Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymadael â’r UE wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein porthladdoedd, gan gynnwys y gofyniad am seilwaith newydd. Rwyf eisoes wedi cadarnhau ein hymrwymiad i sefydlu trefniadau parhaol a threfniadau dros dro ar gyfer Caergybi. 

Heddiw, rwy'n cadarnhau cam pellach yn y broses hon gyda phenodi Kier fel y contractwr ar gyfer dylunio'r cyfleuster Safle Rheoli Ffin (BCP) arfaethedig sydd i'w leoli yn llain 9, Parc Cybi. Yn ystod cam dylunio'r contract bydd Kier yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gynhyrchu dyluniadau manwl ar gyfer y cyfleuster, a fydd wedyn yn caniatáu i'r gost a'r amserlen gael eu cadarnhau.

Ni fydd y gwaith adeiladu ar y safle arfaethedig yn dechrau hyd nes y cytunir ar gam adeiladu'r contract, a ddisgwylir yn yr haf. Bydd y safle'n parhau i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster parcio cerbydau nwyddau trwm (HGV) tan hynny. Mae'r cam hwn hefyd yn amodol ar roi caniatâd cynllunio drwy Orchymyn Datblygu Arbennig, a disgwylir penderfyniad ym mis Mai. Rwy’n disgwyl y bydd y Safle Rheoli Ffin yn weithredol erbyn mis Ebrill 2023.

Gan droi at dde-orllewin Cymru lle y cyhoeddais yn flaenorol mai safle yn Johnston oedd y lleoliad a ffefrir gennym ar gyfer Safle Rheoli Ffin i wasanaethu Doc Penfro ac Abergwaun.  Gallaf gadarnhau yn awr ein bod wedi dod â’n trafodaethau i ben ar gyfer y safle penodol hwnnw, yn dilyn arolygon sydd wedi datgelu nifer fawr o rywogaethau ystlumod. Yn ogystal, nid yw crynhoi cyfleusterau rheoli ffin ar un llain bellach yn rhagofyniad. Mae hyn yn ehangu'r amrywiaeth o opsiynau posibl o ran safle rheoli ffin parhaol ar gyfer de-orllewin Cymru, a allai ganiatáu darpariaeth yn nes at y ddau borthladd, neu safle amgen yn ardal Johnston neu rywle arall.

O’r dechrau, rwyf wedi bod yn glir yn fy ymrwymiad i ddarparu trefniadau parhaol a thros dro yng Nghaergybi. Roedd cymeradwyo contract adeiladu yn rhan bwysig o'r ymrwymiad hwn, ac rydym bellach wedi gwneud hynny. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae gwaith datblygu trefniadau dros dro ar gyfer pob un o'r tri phorthladd a gynlluniwyd i ddod i rym o 1 Gorffennaf ymlaen. Dyma flaenoriaeth arall inni, a fydd yn sicrhau ein bod yn cynnal llif mewnforion o ynys Iwerddon, ac yn amddiffyn arferion o ran bioddiogelwch a diogelwch bwyd.

Rydym yn parhau i ddatblygu'r cynlluniau hyn gyda mewnbwn gan yr awdurdodau lleol, yr asiantaethau gorfodi perthnasol (gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)), yn ogystal â'r porthladdoedd. Rydym yn mynd i’r afael â’r manylion a’r trefniadau ymarferol ar gyfer y safleoedd hyn, gyda phob un o'r tri phorthladd fferi yng Nghymru yn cadarnhau bod lle i strwythur dros dro yn y porthladd er mwyn cynnal archwiliadau ar gyfer rhai nwyddau.

Mae estyn y mesurau rheoli fesul cam yn ddiweddar ar gyfer yr holl nwyddau sy’n symud o ynys Iwerddon i Brydain Fawr y tu hwnt i 1 Ionawr 2022 yn dal i greu ansicrwydd i'r rhai sy'n gorfod gwneud paratoadau. Rwyf yn parhau i godi’r pwynt hwn gyda Gweinidogion y DU.

Gwnaeth fy Natganiad Ysgrifenedig ar 19 Ionawr gadarnhau y byddwn yn ystyried y trefniadau Safle Rheoli Ffin parhaol ar gyfer Sir Benfro ar ôl mis Gorffennaf, ac nid yw hynny wedi newid. Nid wyf yn diystyru unrhyw opsiynau ar hyn o bryd – gan gynnwys safleoedd amgen yn Johnston. Mae darparu trefniadau dros dro yn caniatáu mwy o amser i ystyried yr holl opsiynau wrth fonitro newidiadau mewn llif masnach.