn galluogi ymweliadau â chartrefi gofal i gael eu cynnal unwaith eto, lle y mae’n ddiogel gwneud hynny.
Rydym wastad wedi pwysleisio pa mor bwysig yw cael dull gweithredu sydd wedi’i asesu o ran risg. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain gweminar ar gyfer y sector yr wythnos nesaf i drafod asesiadau risg, gan ganolbwyntio’n benodol ar ymweliadau.
Fy mwriad yw y dylem fod yn gallu cyhoeddi y bydd modd i un ymwelydd penodedig gael ymweld â chartref gofal dan do yn rheolaidd o 13 Mawrth ymlaen, fel rhan o’r pecyn o fesurau ehangach sy’n cael eu hystyried ar gyfer yr adolygiad tair wythnos.
Drwy gydol y pandemig, mae darparwyr cartrefi gofal wedi ymdrechu i gadw cysylltiad rhwng eu preswylwyr a’u teuluoedd, gan weithredu o fewn y cyfyngiadau ehangach oedd ar waith. Nid yw hyn wedi bod yn hawdd, ac rwy’n canmol eu gwaith caled a’u harloesedd.
Er mwyn helpu cartrefi gofal i allu cynnal ymweliadau a chyswllt cymdeithasol rhwng preswylwyr a’u perthnasau, byddwn yn gweithio gyda Age Cymru i dreialu dull o ddatblygu gwirfoddoli mewn cartrefi gofal. Mae pob un ohonom wedi gweld bod gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i’r pandemig, ac rwy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar hyn.